– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y sefyllfa bresennol: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw. Mae’r sector darlledu yn mynd trwy gyfnod o newid pwysig iawn. Mae hyn yn cael ei sbarduno’n rhannol gan ddatblygiadau technolegol a newidiadau yn y ffordd mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau. Dyw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ddim yn cael ei gysgodi rhag y cyfryw newidiadau. Diben ein gwaith fel pwyllgor oedd pennu sut un yw’r sefyllfa sydd ohoni yn y sector yng Nghymru, ond roedd un cwestiwn yn codi dro ar ôl tro wrth inni ystyried y gwaith hwn, a hynny yw pa mor effeithiol y mae buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol.
Mae ateb syml i’r cwestiwn dan sylw. Ein barn ni yw nad yw buddiannau Cymru yn cael eu hystyried i raddau digonol mewn trafodaethau sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Dirprwy Lywydd, dro ar ôl tro, adroddiad ar ôl adroddiad, yr un stori sy’n dod i’r amlwg. Dywedodd y pwyllgor a’n rhagflaenydd fel pwyllgor yn y bumed Senedd fod y cyflenwad o gyfryngau yng Nghymru yn annigonol. Yn hydref 2021, yn ein hadolygiad o ganfyddiadau’r adroddiad ‘Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr’, gwnaethon ni argymell y dylai’r Deyrnas Unedig ddatblygu cynigion polisi a deddfwriaethol i roi effaith i argymhellion Ofcom. Yn yr un adroddiad, fe wnaethon ni alw am gynrychiolaeth o Gymru i gael ei chynnwys yn yr adolygiad nesaf o setliad ffi’r drwydded, ac ar y panel cynghori ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Yn fwy diweddar, dywedodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fod persbectif Cymreig ar faterion y Deyrnas Unedig yn aml yn absennol o gynnwys y cyfryngau, a galwodd am ddiwygiadau cyfansoddiadol i roi llais cryfach i Gymru o ran polisi darlledu. Er gwaethaf galwadau niferus, nid oes digon wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf o ran buddiannau Cymreig ym myd darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Dirprwy Lywydd, un peth a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein hymchwiliad oedd y cyfleoedd i gynyddu’r portread o Gymru ar y sgrin. O ran y BBC, mae wedi lledaenu gweithgarwch ledled y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n croesawu hynny. Mae cynnydd yng ngwariant rhwydwaith y BBC wedi bod yn gatalydd ar gyfer y sector sgrin yng Nghymru, a hynny mewn diwydiant sydd bellach yn ffynnu. Dyma rywbeth yr ydyn ni i gyd yn falch ohono.
Rydyn ni hefyd yn credu bod ymagwedd y BBC o ran cael darpariaeth yn y gwledydd sy’n gweddu i’w buddiannau unigol hefyd yn briodol. Fodd bynnag, dŷn ni ddim yn credu ei bod yn briodol fod gwariant y BBC ar gynnwys teledu Saesneg yn yr Alban ddwywaith y ffigwr cyfatebol yng Nghymru. Ar y mater hwn, dywedodd Rhuanedd Richards o BBC Cymru wrthyn ni, a gwnaf i ddyfynnu ei geiriau:
'Rydym wedi llwyddo i gynyddu ein gwariant ar deledu Saesneg y llynedd, ac eleni rwy'n credu y byddwn yn gweld twf pellach. A dyna yw fy nod mewn gwirionedd: os oes gennyf darged, twf flwyddyn ar ôl blwyddyn yw'r targed hwnnw'.
Gwnaethon ni hefyd siarad gydag ITV. Er gwaethaf yr heriau masnachol, credwn fod lle i ITV hefyd gynyddu ei wariant rhwydwaith yng Nghymru. Yn 2022, gwariodd ITV yn agos at 0 y cant o’i wariant rhwydwaith cymwys yng Nghymru ar ôl i I’m a Celebrity...Get Me Out of Here! ddychwelyd i Awstralia. Pan fo ITV wedi creu cynnwys yng Nghymru, mae wedi cael derbyniad da iawn. Byddem ni wrth ein boddau o'u gweld yn defnyddio'r sector sgrin sydd ar gynnydd yma yng Nghymru. Bydd cynyddu cyfran y cynnwys sy'n cael ei greu yng Nghymru yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at gynyddu cynrychiolaeth Gymreig ar allbwn y darlledwr.
Hoffwn gyfeirio, wrth gwrs, at S4C. Mae ariannu S4C yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ddim llai na siomedig. Er i'r darlledwr gael cynnydd yn ei setliad ariannu diweddaraf, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lleihau cyllid S4C 30 y cant mewn termau real ers 2010. Dywedodd swyddogion S4C wrthym ni eu bod wedi gorfod torri'r got yn ôl y brethyn a'u bod yn blaenoriaethu rhaglenni plant, dramâu a chwaraeon. Mae angen ffynhonnell ariannu gyson a dibynadwy ar y sianel. Ac mae'r setliad ariannu cyfredol yn cyfyngu'n ddifrifol ar y darlledwr ar adeg pan fo angen iddo ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws platfformau darlledu ac ar-alw. Mae angen hyn nid yn unig i ganiatáu i S4C gyflawni ei rhwymedigaethau fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ond hefyd i sicrhau y gall barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi targed Cymraeg 2050.
Nawr, mae diffyg cynrychiolaeth Gymreig hefyd yn y ffordd y mae darlledwyr yn cael eu rhedeg, ac rydym ni wedi gwneud argymhellion ynghylch yr angen i wella llywodraethiant ym maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw darlledu wedi cael ei ddatganoli, rydyn ni o'r farn y dylai'r Senedd a Llywodraeth Cymru gael mwy o lais yn y ffordd y mae penodiadau sy'n cynrychioli buddiannau Cymru yn cael eu gwneud. Dywedodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a dwi'n dyfynnu'r geiriau:
'Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.'
Rydyn ni'n cytuno'n llwyr â hyn. Wrth ei osod yn erbyn y cefndir cyfansoddiadol presennol, lle mae darlledu yn parhau, wrth gwrs, i fod yn fater sy'n cael ei gadw nôl, prin yw'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwella'r craffu ar drefniadau llywodraethu presennol ym maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond dyw hyn ddim yn golygu nad oes modd gwneud newidiadau. Ar y pwynt hwn, dylwn i nodi ein bod ni'n croesawu'n fawr frwdfrydedd a pharodrwydd y BBC, S4C, ITV ac Ofcom i ymddangos gerbron ein pwyllgor. Mae lle, wrth gwrs, i gryfhau hyn.
