11. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:33 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:33, 17 Gorffennaf 2024

Y bleidlais ar eitem 10 fydd y pleidleisiau yma; dadl y Ceidwadwyr rŷn ni newydd ei chlywed ar ffermio yw hyn. Felly mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 5481 Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 16 ASau

Na: 38 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:34, 17 Gorffennaf 2024

Gwelliant 1 sydd gyntaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5482 Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt

Ie: 26 ASau

Na: 28 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:35, 17 Gorffennaf 2024

Gwelliant 2 sydd nesaf—gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 5483 Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan

Ie: 37 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 8 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:36, 17 Gorffennaf 2024

Gwelliant 3. Pleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn y gwelliant. Felly, gwelliant 3 wedi ei wrthod. 

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 5484 Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan

Ie: 26 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 8 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:37, 17 Gorffennaf 2024

Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 2. 

Cynnig NDM8644 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu cyfraniad economaidd gwerthfawr ffermio yng Nghymru i economi Cymru.

2. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a sioeau'r haf wrth gefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.

3. Yn cefnogi cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy, a'r neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'.

4.Yn gresynu:

a) bod cymunedau gwledig Cymru wedi colli £243 miliwn er gwaethaf ymrwymiad o 'ddim ceiniog yn llai' gan lywodraeth flaenorol y DU; a

b) bod cytundebau masnach newydd wedi agor y drws i fewnforion rhatach sy'n bygwth tanseilio'r cynhyrchwyr domestig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod gan gynllun ffermio cynaliadwy newydd gefnogaeth gan y gymuned ffermio, gyda diogelwch bwyd a diogelu'r amgylchedd wrth ei wraidd, sy'n tynnu sylw at y neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'; a

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ar y 87 gair ynghylch ffermio sydd wedi'u cynnwys ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU, i gyflwyno cynllun ar gyfer ffermio a ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:37, 17 Gorffennaf 2024

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, 14 yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 23, Ymatal: 14

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 5485 Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 15 ASau

Na: 23 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 8 ASau

Wedi ymatal: 14 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:37, 17 Gorffennaf 2024

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, diwedd ar ein pleidleisio ni am y tymor yma. I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, gaf i ddymuno rhywfaint o doriad i chi dros yr haf? Ond dyw'r gwaith heb ei orffen, oherwydd mae'r ddadl fer i'w chynnal eto.