Ansawdd Dŵr Afonydd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 2:25, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Gwyliais raglen Y Byd ar Bedwar a gwelais dystiolaeth pobl a oedd wedi gweithio o fewn CNC a'r myfyrio gonest ar yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn gyfyngiadau ar CNC i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw y byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad neu unrhyw asiantaeth i godi'r pryderon hynny a pheidio â bod ofn gwneud hynny; mae angen inni gefnogi'r gallu, nid dim ond chwythwyr chwiban, fel rydym yn eu galw'n dechnegol, ond mewn gwirionedd, i godi pryderon dilys. Dyna'r pwynt cyntaf i'w wneud ac rwy'n credu ei fod yn bwysig.

Yr ail beth yw bod gennym ddisgwyliadau uchel o CNC, o'i holl staff, o'r uwch reolwyr yr holl ffordd i lawr, i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf—ac roeddwn i'n ymddangos ar y rhaglen honno, felly gadewch imi ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yn glir iawn. Mewn gwirionedd, pan oeddwn ar y pwyllgor o dan stiwardiaeth Llyr, pan oeddem yn holi CNC yn rheolaidd, roeddem yn awyddus i'w gweld yn cynnal adolygiad sylfaenol o'u swyddogaethau a'u cylch gwaith, ac fe wnaethant hynny. Yn dilyn hynny, rydym wedi buddsoddi £18.5 miliwn ychwanegol yn CNC, ond maent hefyd wedi ymgymryd â threfn adennill costau lawn, fel y gallant sicrhau nad ydynt yn sybsideiddio gweithgareddau, ac fel y gallant ennill yr incwm cymesur ar sail adennill costau. Felly, mae'r holl bethau hynny yn eu lle, ond rydym yn disgwyl—rydym ni fel Llywodraeth yn disgwyl bod CNC yn cyflawni eu swyddogaethau statudol a rheoleiddiol. Maent yn sefydliad hyd braich, ond nhw yw ein sefydliad amgylcheddol.

A fy mhwynt olaf—rwy'n ymddiheuro, Lywydd, am drethu eich amynedd yma—hoffwn ddiolch i holl staff CNC am yr hyn a wnânt. Oherwydd mae CNC yn destun beirniadaeth yn aml iawn ac eto maent yn angerddol, fel y gwelsom yn y rhaglen honno, maent yn unigolion angerddol, ymroddedig sydd eisiau gwella'r wlad yr ydym yn byw ynddi a'r amodau amgylcheddol. Felly, oedd, roedd gwylio'r rhaglen honno'n anodd. Rwy'n siŵr fod CNC o ddifrif ynghylch y pryderon hynny, a phan fyddaf yn cyfarfod ag CNC eu hunain nesaf, byddaf yn codi'r pryderon hynny hefyd, yn amlwg.