Credwn y byddem ni'n gweld gwelliannau yn atebolrwydd y rhai sydd â'r dasg o redeg sefydliadau darlledu pe bai gan y Senedd rôl ffurfiol yn y broses o'u penodi. Dyna pam rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno na ddylai penodiadau aelodau Cymru i fyrddau'r BBC ac Ofcom gael eu cytuno hyd nes y bydd pwyllgor yn y Senedd wedi gwneud gwaith craffu cyn penodi. Rydyn ni hefyd yn credu y dylai fod yn ofynnol i benodiad cadeirydd S4C gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael cytundeb Llywodraeth Cymru, ac y dylai un o bwyllgorau Senedd Cymru gynnal gwrandawiad cyn penodi. O ystyried pwysigrwydd darlledu i Gymru a'i democratiaeth, rydyn ni'n credu y byddai hyn yn ychwanegu haen bwysig arall o atebolrwydd.
Cyn imi gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i nodi ar ran ein pwyllgor ein bod yn croesawu'r ymatebion a gafwyd gan Ofcom, y darlledwyr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Er nad oedd nifer o'r argymhellion hyn wedi'u hanelu'n benodol at Lywodraeth Cymru, rydyn ni'n croesawu'r gefnogaeth sydd wedi'i hamlinellu yn eu hymatebion. Yn hynny o beth, byddwn ni'n croesawu cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet—dwi'n ymwybodol bod Ysgrifennydd Cabinet arall yn eistedd i mewn, ond buaswn i'n croesawu trafodaeth neu unrhyw wybodaeth rŷch chi'n gallu ei rhoi i ni am drafodaethau ynghylch argymhelliad 16, hynny yw pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar gytuno na ddylai aelodau dros Gymru o fyrddau BBC ac Ofcom cael eu penodi hyd nes y bydd un o bwyllgorau'r Senedd wedi cynnal gwaith craffu cyn penodi.
Fel y dywedais i ar y dechrau, mae newid sylweddol ar droed yn y sector darlledu. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys effaith y Ddeddf cyfryngau newydd ac adolygiadau cyfredol o setliad ffi'r drwydded. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni'n effro i'r newidiadau hyn, gan nad yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel rhag newidiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed barn Aelodau eraill.
A gaf i ddiolch i Delyth am agor y ddadl heddiw ac i holl glercod y pwyllgor, y staff a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor? Roedd yn teimlo fel amser maith yn ôl pan oeddem yn derbyn tystiolaeth ar hyn, a sylweddolais ei fod yn amser maith yn ôl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi ym mis Mawrth, ond rwy'n credu ei fod yn fwy amserol, mae'n debyg, ac fe wnaf egluro pam yn nes ymlaen, a myfyrio ar y rôl y mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae. A phan fyddant yn meddwl am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, rwy'n credu bod gwleidyddion yn aml yn meddwl ynglŷn â sut mae gwleidyddiaeth yn cael ei chynnwys, onid ydynt? Rydym yn greaduriaid gwleidyddol. Mae'n debyg bod gennym fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r person cyffredin ar y stryd, ac felly, byddwn yn edrych ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus drwy'r lens o sut mae ein gwleidyddiaeth yn cael sylw, ac mewn gwirionedd, yn aml nid yw'n dweud y stori gyfan o ran yr hyn y mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ei gynnig. O gyfarfod ag ITV a'r BBC, gwelsom y rhaglenni eraill y byddent yn eu cynhyrchu, ar fywyd cefn gwlad, bywyd gwledig, neu'r celfyddydau a diwylliant, sydd hefyd yn hynod o bwysig. Ac a dweud y gwir, fel gwleidyddion, weithiau rwy'n credu bod angen inni beidio â bod mor hunandybus a sylweddoli nad yw pobl yn aml yn malio, a bod pobl iau yn enwedig yn cael eu cyfryngau mewn ffordd hollol wahanol. Ond rwy'n credu mai dyna yw pwrpas darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Maent yno i roi sylw i bethau sydd er budd y cyhoedd yn hytrach na'u diddordebau masnachol eu hunain, ac mae honno'n rôl bwysig ac yn rhywbeth na allwn golli golwg arno wrth drafod ein tirlun darlledu.
Ac rwy'n credu, mae'r wythnos hon—dyma'r rheswm pam rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol—wedi bod yn enghraifft dda iawn o'r gorau a'r gwaethaf yn y maes hwn mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn cyfeirio at hyn fel astudiaeth achos er mwyn creu embaras i unrhyw un o fy ffrindiau Llafur, ond rwy'n credu bod natur proffil uchel digwyddiadau'r wythnos hon wedi dangos cyfryngau'r DU a'r cyfryngau Cymreig yn eu holl gymhlethdod a'u gallu i ymdrin â straeon proffil uchel a phwysig iawn i bobl Cymru, ac rwy'n credu ein bod wedi gweld darlledu gwirioneddol dda yng Nghymru. Os caf ddechrau gyda'r enghreifftiau da, gan y BBC, er enghraifft, a ddarlledodd y rhaglen Wales Today estynedig honno neithiwr, gan roi sylw i ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Rwy'n gwybod bod Sharp End neithiwr wedi gwneud llawer iawn o waith er mwyn ymdrin â'r stori gyda'r dyfnder a'r ehangder yr oedd yn ei haeddu. A gwn fod S4C wedi gwneud llawer o waith ar hynny hefyd. Ac roeddwn eisiau oedi a meddwl am eiliad fod llawer o'r dystiolaeth a gawsom mewn cyfnod anodd iawn i S4C, rwy'n meddwl. Ac rwy'n credu y dylai S4C, yn enwedig fod yn brif ffynhonnell newyddion Cymreig, yn yr iaith Gymraeg yn amlwg, ond newyddion Cymreig mewn unrhyw iaith. Ac mae'n dda gweld bod S4C ar sail fwy sefydlog ac yn dilyn trywydd mwy sefydlog, gyda'i gallu i wneud hynny, nawr ac i'r dyfodol.
