Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Byddaf yn bendant yn ail-ymrwymo i hynny, Jack. Mae angen inni gyflwyno cynllun dychwelyd ernes sy'n gweithio, nid yn unig ar draws y pedair gwlad, ond gan barchu ein safbwynt yng Nghymru hefyd, a bod gennym awydd i fwrw ymlaen â'r cynllun ar gyfer popeth, gan gynnwys gwydr hefyd. Ond rydym am weithio gyda'r sector i wneud i hynny ddigwydd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sectorau lletygarwch a manwerthu fel rhan o'n heconomi, felly rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda nhw.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo, gyda llaw, i weithio, fel y dywedais yn fy ymateb cychwynnol i chi, Jack, gyda Llywodraethau eraill ledled y DU, gan gynnwys Llywodraeth newydd y DU. Gyda llaw, roeddwn i wedi cyfarfod â nhw cyn yr etholiad, ac roeddem wedi dechrau archwilio'r materion hyn. Siaradais â Steve Reed, a soniwyd am hyn ar yr agenda o fewn 48 awr. Rwy'n edrych ymlaen at fanylu ar hyn gydag ef a'i dîm nawr, ac mae ein swyddogion wedi dechrau cydweithio'n agos iawn hefyd. Ond byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant.
A dylwn nodi am y tei, Lywydd, mae fy aelodaeth flaenorol o'r grŵp hollbleidiol pan oeddwn yn seneddwr y DU—rwy'n falch o wisgo'r tei heddiw—wedi cael ei ddatgan yn fy rhestr o fuddiannau gweinidogol.