Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Rwy'n credu mai un pwynt pwysig i'w wneud, er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyfeirio at gyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru, yw na nodwyd unrhyw gyllid erioed ar gyfer hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cofnodi hynny. O ran gwaith y bwrdd, i'r graddau y mae'n ymwneud â gogledd Cymru, credaf mai'r hyn yr ydym eisiau ei weld mewn gwirionedd yw cynllun sydd wedi'i ddatblygu'n briodol ar gyfer buddsoddi yng ngogledd Cymru. Ac rydym yn credu, yn y lle cyntaf, mai blaenoriaethau seilwaith fyddai'r rheini, yn hytrach na thrydaneiddio, am mai dyna'r math o beth sy'n gallu denu mwy o bobl i ddefnyddio rheilffyrdd unwaith eto. Felly, dyna'r meysydd blaenoriaeth, ac rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar y gwaith hwnnw.