Credaf mai rhai o'r enghreifftiau gwaethaf, serch hynny, yw lle mae cyfryngau'r DU wedi ymdrin â straeon Cymreig. Dyma enghraifft i chi. Ddoe, gwyliais newyddion y DU am 6 p.m. ac ymddiswyddiad y Prif Weinidog yma oedd y bedwaredd stori. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddai hynny'n digwydd i Brif Weinidog yn yr Alban, heb sôn am Brif Weinidog y DU. Ymddangosais yn gynharach yr wythnos hon, ddydd Llun, ar orsaf radio fasnachol—nid wyf am ei henwi—i siarad am yr eitem nesaf sydd gennym ar yr agenda, a'r cwestiwn cyntaf un a ofynnwyd i mi oedd, 'Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ennill un bleidlais o ddiffyg hyder, pam eich bod chi wedi cyflwyno un arall?' Ac fe aeth yr amser y bu'n rhaid i mi ei dreulio'n egluro ei fod wedi colli'r bleidlais o ddiffyg hyder ac nad ydym wedi cyflwyno pleidlais arall o ddiffyg hyder mewn gwirionedd—. Roeddwn yn teimlo mai fi oedd y gohebydd yn hytrach na'r gwleidydd yn rhoi'r persbectif gwleidyddol. [Torri ar draws.] Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn myfyrio ar y rôl y mae'r cyfryngau yn ei chwarae yn hynny o beth.
Tom, rwy'n cytuno'n llwyr â chi yn eich dadansoddiad o'r newyddion ddoe, oherwydd cefais fy synnu mewn gwirionedd. Ni wnaeth Newsnight sôn o gwbl am yr hyn a ddigwyddodd yma ddoe—dim gair. Roedd yn syfrdanol, a bod yn onest. Dyna'r prif fan lle caiff materion cyfoes eu dadansoddi'n fanwl. Rwy'n derbyn nad yw'n gynulleidfa dorfol, ond fel roeddech chi'n ei ddweud, nid yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â chynulleidfaoedd torfol, mae'n ymwneud â sicrhau dealltwriaeth. A ydych chi'n cytuno, yn groes i ymateb Tim Davie i adroddiad y pwyllgor diwylliant, lle mae'n dweud eu bod wedi ymrwymo i adrodd ar y gwledydd datganoledig—? Gwelsom dystiolaeth ddoe lle nad oedd hynny'n wir mewn gwirionedd, ac rydych chi wedi rhoi'r enghreifftiau. A ydych chi'n meddwl, felly, fod y pwynt a wnaeth Delyth Jewell ynglŷn â sicrhau y gall y Senedd oruchwylio aelodaeth o fyrddau'r sefydliadau darlledu hyn yn bwysicach fyth, o ystyried yr enghraifft eithafol a welsom ddoe?
Rwy'n cytuno, ac yn amlwg roeddwn yn aelod o'r pwyllgor a fyddai wedi cytuno ar yr argymhellion. Roeddwn i'n ddigon bodlon i gytuno i rai o'r argymhellion y sonioch chi amdanynt oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gan y Senedd rôl. Er nad yw darlledu ynddo'i hun wedi'i ddatganoli, mae'n bwysig ein bod yn cofio bod gan y Senedd rôl i'w chwarae mewn llawer o ffyrdd eraill, ac mae gan gymwyseddau datganoledig rôl mewn sawl ffordd arall hefyd. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch.
Nawr, fel y dywedaf, rwy'n credu ein bod wedi gwneud llawer iawn o bethau yn gywir ac yn anghywir yr wythnos hon. Rwy'n credu bod yna sgwrs ehangach am ddatganoli darlledu, a gwn nad oes gennyf amser i fynd i mewn i hynny, sy'n bwnc trafod ynddo'i hun. Nid wyf yn argyhoeddedig o'r dadleuon hynny. Rwy'n siŵr y bydd eraill yn gwneud y ddadl honno heddiw. Mewn byd sy'n gynyddol fasnachol, lle rydych chi'n gweld y chwaraewyr mawr hyn ar y llwyfan rhyngwladol sydd eisiau darlledu yn y DU ac yng Nghymru, rwy'n credu ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i gael fframwaith rheoleiddio y mae'r chwaraewyr mawr, fel Disney+ a'r Amazon Primes a'r Netflixes, yn gallu glynu wrtho a'i barchu. Rwy'n poeni am yr effaith y byddai cael cyfundrefnau deddfwriaethol gwahanol mewn gwahanol rannau o'r DU yn ei chael ar eu gallu i reoli'r ffrydwyr hynny.
Ond fel y soniodd Delyth Jewell ar y cychwyn cyntaf, rwy'n credu bod hyn yn datblygu'n gyson. Nid wyf yn credu bod y ddeddfwriaeth a oedd ar waith cyn y Bil Cyfryngau, a gafodd ei setlo, rwy'n credu, wrth i Senedd ddiwethaf y DU ddod i ben, wedi bod—. Ni welwyd unrhyw ddeddfu sylweddol yn y maes hwn ers cyflwyno Ofcom yn 2003 mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn credu y dylem ei gadael mor hir eto cyn ein bod yn edrych ar sut yn union y mae tirlun ein cyfryngau wedi datblygu, a sut felly y gallwn amddiffyn a gwella'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hynny, eu canmol pan fyddant yn gwneud yn dda, eu dwyn i gyfrif pan nad ydynt yn gwneud eu gwaith yn iawn, ond yn y pen draw, i fod yno i'w diogelu oherwydd yn y pen draw maent yn hanfodol i'r gymdeithas ddemocrataidd yr ydym yn byw ynddi, ac i adlewyrchu lleisiau pobl Cymru.
Gaf i ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar hwn, a hefyd am y drafodaeth dŷn ni eisoes wedi’i chael, sydd wedi amlinellu pwysigrwydd y gwaith yma? Dwi’n gwybod fy mod i’n rhan o’r pwyllgor rŵan, ond doeddwn i ddim yn rhan o’r gwaith. Ond mae o’n ddatblygiad o’r gwaith dŷch chi eisoes wedi bod yn ei wneud, a dwi’n credu ei fod o’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n trin a thrafod hyn—efo Tom Giffard a Sioned Williams hefyd yn dangos pa mor berthnasol ydy o i’n democratiaeth ni.
Mi fydd o'n eithriadol o bwysig efo etholiad 2026, wrth gwrs. Yn un peth, i gael ymgeisyddion i fod yn sefyll. Mae yna rôl bwysig iawn gan ddarlledwyr cyhoeddus o fod yn argyhoeddi pobl i fod yn ynghlwm yn ein democratiaeth ni, ond o ran pleidleisio hefyd. Oherwydd un o'r pethau efo'r etholiad cyffredinol sydd newydd fod, wrth gwrs, ar lefel Brydeinig—mi gafwyd yr holl drafodaethau. Mi oedd yna lu o ddadleuon ac ati. Ond mae'n anodd iawn, hyd yn oed yn y rheini—. Fe welsoch fod rhai o'r pleidiau sydd yma yng Nghymru, gan gynnwys Plaid Cymru—cael slot ychwanegol oedden nhw yn hytrach na chael bod ar y prif blatfform yna. Mae hynna yn effeithio yn fawr ar ganlyniad etholiadau hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n herio.
