Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Mae un o fy etholwyr, Joanne, yn rhedeg Empower Inspire, sy'n gwneud gwaith anhygoel gydag unigolion sy'n byw gyda dementia. Nawr, sefydlwyd Empower Inspire ym mis Ionawr 2022 i ddarparu cefnogaeth gymdeithasol fawr ei hangen i bobl sy'n dal i deimlo effeithiau ynysu o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae sefydliad Joanne yn derbyn atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd lleol yn rheolaidd, ond nid yw'n cael unrhyw gyllid i ateb y galw ychwanegol hwn. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, ond mae'n anodd iawn talu treuliau fel cyflogau a rhenti tra bo'n gorfod gwneud ceisiadau am gyllid yn barhaus. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cynnig cymorth i ddarparu adnoddau digonol i sefydliadau fel un Joanne, yn enwedig o gofio eu bod yn helpu i leddfu'r pwysau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd?