7. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:47, 17 Gorffennaf 2024

Dirprwy Lywydd, mae’r rheini sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau dros y misoedd diwethaf wedi rhoi digon i’r pwyllgor a’r Ysgrifennydd Cabinet gnoi cil yn ei gylch. Mae llawer o ddatrysiadau mae rhanddeiliaid wedi’u hawgrymu yn ymddangos yn fuddiol iawn i’r pwyllgor, a hoffem weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwrw ymlaen â’r syniadau a’r mentrau hyn yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf. Hoffwn bwysleisio pa mor werthfawr oedd y sesiynau hyn o ran llywio ein hadroddiad. Rwy’n edrych ymlaen at glywed cyfraniad Aelodau eraill a chyd-Gadeiryddion pwyllgorau ar y materion hyn, mewn dadl a fydd, gobeithio, yn un ffrwythlon ac adeiladol. Diolch yn fawr.