Ansawdd Dŵr Afonydd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:22, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y rheoliadau ansawdd dŵr, oherwydd gwyddom fod gofynion storio slyri yn dechrau ar 1 Awst. Nawr, ni fydd rhai ffermydd, yn anffodus, yn barod mewn pryd oherwydd efallai y gallai ceisiadau cynllunio ar gyfer mwy o seilwaith storio slyri fod yn sownd yn y system gynllunio yn rhywle. Gyda'r tywydd gwlyb rydym wedi'i gael, efallai nad ydynt wedi gallu gwagio eu storfeydd slyri er mwyn eu hehangu, neu'n wir, efallai fod materion heb eu datrys rhwng landlordiaid a thenantiaid mewn rhai achosion. Felly, hoffwn wybod beth fydd eich cyngor i'r asiantaeth orfodi mewn perthynas â mabwysiadu ymagwedd bragmataidd a rhesymol tuag at y rhai nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion newydd heb unrhyw fai arnynt hwy.