Wrth gwrs, ym Mhlaid Cymru, datganoli darlledu y byddem ni'n hoffi ei weld, ac yn amlwg, yn y cytundeb cydweithio—. Rydw i ddod â hynny mewn, os caf i, Gadeirydd, i mewn i'r ddadl yma, ond dwi'n meddwl ei fod o yn cyd-fynd efo'ch gwaith chi fel pwyllgor. Yr hyn oedd yn y cytundeb, wrth gwrs, oedd ynglŷn ag awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol newydd, a'r hyn yr hoffwn i ei glywed gan y Gweinidog heddiw ydy beth sy'n digwydd o'r rhan hynny rŵan? Oes yna amserlen ar gyfer sefydlu? Oes yna gadarnhau cadeiryddion a'r cylch gorchwyl? Oherwydd, am yr holl resymau sydd eisoes wedi'u hamlinellu, mae hyn yn allweddol bwysig.
Dwi'n meddwl ei fod o'n ddifyr, o ddarllen eich adroddiad chi, y gydnabyddiaeth bod llai o bobl, efallai, yn edrych ar deledu y dyddiau hyn. Mi oeddech chi'n pwysleisio hefyd y platfformau amgen yna dŷn ni'n eu gweld, efo Hansh ac ati. Mae ITV efo'i brentisiaethau a'r gwaith sy'n cael ei wneud ar TikTok yr un mor bwysig, ond mae o hefyd yn dod o dan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y funud. Mae o'n bwysig iawn bod lot o'r cynnwys yma ar y platfformau digidol hefyd yn y Gymraeg, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar YouTube ac ati, lle mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn mynd i wylio pethau y dyddiau yma, cynnwys Saesneg ydy o. Os ydych chi'n gofyn i unrhyw berson ifanc sydd eisiau bod yn YouTuber ac ati, maen nhw'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw gynhyrchu'r cynnwys yma yn y Saesneg er mwyn iddo fo gael unrhyw reach a likes. Felly, mae cael hyn ar gael yn eithriadol o bwysig. Felly, dwi yn croesawu eich argymhellion chi o ran ariannu S4C hefyd, oherwydd maen nhw angen y buddsoddiad ar gyfer y platfformau yma.
Mae yna nifer o'ch argymhellion chi, wrth gwrs, ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r fantais fawr fod yr etholiad wedi bod yn gynt ydy bod yna Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Felly, dwi'n gobeithio hefyd clywed pa drafodaethau fydd yn mynd rhagddynt o ran hynny. Mae llais Cymru ar goll yn llawer rhy aml. Mi ydym ni'n gorfod brwydro. Mi oeddem ni'n gorfod brwydro ar gyfer cael ein sianel genedlaethol yn y Gymraeg, wrth gwrs. Rydym ni'n parhau i frwydro. Mae hyn yn cydfynd â'r drafodaeth wythnos diwethaf, wrth gwrs, ynglŷn â gemau'r chwe gwlad a darlledu ac ati. Mi oeddech chi'n sôn bryd hynny ynglŷn â phwysigrwydd rygbi o ran hunaniaeth. Mae yna gymaint o elfennau gwahanol fan hyn.
Felly, dwi'n diolch i'r pwyllgor am eich gwaith, ond mae o'n bwysig rŵan ein bod ni yn gweld gweithredu ar hyn er mwyn ein democratiaeth, er mwyn hunaniaeth, er mwyn ein hiaith, gymaint o elfennau sydd yn bwysig eithriadol, a chofio hefyd am bobl hŷn o fewn ein cymdeithas sydd yn dal i hoffi gwylio teledu. Mae'n bwysig bod Cymru yn cael y gynrychiolaeth haeddiannol yn y ddwy iaith swyddogol.
Diolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae cyfryngau annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd yn hanfodol i'n democratiaeth a hygyrchedd gwybodaeth ddiduedd. Mae'r sector darlledu yn chwarae rhan hanfodol yn hysbysu, yn difyrru ac yn creu ein dinasyddiaeth ddiwylliannol gyffredin yng Nghymru, ac mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol i dwf ein heconomi, i ddatganoli ac i gyflawniad ein huchelgeisiau ar gyfer cynnal a thyfu'r Gymraeg.
Fel pwyllgor, rydym yn croesawu Bil Cyfryngau Llywodraeth y DU, gan ei fod yn darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn barod at y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhai addasiadau y dylid eu gwneud. Fel y mae argymhelliad 2 yn cydnabod, mae amlygrwydd yn bwysig iawn o ystyried yr oes ddigidol sydd ohoni a goruchafiaeth cyfryngau cymdeithasol, setiau teledu clyfar a YouTube. Fel y mae pethau, daw'r ffynonellau gwybodaeth a hyrwyddir fwyaf ar-lein o'r Daily Mail a The Sun, cyhoeddiadau hynod ragfarnllyd. Fel yr amlygodd y BBC yn ystod sesiynau tystiolaeth, mae angen inni roi amlygrwydd sylweddol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn hytrach na defnydd cyfredol y Bil o amlygrwydd 'priodol'. Er mwyn i hyn fod yn bosibl yn ymarferol, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd sicrhau fod gan Ofcom ddigon o bwerau i ddatrys anghydfodau pan fydd llwyfannau'n methu cario darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Fel y nododd ITV, bydd Ofcom yn herio chwaraewyr mawr byd-eang, felly mae'n bwysig iawn fod gallu ganddynt i ymateb yn gadarn.
Gwn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn deall gwerth ein darlledwyr Prydeinig gwych, sy'n darparu cymaint mwy i'n cymunedau lleol nag adloniant yn unig. Maent yn darparu swyddi da mewn cymunedau ledled y wlad a chyfleoedd i'r sectorau creadigol sy'n tyfu'n gyflym, ochr yn ochr â diogelu diwylliant, gwerthoedd a rhagoriaeth greadigol Prydain dramor, gan helpu Cymru i ffynnu. Ac er ein bod wedi gweld ffyniant ym maes cynhyrchu teledu a ffilm yng Nghymru, mae lle i ddatblygu ymhellach eto, gan gynnwys yng ngogledd Cymru, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai'r diwydiannau creadigol wedi cael eu cynnwys yn rhan o'r parth buddsoddi.
Rwy'n cytuno gyda'r BBC na ddylai staff orfod gadael Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd. Dyna pam mae argymhelliad 11 mor bwysig. Mae Cymru angen ei chyfran deg o wariant y BBC, gan sicrhau cydraddoldeb â'r hyn sy'n cael ei wario ar gynnwys Saesneg yn yr Alban. Fel y mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi, nododd adroddiad y panel arbenigol ar ddarlledu nad oes digon o gynnwys penodol i Gymru ar gyfer cynulleidfaoedd di-Gymraeg o hyd, ac mae'r bwlch cyllido yn y maes gwasanaeth hwn, o'i gymharu â'r Alban, yn parhau. Ar hyn o bryd, mae'r BBC yn gwario dwbl yr arian y mae'n ei wario yng Nghymru yn yr Alban, ac ni all hyn barhau.
Rwy'n falch fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwn yn cadarnhau ei hymrwymiad i weithio gyda'r BBC i gefnogi cynnydd yn y gwariant ar gynnwys teledu Saesneg drwy Cymru Greadigol. Diolch i'r dull cydweithredol a strategol hwn, y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed o ran cynyrchiadau drama'r BBC yng Nghymru, gyda chwe chyfres ddrama yn cael eu cynhyrchu ledled y wlad.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dynnu sylw Llywodraeth flaenorol y DU yn gyson at y niwed y mae toriadau cyllidebol olynol wedi'i wneud i allu S4C i gyflawni ei rôl hanfodol i ddiwallu anghenion ein poblogaeth o siaradwyr Cymraeg. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn clywed ein galwad am fwy o fuddsoddiad yn S4C ac y bydd cyllid dangosol dros nifer o flynyddoedd yn cael ei ddarparu, fel y gall y darlledwr gynllunio'n briodol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn tynnu sylw at rai o'r heriau uniongyrchol a mwy hirdymor sy'n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Bil Cyfryngau yn mynd rywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae mwy i'w wneud o hyd i ddarparu'r amddiffyniad, yr amlygrwydd a'r ffyniant y mae'r darlledwyr hyn eu hangen i gyflawni eu rôl bwysig yn hysbysu ac yn diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am eu hadroddiad? Mae'r adroddiad manwl hwn i'w groesawu'n arbennig mewn cyd-destun lle rydym wedi gweld newidiadau mwy cyflym yn y broses o greu a defnyddio cyfryngau nag y gallai rhai ohonom fod wedi'i ddychmygu, ar draws y byd ac i ni yma yng Nghymru. Rhaid i ni roi hyn mewn cyd-destun byd-eang hefyd, lle gwelwn gyfundrefnau sy'n gormesu eu pobl a'u poblogaethau yn rhwystro mynediad at gyfryngau diduedd. Felly, mae hwn yn adroddiad hynod bwysig. Diolch yn fawr iawn.
Fodd bynnag, yn anffodus, nid yw brwdfrydedd a thrylwyredd yr adroddiad i'w deimlo i'r un graddau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymatebion wedi bod yn dila, a dweud y lleiaf. Dro ar ôl tro, cafodd adroddiad y pwyllgor ei ateb gyda'r byrdwn, 'Nid mater i Lywodraeth Cymru yw'r argymhelliad hwn. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw'r argymhelliad hwn.' Ac maent yn iawn: nid yw darlledu wedi'i ddatganoli. Nid oes rheidrwydd arnynt i fynd i'r afael â'r adroddiad hwn, ac mae ganddynt hawl i ailadrodd y byrdwn hwn. Ond nid yw gwneud hynny, ac ymateb yn hytrach mewn ffordd mor dila, yn ateb pryderon y pwyllgor, a nodir yn glir yn yr adroddiad, a difrifoldeb y materion sy'n wynebu Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Felly, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, safbwynt y Blaid Lafur yn San Steffan oedd mai dim ond un cyfeiriad at ddarlledu a gafwyd yn eu maniffesto. Roeddent yn dweud hyn:
'Byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda’r BBC a’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill er mwyn iddynt barhau i hysbysu, addysgu a diddanu pobl, a chefnogi’r economi greadigol drwy gomisiynu cynnwys sy'n nodweddiadol Brydeinig.'
Rwy'n gobeithio bod Llafur Cymru yn meddwl yn wahanol. Dim sôn am S4C. Dim sôn am ddim byd nodweddiadol o Gymru. Dim sôn am y Gymraeg. Dim sôn am ddarlledu Albanaidd. Dim sôn am ddarlledu mewn Gaeleg. Rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol.
Roeddem eisiau sicrhau ein bod yn diogelu'r BBC, S4C, BBC ALBA, Channel 4, fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd, ac roeddem eisiau datganoli pwerau dros ddarlledu er mwyn sicrhau bod gennym yr atebolrwydd democrataidd a'r ffynonellau gwybodaeth dibynadwy hynny hefyd.
Rwyf am droi'n ôl at y Gymraeg.
Diolch yn fawr iawn am sôn am hynny. Mae'n bwysig, bwysig iawn.
Roedd y pwyllgor yn gwbl gywir i godi'r mater iaith—mater, unwaith eto, nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau arno yn anffodus, ond mae'n dweud bod ganddynt bryderon yn ei gylch. Dywed yr adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y cynigion—hynny yw, i ddeddfu i wella newyddion a darpariaeth Gymraeg ar radio masnachol. Mae'n rhaid inni fod yn glir iawn: os yw dyfodol darlledu cyhoeddus mewn perygl, onid yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai'n ddoeth inni ffurfioli'r trefniadau hyn er mwyn sicrhau dyfodol darlledu iach yma yng Nghymru, ac yn y Gymraeg? Ac felly rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu sicrwydd newydd yn San Steffan i sicrhau nad yw'r defnydd o'r Gymraeg yn dibynnu ar drefniadau anffurfiol. Mae arnaf ofn na allwn ni byth ganiatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n ofni na allwn ni byth ymddiried mewn Llywodraeth DU i wneud y peth iawn.
Felly, yn olaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae dyfodol darlledu cyhoeddus da, iach yma yng Nghymru yr un mor fregus o dan Lywodraeth Lafur y DU ag yr oedd o dan y Ceidwadwyr, a bydd yn parhau i fod felly oni bai ein bod yn gweld gweithredu gan y Llywodraeth hon i roi pwysau ar eich ffrindiau yn San Steffan i roi sylfaen fwy diogel i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma—tystiolaeth unwaith eto i ddangos i ba raddau mae Cymru ar ei hôl hi o ran darlledu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gydnabod, fel gwnaeth Delyth a Jane Dodds awgrymu, fod y diwydiant wedi newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae YouTube, TikTok, a gwasanaethau ffrydio fel Netflix ac Amazon, wedi cael effaith mawr ar bobl o bob cenhedlaeth, ond yn arbennig ar y genhedlaeth iau. Dim ond 16 y cant o wylio fideo gan bobl rhwng 16 a 34 mlwydd oed oedd teledu byw, ac mae hyn dim ond cynyddu i 23 y cant wrth i ni ychwanegu teledu 'catch up' i hynny. Mae hyn yn rhoi pwysau anhygoel ar weithwyr yn y diwydiant.
