Ansawdd Dŵr Afonydd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Democratiaid Rhyddfrydol 2:24, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddilyn trywydd rhai o'r materion hynny hefyd, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr asiantaeth yr ydym yn dibynnu arni yma yng Nghymru er mwyn monitro ein hafonydd, sef CNC, Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gwybod bod chwythwyr chwiban wedi cyflwyno tystiolaeth frawychus yn gynharach yr wythnos hon, gan ddisgrifio CNC fel sefydliad sydd wedi'i barlysu gan fiwrocratiaeth a diffyg gweithredu, ac roedd yna ddogfennau mewnol yn dangos nad oedd 80 y cant o drwyddedau gollyngiadau yn cael eu monitro. Yn ogystal â hynny, dangosodd ymchwil gan Y Byd Ar Bedwar fod CNC wedi methu rhoi sylw i fwy na hanner y digwyddiadau llygredd a gofnodwyd rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024.

Felly, mae hwn yn bryder gwirioneddol ynghylch gallu a galluoedd CNC, sy'n digwydd yn erbyn cefndir lle rydym ni yma yng Nghymru yn talu mwy am ein dŵr, mewn gwirionedd, nag a wnânt yn Lloegr. Felly, a gaf i ofyn yn benodol i chi pa ymateb sydd gennych chi i'r dystiolaeth honno, a hefyd beth rydych chi'n ei wneud i gynyddu'r lefelau staffio a'r capasiti o fewn CNC? Diolch yn fawr iawn.