Sefydliadau Iechyd Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:11, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwybod y gellir comisiynu cwmnïau buddiannau cymunedol a busnesau eraill o fewn clystyrau gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau lleol i'r gymuned, ac rydym eisiau gweld mwy o fyrddau iechyd lleol a gwasanaethau llesiant yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaethau hynny, y mae'n gwneud synnwyr i'w darparu ar gyfer poblogaeth glwstwr. Gallai'r rheini gynnwys sefydlu cwmni buddiannau cymunedol, er enghraifft. Nid wyf yn siŵr ai dyna'r model sydd gan eich etholwr Joanne, ond os caf, hoffwn ofyn i chi ysgrifennu ataf gyda gwybodaeth bellach am yr heriau penodol sy'n wynebu Joanne a'i busnes o ran ei gallu i dderbyn atgyfeiriadau a darparu gwasanaeth iddynt. A byddaf yn sicrhau ei fod wedyn yn cael sylw'r Gweinidog iechyd, sef y Gweinidog cyfrifol yn y mater hwn.