Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod yn iawn fod llygredd afonydd yn bwnc dadleuol iawn ac yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yn 2023, ar sawl achlysur, fe wnaeth Dŵr Cymru ddympio carthion amrwd yn afon Gwy yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, yn ogystal â Rhymni, yn etholaeth Hefin David a fy rhanbarth i, ac er bod Hefin David wedi ceisio tynnu sylw at Lywodraeth y DU a'r hyn y gallant hwy ei wneud i helpu, fe wyddom i gyd fod y cyfrifoldeb am ansawdd dŵr yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, corff y mae'r Llywodraeth Lafur hon, fel y gwyddom i gyd yn rhy dda, wedi bod yn gyfrifol amdanynt ers oes pys.
Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid monitro gollyngiadau carthion amrwd yn agosach ac y dylid rhoi sancsiynau llymach ar waith i Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, fel ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn y cyfraddau hyn o'r diwedd a gwella ansawdd afonydd o dan y Llywodraeth Lafur hon i bobl Cymru? Diolch.