Cyllid Ychwanegol i Gymru

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Ceidwadwyr

6. Faint o gyllid ychwanegol y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl i Lywodraeth newydd y DU ei ddarparu i Gymru? OQ61457

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:04, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad cyllidebol y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae Canghellor y Trysorlys wedi dweud y bydd hi'n nodi manylion ynglŷn ag amseriad cyllideb y DU cyn toriad yr haf. Byddwn yn gwybod mwy am y rhagolygon ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar ôl hynny.

Photo of James Evans James Evans Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers i mi gyrraedd yma yn 2021, rydych chi a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi dweud ar sawl achlysur fod angen mwy o arian ar Lywodraeth Cymru ac y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn agor y tapiau ac yn dychwelyd mwy o arian i Gymru. Yn amlwg, ni fydd hynny'n digwydd, yn ôl y sgyrsiau y tybiaf eich bod chi wedi'u cael gyda Rachel Reeves a'r hyn y mae hi wedi bod yn ei ddweud yn y cyfryngau. Ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod—. Rydych chi'n amlwg wedi cael trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Faint o gyllid ychwanegol y credwch chi, fel rhagdybiaeth, y byddant yn ei ddarparu i Gymru, a sut rydych chi'n bwriadu sicrhau y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario ar ofal iechyd, addysg a datblygu economaidd yma yng Nghymru, yn hytrach nag ar brosiectau porthi balchder Llywodraeth Cymru, fel cael mwy o wleidyddion yn y lle hwn, neu brosiectau eraill sydd gennych mewn golwg yn ôl pob tebyg, na fyddant o fudd i bobl Cymru mewn gwirionedd?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:05, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, hoffwn gywiro James Evans, oherwydd nid wyf yn credu fy mod erioed wedi defnyddio'r ymadrodd 'agor y tapiau' mewn perthynas â Llywodraeth newydd y DU pan ddaeth, o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu i ni, ac ni fyddwn erioed wedi defnyddio'r ymadrodd hwnnw, oherwydd fe wyddom yn iawn beth yw'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU wedi'i hetifeddu, sy'n waeth hyd yn oed na'r disgwyl a'r hyn a ragwelwyd yn ôl pob tebyg. Fel y dywedaf, nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd faint o gyllid ychwanegol a allai fod ar gael i ni yn y blynyddoedd i ddod. Y cyfan y gallwn seilio ein tybiaethau arno ar hyn o bryd yw'r hyn a ddywedodd y Canghellor blaenorol ym mis Mawrth, a rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol mewn perthynas â threthi ac yn y blaen, ac yna hefyd yr hyn a ddywedwyd yn yr atodiad yng nghefn maniffesto Llafur, sy'n nodi cyllid ychwanegol posibl hefyd. Felly, mae uned ddadansoddi cyllidol Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y nodais yn gynharach, wedi edrych ar y ddau ffigur hynny ac wedi darparu rhai rhagdybiaethau cynllunio, ond ar y pwynt hwn, fel y dywedaf, byddwn yn gwybod mwy am y sefyllfa pan fydd y Canghellor yn gwneud ei datganiad, ac yna byddwn yn edrych at ddyddiad cyllideb yr hydref, ac ar y pwynt hwnnw bydd gennym yr eglurder a'r sicrwydd hwnnw, ond rydym yn gwneud cynlluniau'n seiliedig ar y rhagdybiaethau gorau posibl sydd gennym.