2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am ar 17 Gorffennaf 2024.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch iawn o weld bod ansawdd dŵr yn cael ei amlinellu'n glir fel un o flaenoriaethau allweddol Ysgrifennydd Gwladol newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Rwyf eisoes wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth newydd y DU a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda nhw ar ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer ansawdd dŵr gwell.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi sylwi pa mor gyflym y mae'r trafodion yn mynd rhagddynt heddiw, felly rwy'n falch fy mod wedi cyrraedd mewn pryd. [Chwerthin.]
Mae Llywodraeth Cymru wedi arloesi gydag uwchgynadleddau llygredd afonydd, gan ddwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol fel rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd a'r sectorau amgylchedd. Rwy'n credu bod y rhain yn gyfarfodydd allweddol i'w cynnal ac rwy'n deall bod pedwar wedi digwydd hyd yma ac y bydd y nesaf yn cael ei gynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. O ystyried diddordeb y cyhoedd yn hyn o beth, pa gynnydd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gobeithio ei wneud yn ystod yr uwchgynhadledd llygredd afonydd yr wythnos nesaf?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol hwnnw, ac yn wir, rydym eisoes wedi cyflawni cryn dipyn ers cynnal yr uwchgynhadledd llygredd afonydd gyntaf ymhell yn ôl yn 2022, ac rydym wedi cael y cyfarfodydd rheolaidd hynny fel y dywedwch. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae partneriaid wedi gweithredu yn barod, ond yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf—sy'n mynd i fod yn wythnos brysur i mi, rwy'n deall; dyddiadur llawn dop—mae'n cynnwys yr uwchgynhadledd llygredd afonydd ddiweddaraf. Mae'n canolbwyntio ar y rôl hanfodol y gall amaethyddiaeth ei chwarae.
O edrych ar y data, mae'n amlwg iawn y gellir priodoli cyfran sylweddol o achosion, o lygredd ffosfforws yn arbennig, mewn llawer o'n hafonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu, i ddefnydd tir gwledig. Felly, bydd hwn yn gyfle gwych yn y Sioe Frenhinol i'r gymuned amaethyddol a phartneriaid barhau i feithrin y dull rhagweithiol hwn tuag at stiwardiaeth afonydd, dangos ein bod ni i gyd ynddi gyda'n gilydd a bod yr ateb gan bawb ohonom, i gydnabod y rôl hanfodol i amaethyddiaeth yn enwedig, a sut y gallwn ni i gyd annog a chefnogi'r sector, i gymryd perchnogaeth ar yr effaith ar ein dyfrffyrdd—yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn enwedig—a hefyd i gyflawni ymrwymiad ar y cyd ar sut i ddatblygu'r gwaith hwn dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn gyfle da iawn i gynrychiolwyr y sector ddangos sut y gallant a sut y byddant yn gyrru'r newidiadau sydd eu hangen arnom er budd yr afon a'r sector ei hun.
Mae'n werth nodi hefyd ein bod eisoes wedi ymrwymo lefelau sylweddol o gyllid ar gyfer gweithredu gofynion rheoleiddio newydd a gynlluniwyd i ddiogelu'r amgylchedd, ac rydym hefyd yn bwriadu darparu cyllid sylweddol drwy'r dull cydweithredol rydym yn ei fabwysiadu i gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond mae'n rhaid inni fod yn glir fod yn rhaid i bawb chwarae eu rhan ac ni ddylai llygredd nas caniateir fod yn digwydd o gwbl, a rhaid i bob busnes fferm fod yn gyfrifol am ei atal hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod yn iawn fod llygredd afonydd yn bwnc dadleuol iawn ac yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yn 2023, ar sawl achlysur, fe wnaeth Dŵr Cymru ddympio carthion amrwd yn afon Gwy yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, yn ogystal â Rhymni, yn etholaeth Hefin David a fy rhanbarth i, ac er bod Hefin David wedi ceisio tynnu sylw at Lywodraeth y DU a'r hyn y gallant hwy ei wneud i helpu, fe wyddom i gyd fod y cyfrifoldeb am ansawdd dŵr yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, corff y mae'r Llywodraeth Lafur hon, fel y gwyddom i gyd yn rhy dda, wedi bod yn gyfrifol amdanynt ers oes pys.
Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid monitro gollyngiadau carthion amrwd yn agosach ac y dylid rhoi sancsiynau llymach ar waith i Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, fel ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn y cyfraddau hyn o'r diwedd a gwella ansawdd afonydd o dan y Llywodraeth Lafur hon i bobl Cymru? Diolch.
Mae gennyf ddau bwynt i'w gwneud mewn ymateb, Natasha, a diolch am y cwestiwn. Y pwynt cyntaf yw bod angen iddo fod yn ddull ar y cyd o ymdrin â hyn yn nalgylch afon Gwy, a'r un fath gyda'r Wysg a'r Hafren, a'r afonydd nad ydynt yn parchu ffiniau, maent yn llifo o Gymru i Loegr, o fryniau Pumlumon i lawr drwy ardaloedd ar y ffin ac yna'n ôl i'n haberoedd mawr. Felly, mae'n rhaid iddo fod yn ddull ar y cyd, ac mae'n rhaid imi ddweud, o fewn 48 awr wedi i Lywodraeth y DU ddod i rym, Llywodraeth newydd y DU, rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y drafodaeth honno gyda Steve Reed, yr Ysgrifennydd newydd. Roedd yn un o'r pethau y gwnaethom eu trafod, yr awydd i weithio'n agosach ac yn fwy cydweithredol, nid yn unig ar lefel weinidogol, ond ar lefel swyddogol hefyd. Mae peth cydweithio da wedi bod, ond ni fu'n 110 y cant llawn. Rwyf eisiau gweld hynny'n digwydd, felly rwy'n edrych ymlaen at fynd ar drywydd hynny.
Mae gennym ni rôl i'w chwarae yng Nghymru yn benodol wrth gwrs, ac mae yna nifer o faterion yn codi. Fe wnaethom ni gyffwrdd â llygredd gwasgaredig amaethyddol. Mae yna hefyd faterion yn codi ym maes adeiladu a datblygu, yn ogystal â materion yn ymwneud â charthffosiaeth. Mae ein dull ni yng Nghymru yn glir. Rydym eisiau i bawb chwarae eu rhan—pawb sy'n cyfrannu at y llygredd. Rydym yn sylwi bod yr adolygiad pris, PR24, newydd gael ei gyhoeddi, y penderfyniad drafft. Mae cynnydd sylweddol yn hwnnw, ac mae'n rhaid inni amddiffyn rhag effaith amhriodol y costau hynny, yn enwedig ar gwsmeriaid agored i niwed. Ond yr hyn y mae'n ei wneud yw dangos gwelliant sylweddol yng ngraddfa'r buddsoddiad i fynd i'r afael â gorlifoedd carthffosiaeth gyfun a gollyngiadau carthion. Mae angen rhoi pob darn o'r jig-so hwn at ei gilydd os ydym am lanhau'r afonydd, fel y gall pawb eu mwynhau yn y ffordd yr ydym wedi eu mwynhau yn draddodiadol. Pan fyddwn eisiau denu twristiaid i Gymru a phan fyddwn eisiau i bobl ymweld â ni, yn ogystal â chymunedau lleol, mae angen i'r afonydd fod yn pefrio ac yn llawn bywyd.
Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y rheoliadau ansawdd dŵr, oherwydd gwyddom fod gofynion storio slyri yn dechrau ar 1 Awst. Nawr, ni fydd rhai ffermydd, yn anffodus, yn barod mewn pryd oherwydd efallai y gallai ceisiadau cynllunio ar gyfer mwy o seilwaith storio slyri fod yn sownd yn y system gynllunio yn rhywle. Gyda'r tywydd gwlyb rydym wedi'i gael, efallai nad ydynt wedi gallu gwagio eu storfeydd slyri er mwyn eu hehangu, neu'n wir, efallai fod materion heb eu datrys rhwng landlordiaid a thenantiaid mewn rhai achosion. Felly, hoffwn wybod beth fydd eich cyngor i'r asiantaeth orfodi mewn perthynas â mabwysiadu ymagwedd bragmataidd a rhesymol tuag at y rhai nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion newydd heb unrhyw fai arnynt hwy.