Mae etholwr i mi, sy'n gweithio fel gweithiwr llawrydd yn y byd teledu, wedi tynnu fy sylw at faint y broblem drwy ymgyrch Left in the Dark. Er mai gweithwyr llawrydd sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gwmnïau cynhyrchu'r DU, mae bron i 80 y cant ohonynt yn nodi rhyw raddau o galedi ariannol, gyda nifer yn profi dirywiad sylweddol yn eu hiechyd meddwl.
Mae hyn yn bownd o gael effaith arbennig ar Gymry Cymraeg. Y neges glir i fi o'r adroddiad yw sut mae Cymru unwaith eto ar ei cholled oherwydd penderfyniadau gan San Steffan. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar ddarlledu, ond ar feysydd eraill o ddiwylliant Cymru. Mae rôl S4C o gefnogi iaith a diwylliant ein gwlad yn hollol amlwg. Mae Delyth yn barod wedi sôn am y gostyngiad o 30 y cant mewn termau real i gyllideb S4C.
Fodd bynnag, nid wyf yn gweld llawer o frwdfrydedd gan weinidogaeth newydd Starmer i adfer y cyllid hwnnw. Mae hyn er gwaethaf adroddiad diweddar gan Wavehill a ddangosodd fod pob £1 sy'n cael ei gwario ar S4C y maent yn ei chael o ffi'r drwydded, yn ennill £1.53 i economi Cymru. Nid oes unrhyw reswm dros barhau i dorri cyllid S4C. Fel y gwelsom yn y ddadl ar hawliau darlledu pencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad yr wythnos diwethaf, mae yna amharodrwydd amlwg ar ran San Steffan i hyrwyddo tegwch yn y byd darlledu yng Nghymru. Gallai ein pencampwriaeth chwe gwlad, sydd mor annwyl i ni ac sydd wedi'i nodi yng nghalendr pob un o gefnogwyr rygbi Cymru, gael ei chloi y tu ôl i wal dalu y flwyddyn nesaf oherwydd ddiffyg dealltwriaeth a difaterwch Llywodraeth y DU tuag at chwaraeon Cymru a darlledu yng Nghymru.
Enghraifft arall o'r diystyrwch a'r diffyg gwybodaeth yma o leisiau Cymraeg a Chymreig yn San Steffan yw'r Ddeddf Cyfryngau diweddar. Dilëwyd y swyddogaeth statudol i Ofcom i reoleiddio cymeriad gwasanaeth gorsafoedd masnachol lleol. Nawr, os ydym ni am symud tuag at y filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dylem fod yn mynnu bod gan raglenni Cymraeg lais o hyd ar ein gorsafoedd radio.
Ond wrth edrych tua'r dyfodol, mae gennym lawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Mae'r ymchwil yn dangos, er gwaethaf yr anawsterau a nodais, fod ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a'r gwaith a wnawn yn y Senedd yn cynyddu ledled y DU. Rhan o'r rheswm am hynny yw oherwydd gwaith da ein darlledwyr. Fodd bynnag, mae gennym ni rôl i'w chwarae hefyd. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi gweld clip o Rhun ap Iorwerth ar Good Morning Britain yn addysgu ac yn egluro mater HS2 yng Nghymru i gyflwynwyr dryslyd a'u gwylwyr. Mae budd gwirioneddol i ddarlledu na ellir ei danbrisio. Fel y dywedodd Heledd, byddwn i'n dadlau mai'r ffordd orau o weithredu polisi darlledu fyddai ar lefel Gymreig. Mae Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen o ran ei dealltwriaeth, o ddweud na ddylid datganoli darlledu i ddweud y dylid ei ddatganoli, a hynny o dan y cytundeb cydweithio. Fel y mae Heledd wedi gofyn, hoffwn innau hefyd wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu yma i'r Senedd. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Sarah Murphy.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad 'Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'. Hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor, a’r rheini a fu'n dirprwyo ar brydiau, am ei ymchwiliad. Mae wedi cynnwys cryn dipyn o waith casglu tystiolaeth a grynhowyd gennych yn un cwestiwn cyffredinol allweddol: pa mor effeithiol y mae buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli gan y system bresennol? Oherwydd ceir llawer o dystiolaeth o bwysigrwydd di-gwestiwn ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn darparu ystod amrywiol o gynnwys gwerthfawr, gan gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws llwyfannau. Maent yn gyfranwyr hanfodol at ein heconomi greadigol, gan ddarparu cyfleoedd i gwmnïau annibynnol a gweithwyr llawrydd a chefnogi amrywiaeth a chynaliadwyedd parhaus drwy ddatblygu sgiliau a thalent.
Yng Nghymru yn enwedig, maent yn gwneud cyfraniad hollbwysig at luosogrwydd newyddion, asgwrn cefn unrhyw gymdeithas ddemocrataidd weithredol, fel y clywsom gan lawer heddiw. Yn ogystal, mae darlledwyr yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi cyflawniad ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg, gan ddarparu cynnwys, adnoddau addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth i gynulleidfaoedd Cymraeg, yn cynnwys siaradwyr newydd. Felly, i ni yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darlledu mewn cymaint o’n blaenoriaethau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i weithio gyda’n rhanddeiliaid i gefnogi sector addas i’r diben sy’n gwasanaethu anghenion holl gynulleidfaoedd Cymru. Mewn rhai meysydd, mae’r gwaith hwn wedi rhoi llawer i ni ei ddathlu. Mae ein hymateb i adroddiad y pwyllgor yn manylu ar ein perthynas gadarnhaol â darlledwyr yng Nghymru. Mae memoranda cyd-ddealltwriaeth Cymru Greadigol gyda’r BBC ac S4C yn cefnogi cyfleoedd cyd-fuddsoddi cyffrous, megis Men Up, Lost Boys and Fairies, a Pren ar y Bryn. Maent yn darparu llif o waith ar gyfer ein sector cynhenid, ac yn creu cynnwys o safon sy’n portreadu’r Gymru go iawn ac sy’n cael ei fwynhau gan gynulleidfaoedd y DU, a hefyd yn rhyngwladol.
Mae ein diwydiant sgrin ffyniannus, sydd wedi bod yn gartref i gynyrchiadau byd-eang mawr, megis House of the Dragon, yn parhau i gyfrannu’r mwyafswm o sectorau creadigol Cymru, gyda throsiant o £459 miliwn yn 2022—cynnydd o 37 y cant ers 2017. Fodd bynnag, mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r sector, a breuder y system bresennol. Mewn marchnad gynyddol fyd-eang, lle mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cystadlu gyda chyllidebau enfawr y llwyfannau ffrydio, ac yn rheoli refeniw llai ac effaith chwyddiant, mae cynaliadwyedd parhaus y sector mewn perygl. Mae’r heriau ariannol hyn yn cael eu gwaethygu gan gynulleidfa gynyddol dameidiog, lle mae darlledwyr yn darparu ar gyfer amrywiaeth o wylwyr a gwrandawyr ar draws llwyfannau lluosog.
Os yw ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus am addasu a llwyddo yn wyneb yr heriau hyn, mae'n hanfodol fod ganddynt y fframwaith cywir i weithredu ynddo, a dyna pam rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor sy'n nodi argymhellion clir, un ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond fe wnaethom ymgysylltu’n drylwyr â’r gweddill—yr 16 arall. Credaf mai'r bwriad yw cefnogi tirwedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n atebol, yn gynhwysol, ac sy’n adlewyrchu anghenion a disgwyliadau penodol cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Rydym yn cytuno ag argymhellion y pwyllgor ynghylch Deddf Cyfryngau 2024 a rôl bwysig Ofcom yn sicrhau bod ei fesurau sy'n ymwneud â materion fel amlygrwydd yn cael eu gorfodi’n effeithiol. Hefyd, y dylai’r BBC ac Ofcom adrodd yn ôl i’r pwyllgor cyn diwedd y chweched Senedd i adrodd ar gynnydd, fel y gofynnwyd yn eich argymhellion 8, 10, 12 a 13. Credaf y byddai hynny ynddo’i hun yn gam tuag at sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol hefyd.
Rydym yn cytuno bod yn rhaid i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gael sicrwydd o gyllid digonol a hirdymor os ydynt am allu cyflawni yn unol â’u cylch gwaith, a bod yn rhaid i’r trefniadau hyn ystyried anghenion a gofynion penodol gwahanol genhedloedd, ac rydym wedi darparu tystiolaeth i Lywodraeth y DU ar yr adolygiad o fodel ariannu’r BBC yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda darlledwyr i dargedu lefelau uwch o fuddsoddiad ym mhob rhan o Gymru, ac rydym yn cydnabod yr angen am welliannau i faterion adrodd a pholisi, a phwysigrwydd sylw cywir a digonol i newyddion o Gymru i Gymru. Mae arnom angen lleisiau cryf ac angerddol ar fyrddau darlledu sy'n hyrwyddo anghenion Cymru ac sy'n sicrhau bod amgylchiadau Cymru'n cael eu hystyried yn ddigonol ar lefel y DU. Rydym yn archwilio ein pwerau i ddiwygio prosesau’r BBC ac Ofcom mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor.
Mae’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod yr alwad hyd yma am rôl gryfach i Gymru ym mhenodiadau bwrdd S4C. Rwy’n awyddus i barhau â’r trafodaethau hyn gan fod gennym Lywodraeth newydd yn San Steffan erbyn hyn. Ac rydym yn cytuno bod yn rhaid i Gymru, fel cenedl yn ei hawl ei hun, fod yn rhan ganolog o unrhyw sgwrs am ddyfodol darlledu, er mwyn sicrhau bod ein diwylliant, iaith, natur a hanes unigryw yn cael eu diogelu a’u dathlu mewn unrhyw drefniant yn y dyfodol. Mae nawr yn adeg hollbwysig i ddarlledu. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen llais cryf arnom yn y ddadl am ei ddyfodol.
Mae nifer o gerrig milltir pwysig o’n blaenau, yn enwedig penderfyniadau ar drefniadau ariannu yn y dyfodol, fel y nodwyd heddiw, gweithredu Deddf cyfryngau, adolygiad Ofcom o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a gwaith i ddatblygu siarter nesaf y BBC. Mae'n rhaid i unrhyw fodel ariannu ar gyfer ein darlledwyr yn y dyfodol fod yn gynaliadwy ac yn ddigonol i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd. Dim ond ar ôl trafodaethau ystyrlon a rheolaidd gyda ni y dylid gwneud unrhyw benderfyniad ar y model hwnnw er mwyn sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu deall a'u hadlewyrchu'n llawn.
Gellir dadlau bod y ffordd y caiff y Ddeddf cyfryngau ei rhoi ar waith yr un mor bwysig â’r ddeddfwriaeth ei hun. Bil fframwaith ydyw, yn union fel Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Bydd sicrhau bod ei darpariaethau’n cael eu cyflawni’n effeithiol yn hollbwysig, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ac Ofcom wrth i fanylion ymarferol y Ddeddf gael eu datblygu.
Yn olaf, rydym yn sefydlu grŵp cynghori ar ddarlledu a chyfathrebu, mewn ymateb i argymhellion y panel arbenigwyr darlledu. Bydd y grŵp yn ffynhonnell bwysig o gyngor ac arweiniad wrth inni lywio’r datblygiadau pwysig hyn a bwrw ymlaen â gwaith i ddiogelu dyfodol y sector. Ond Heledd Fychan, mewn perthynas â’ch cais penodol am y manylion hynny, mae arnaf ofn na allaf roi diweddariad penodol heddiw ar yr amserlen, ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod ein timau penodiadau cyhoeddus a gwasanaethau cyfreithiol yn gweithio’n agos iawn gyda'i gilydd i lunio'r cylch gorchwyl cyn gynted â phosibl.
Felly, wrth inni wynebu’r cerrig milltir hyn, a'r amryw newidiadau yn y sector, rwy’n ddiolchgar am ffocws parhaus y pwyllgor ar ddarlledu yng Nghymru. Rwyf am barhau i beidio â bod yn dila. Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr i’r holl Aelodau yn y ddadl heddiw.
Y Cadeirydd nawr i ymateb i'r ddadl. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Diolch i Tom, yn gyntaf.
