Cyllid Teg i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:07, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Mae gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau Cymru yn wynebu bylchau syfrdanol yn y gyllideb. Mae cyngor Merthyr Tudful yn rhagweld bwlch o £8 miliwn, ac adroddwyd yn gynharach eleni fod Caerffili yn ceisio arbed £30 miliwn er mwyn gosod cyllideb gytbwys. Nawr, nid oes dim o hynny'n anochel. Rydym wedi cael blynyddoedd o gyni creulon, ond mae gofidiau economaidd Cymru yn cael eu gwaethygu gan y fformiwla gyllido drychinebus o annheg yr ydym wedi ein dal ynddi—gafael haearnaidd Barnett ar ein heconomi. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael y drafodaeth gychwynnol honno. A allech chi ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, pryd y bydd y trafodaethau pellach hynny—byddwn yn eu hystyried yn rhai brys—pryd y bydd y trafodaethau brys pellach hynny yn digwydd gyda Llywodraeth y DU Keir Starmer, i sefydlu fformiwla gyllido sy'n seiliedig ar anghenion i Gymru, i ddod â'r cyni creulon i ben o'r diwedd, oherwydd mae'r holl doriadau hyn i gyllidebau a'r creulondeb—oherwydd mae'n mynd i arwain at greulondeb—yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol yn y pen draw.