Llyr, mae'n gwestiwn da iawn, oherwydd rydym yn gwybod bod sawl her yn wynebu ffermwyr ar hyn o bryd: y system gynllunio a'r ôl-groniad o fewn y system honno, y pwysau sydd ar y system gynllunio—rhywbeth, gyda llaw, rwyf wedi'i drafod gyda fy nghyd-Aelod, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rwy'n gobeithio parhau â'r drafodaeth honno ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd, gan gydnabod y cyfyngiadau ar adnoddau hyd yn oed, i weld a allwn symleiddio'r broses honno a gweithio ar y cyd. Ond mae'n rhaid ystyried y tywydd gwlyb yr ydym wedi'i gael hefyd, felly hyd yn oed os ydych chi'n cael caniatâd cynllunio, a allwch chi fwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd? Ac yna mae gennych y broses reoleiddio a chydsynio hefyd.
Nawr, fy nghyngor i neu fy arweiniad i yw mabwysiadu dull pragmataidd fesul achos, ond mae'n rhaid inni ei wneud o fewn y system reoleiddio sydd gennym. Ni allwn gael gwared arni; mae'n rhaid inni ei wneud o fewn y system honno. Ond byddwn yn annog swyddogion rheng flaen i weithio gyda'r gymuned ffermio fesul achos, oherwydd bydd pob un yn wahanol, er mwyn gweld a oes yna ffordd ymlaen. Rwy'n gwybod bod awydd yn y gymuned ffermio i fwrw ymlaen â hyn. Rydym wedi rhoi swm sylweddol o arian i gynorthwyo'r gymuned ffermio i wneud hyn, yn ogystal, ond mae yna gyfyngiadau ar y gallu i fwrw ymlaen yn gyflym, felly rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld dull pragmataidd, fesul achos, ond gan weithio o fewn y strwythur rheoleiddio hefyd.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddilyn trywydd rhai o'r materion hynny hefyd, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr asiantaeth yr ydym yn dibynnu arni yma yng Nghymru er mwyn monitro ein hafonydd, sef CNC, Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gwybod bod chwythwyr chwiban wedi cyflwyno tystiolaeth frawychus yn gynharach yr wythnos hon, gan ddisgrifio CNC fel sefydliad sydd wedi'i barlysu gan fiwrocratiaeth a diffyg gweithredu, ac roedd yna ddogfennau mewnol yn dangos nad oedd 80 y cant o drwyddedau gollyngiadau yn cael eu monitro. Yn ogystal â hynny, dangosodd ymchwil gan Y Byd Ar Bedwar fod CNC wedi methu rhoi sylw i fwy na hanner y digwyddiadau llygredd a gofnodwyd rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024.
Felly, mae hwn yn bryder gwirioneddol ynghylch gallu a galluoedd CNC, sy'n digwydd yn erbyn cefndir lle rydym ni yma yng Nghymru yn talu mwy am ein dŵr, mewn gwirionedd, nag a wnânt yn Lloegr. Felly, a gaf i ofyn yn benodol i chi pa ymateb sydd gennych chi i'r dystiolaeth honno, a hefyd beth rydych chi'n ei wneud i gynyddu'r lefelau staffio a'r capasiti o fewn CNC? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiwn. Gwyliais raglen Y Byd ar Bedwar a gwelais dystiolaeth pobl a oedd wedi gweithio o fewn CNC a'r myfyrio gonest ar yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn gyfyngiadau ar CNC i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw y byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad neu unrhyw asiantaeth i godi'r pryderon hynny a pheidio â bod ofn gwneud hynny; mae angen inni gefnogi'r gallu, nid dim ond chwythwyr chwiban, fel rydym yn eu galw'n dechnegol, ond mewn gwirionedd, i godi pryderon dilys. Dyna'r pwynt cyntaf i'w wneud ac rwy'n credu ei fod yn bwysig.
Yr ail beth yw bod gennym ddisgwyliadau uchel o CNC, o'i holl staff, o'r uwch reolwyr yr holl ffordd i lawr, i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf—ac roeddwn i'n ymddangos ar y rhaglen honno, felly gadewch imi ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yn glir iawn. Mewn gwirionedd, pan oeddwn ar y pwyllgor o dan stiwardiaeth Llyr, pan oeddem yn holi CNC yn rheolaidd, roeddem yn awyddus i'w gweld yn cynnal adolygiad sylfaenol o'u swyddogaethau a'u cylch gwaith, ac fe wnaethant hynny. Yn dilyn hynny, rydym wedi buddsoddi £18.5 miliwn ychwanegol yn CNC, ond maent hefyd wedi ymgymryd â threfn adennill costau lawn, fel y gallant sicrhau nad ydynt yn sybsideiddio gweithgareddau, ac fel y gallant ennill yr incwm cymesur ar sail adennill costau. Felly, mae'r holl bethau hynny yn eu lle, ond rydym yn disgwyl—rydym ni fel Llywodraeth yn disgwyl bod CNC yn cyflawni eu swyddogaethau statudol a rheoleiddiol. Maent yn sefydliad hyd braich, ond nhw yw ein sefydliad amgylcheddol.
A fy mhwynt olaf—rwy'n ymddiheuro, Lywydd, am drethu eich amynedd yma—hoffwn ddiolch i holl staff CNC am yr hyn a wnânt. Oherwydd mae CNC yn destun beirniadaeth yn aml iawn ac eto maent yn angerddol, fel y gwelsom yn y rhaglen honno, maent yn unigolion angerddol, ymroddedig sydd eisiau gwella'r wlad yr ydym yn byw ynddi a'r amodau amgylcheddol. Felly, oedd, roedd gwylio'r rhaglen honno'n anodd. Rwy'n siŵr fod CNC o ddifrif ynghylch y pryderon hynny, a phan fyddaf yn cyfarfod ag CNC eu hunain nesaf, byddaf yn codi'r pryderon hynny hefyd, yn amlwg.
Rwy'n falch iawn fod y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr yn cymryd camau i leihau llygredd dŵr o'r diwedd. Rydym wedi gweld carthion amrwd yn cael ei ollwng o waith trin dŵr gwastraff Trebanos oherwydd gorlif storm i'r Tawe ac yna i'r môr. Mae dŵr yn unigryw o agored i lygredd. Fel toddydd cyffredinol, gall dŵr doddi mwy o sylweddau nag unrhyw hylif arall. Dyna pam mae dŵr mor hawdd i'w lygru. Boed yn garthion neu'n sylweddau gwenwynig o ffermydd, trefi neu ffatrïoedd, maent yn toddi'n hawdd mewn dŵr, gan achosi llygredd dŵr. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau llygredd afonydd nad yw'n cael ei achosi gan garthion?
Mike, diolch yn fawr iawn. Ac i droi'n ôl at ein cwestiynau cychwynnol ar hyn, rwy'n credu bod ein dull dalgylch afon, gan gynnwys yr uwchgynadleddau afonydd, lle rydym yn dod â phawb at ei gilydd ac yn dweud, 'Mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonoch i wella hyn, boed yn ddatblygwyr, boed yn aelodau o'r gymuned amaethyddol a ffermio, neu boed yn gwmnïau carthffosiaeth a dŵr, mae gan bob un ohonynt rôl i'w chwarae. Os ydym ond yn mynd i'r afael ag un ffynhonnell i'r llygredd hwn, ni fyddwn yn datrys y broblem, oherwydd rydym eisiau adeiladu cartrefi fforddiadwy, ond mae'n rhaid inni reoli'r pwysau sy'n dod yn sgil hynny gyda llwyth ffosffad. Rydym eisiau sicrhau dyfodol ffermio hyfyw, ond mae'n rhaid inni reoli'r llwyth nitrad a ffosffad yn sgil hynny. Rydym hefyd eisiau gweld y buddsoddiad cywir gan y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn y rhwydwaith, ond mae hyn yn anodd, oherwydd mae'n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn diogelu'r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Fel y soniais, mae yna benderfyniad drafft a fydd yn cymryd chwe mis neu fwy, mae'n debyg, i dderbyn sylwadau, gan gynnwys gan y cyrff defnyddwyr hefyd, i sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed. Ond y gwir amdani, Mike, fel rydych chi'n ei ddweud, yw bod angen inni ddatrys problemau o sawl ffynhonnell o lygredd yn ein afonydd, nid yn unig i'r pysgotwyr, ond i bawb sydd eisiau sicrhau statws ecolegol gwell a'r bobl sy'n brwydro i sicrhau ansawdd dŵr ymdrochi yn eu hafonydd hefyd.