Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n siarad am eich gwaith gyda Llywodraeth y DU, ac rydych chi'n gwybod yn iawn fod Llywodraeth ddiwethaf y DU—y Llywodraeth Geidwadol—wedi darparu rhyddhad ardrethi o 75 y cant i'n diwydiant tafarndai a lletygarwch yn Lloegr ac wedi trosglwyddo'r arian hwnnw ymlaen i chi, fel Llywodraeth Cymru, i alluogi'r un lefel o ryddhad i'n tafarndai yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi benderfynu peidio â gwneud hynny. Mae tafarndai yma yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi o 40 y cant, ac felly maent dan anfantais gystadleuol o gymharu â chwmnïau dros y ffin. Felly, os ydych chi o ddifrif ynglŷn â chefnogi'r diwydiant hwn, pam na wnewch chi godi'r rhyddhad ardrethi yn ôl i 75 y cant?