Diolch am eich gwaith ar y pwyllgor, unwaith eto, Tom. Fe welir eich colli, er ein bod yn falch iawn fod Laura wedi ymuno â ni. Cyflwynwyd rhywfaint o'r dystiolaeth beth amser yn ôl—rwy'n cytuno—fel y dywedwch. Mae’r dystiolaeth sydd gennym, er iddi gael ei chyflwyno beth amser ôl, yn hynod berthnasol, yn enwedig o ran sylw i faterion gwleidyddol, y diffyg democrataidd, budd y cyhoedd yn hytrach na budd masnachol. Rwy’n cytuno mai dyna yn wir yw hanfod darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ar yr ymyriad a wnaeth Sioned, a'r sylw a roddwyd i bethau dros y dyddiau diwethaf, mae wedi bod yn llwm. Roedd yn fy atgoffa—. Yn gynharach yn y pandemig, rwy'n credu bod cyfryngau'r DU wedi anwybyddu, i raddau helaeth—. Wel, ar y dechrau. Newidiodd pethau'n gyflym iawn, mewn gwirionedd, ond ar y dechrau, cawsom ein hanwybyddu i raddau helaeth o ran unrhyw benderfyniadau democrataidd a wnaed, ond rhoddwyd llawer o sylw i'r geifr yn Llandudno. Dylai ein democratiaeth fod yr un mor bwysig â'r gimics a'r jôcs. Ond na, o ddifrif, mae'n fraint cael cwmni Laura a’i chyfraniad rhagorol i’r pwyllgor, a diolch i chi eto, Tom, am eich cyfraniad rhagorol hefyd.
Diolch, Heledd, a chroeso nôl i'r pwyllgor. Mae'n hyfryd i gael ti nôl. Ie, awdurdod cyfathrebu cysgodol—gwnes ti ofyn. Rwy'n falch iawn bod hynna wedi cael ei ateb gan y Gweinidog.
Roedd Heledd wedi sôn am y platfformau eraill sydd yn bodoli, nid dim ond ar y teledu, fel Hansh, fel TikTok. Oes, mae angen i'r cynnwys fod ar gael yn Gymraeg ac yn Gymreig hefyd, ei fod e'n adlewyrchu ein bywyd ni yma yng Nghymru. Rwy'n cytuno gyda beth roeddech chi'n ei ddweud, Heledd: i bobl hŷn, bydd teledu yn dal mor, mor, mor bwysig. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn cael eu gadael ar ôl, neu bwy bynnag sy'n dibynnu ar ac yn cael eu cynnwys nhw o'r teledu. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd ymateb Llywodraeth newydd San Steffan ar hyn i gyd.
Soniodd Carolyn sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn helpu i greu dinasyddiaeth gyffredin. Ie, nid yn unig adlewyrchu'r ddinasyddiaeth honno, ond helpu i'w ffurfio, drwy addysgu. Credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Ac ydy, mae cystadleuaeth fyd-eang yn enfawr o ran yr arian sydd ar gael i gwmnïau fel Netflix ac Amazon. Rwy’n cofio Phil Henfrey, pan oedd gydag ITV, yn sôn am y tswnami, y don sy'n nesu at y traeth o ran yr effaith y gallai hynny ei chael ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Soniodd Jane, unwaith eto, am berthnasedd yr adroddiad. Roeddwn yn credu bod hwnnw’n bwynt diddorol gan Jane ac yn rhywbeth y mae angen inni ei gadw mewn cof, am gyd-destun byd-eang y cyfundrefnau mewn mannau eraill sy’n cyfyngu ar y cyfryngau a’u dinasyddion o ran sut y gallant gael mynediad atynt. Mae'n wir na ddylem gymryd ein rhyddid yn ganiataol yn hynny o beth. Ond rwy'n cytuno â Jane hefyd na ddylai hynny arwain at laesu dwylo neu israddio unrhyw un o'r mesurau hyn—i'r gwrthwyneb. A soniodd Jane fod diffyg sôn, efallai, am rai o'r mesurau a allai fod wedi mynd i'r afael â hyn yn Araith y Brenin hefyd.
Soniodd Rhys am y newidiadau technolegol sydd wedi digwydd—fel roedd Heledd wedi gwneud hefyd—a'r ffordd mae pobl ifanc yn arbennig yn derbyn cynnwys. Ie, dwi'n cytuno â Rhys bod gan S4C rôl arbennig yn niwylliant Cymru ac mae'n rhaid cael sicrwydd ariannol. Mae'r pwyllgor yn teimlo'n gryf iawn am hwnna. Ac fe wnes i gytuno â phwynt Rhys am bwysigrwydd sianeli teledu i bobl hŷn eto i daclo unigrwydd. Mae angen sicrhau nad oes unigrwydd ymysg unigolion nac ychwaith ynysrwydd ein diwylliant ni, ein ffordd o fyw. Mae hwnna i gyd yn bwysig. A diolch i'r Gweinidog am ymateb.
Diolch am eich geiriau caredig. Yn wir, mae sawl stori lwyddiant am gynnwys a gynhyrchwyd yng Nghymru. Cafwyd sawl enghraifft yn y misoedd diwethaf, a bydd yn hyfryd gweld hynny’n parhau, yn ogystal â chynnwys sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru hefyd, sy'n hollbwysig—mae’r cynnwys a gynhyrchir yma i’w ganmol. Mae croeso arbennig bob amser i'r cynnwys sy'n adlewyrchu Cymru. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth newydd San Steffan yn digwydd yn gyflym o ran sut y gellir rhoi ein hargymhellion ar waith. Ac rwy'n falch o glywed eich bod yn awyddus i ailddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan gan fod gennym Lywodraeth newydd bellach.
Fel yr amlinellais i ar ddechrau'r ddadl hon, ein barn ni yw nad yw buddiannau Cymru'n cael eu hystyried i raddau digonol mewn trafodaethau sy'n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Dyw cyfyngiadau cyllidebol a diffyg cyfeiriad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ddim wedi helpu'r sefyllfa hon mewn unrhyw ffordd, ond ddylem ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau—fel mae'r Sais yn dweud—ychwaith a disgwyl i newid ddigwydd.
Mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd. Mae sicrhau presenoldeb darlledu gwasanaeth cyhoeddus cryf yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth iach. Mae sicrhau bod ein darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cynrychioli pwy ydym ni a ble rydyn ni'n byw yn bwysig er mwyn dod â phobl ynghyd. Mae'n denu pobl i'r sianeli hyn ac yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddyn nhw. Rydyn ni'n gwneud yr argymhellion hyn i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i'r cyd-destunau technolegol, cymdeithasol, gwleidyddol sy'n newid yn gyflym. Ac i gloi, Llywydd, mae'r rhain yn rhai mae Cymru yn eu hwynebu, ac mae'n rhaid sicrhau bod ein gwasanaethau darlledu yn ateb y galw mewn oes ddigidol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad wedi ei nodi.