Cyllid Teg i Gymru

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â chyllid teg i Gymru? OQ61481

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:06, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Cefais alwad ffôn adeiladol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddydd Mercher diwethaf, ac yn ystod yr alwad honno fe wnaethom gyffwrdd â sawl pwnc, gan gynnwys cyllid teg i Gymru. Bydd cyfle i gael trafodaeth fwy sylweddol gyda'r Prif Ysgrifennydd yn y dyfodol agos.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau Cymru yn wynebu bylchau syfrdanol yn y gyllideb. Mae cyngor Merthyr Tudful yn rhagweld bwlch o £8 miliwn, ac adroddwyd yn gynharach eleni fod Caerffili yn ceisio arbed £30 miliwn er mwyn gosod cyllideb gytbwys. Nawr, nid oes dim o hynny'n anochel. Rydym wedi cael blynyddoedd o gyni creulon, ond mae gofidiau economaidd Cymru yn cael eu gwaethygu gan y fformiwla gyllido drychinebus o annheg yr ydym wedi ein dal ynddi—gafael haearnaidd Barnett ar ein heconomi. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael y drafodaeth gychwynnol honno. A allech chi ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, pryd y bydd y trafodaethau pellach hynny—byddwn yn eu hystyried yn rhai brys—pryd y bydd y trafodaethau brys pellach hynny yn digwydd gyda Llywodraeth y DU Keir Starmer, i sefydlu fformiwla gyllido sy'n seiliedig ar anghenion i Gymru, i ddod â'r cyni creulon i ben o'r diwedd, oherwydd mae'r holl doriadau hyn i gyllidebau a'r creulondeb—oherwydd mae'n mynd i arwain at greulondeb—yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol yn y pen draw.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:08, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn gobeithio cael cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid cyn diwedd y mis hwn. Bydd yn cael ei gynnal yn Belfast y tro hwn, oherwydd un o gryfderau'r peirianwaith rhynglywodraethol o amgylch cyllid yw ein bod yn symud rhwng yr holl wledydd er mwyn cael y trafodaethau hynny. Felly, bydd hynny'n digwydd cyn diwedd y mis, ac yn amlwg byddaf yn cael cyfarfod dwyochrog gyda'r Prif Ysgrifennydd yn y cyfarfod penodol hwnnw.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob plaid yn Senedd Cymru yn amlwg yn cytuno y dylai Cymru dderbyn ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2. Mae'n fater a godais yn uniongyrchol gyda Llywodraeth flaenorol San Steffan, ac rwy'n gwybod bod rhai o fy nghyd-Aelodau wedi gwneud hynny hefyd. Fodd bynnag, ers dechrau ar ei swydd o fewn yr wythnosau diwethaf, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi gwrthod darparu unrhyw wybodaeth bellach am y cyllid ychwanegol hwn. Pan gafodd rhan Birmingham i Fanceinion o HS2 ei ganslo, penderfynodd Llywodraeth Geidwadol y DU ddefnyddio £1 biliwn o'r arbediad i drydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru. Ers i Keir Starmer fynd i Stryd Downing, nid oes unrhyw sôn o gwbl wedi bod am yr hyn y mae Llafur yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â'r prosiect trydaneiddio pwysig hwn. Rwyf hefyd yn ystyried na soniwyd gair am hyn yn Araith y Brenin. Clywais eich ymateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders am fwrdd rheilffyrdd Cymru, felly hoffwn wybod—fel Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru—beth yw eich blaenoriaeth ar gyfer bwrdd rheilffyrdd Cymru wrth symud ymlaen, a hoffwn wybod hefyd a fyddwch chi'n pwyso am gyllid tecach mewn perthynas â HS2 yma yng Nghymru, neu a ydych chi'n bwriadu cymryd cam yn ôl gan fod eich plaid chi wedi cyrraedd Rhif 10 bellach? Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:09, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai un pwynt pwysig i'w wneud, er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyfeirio at gyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru, yw na nodwyd unrhyw gyllid erioed ar gyfer hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cofnodi hynny. O ran gwaith y bwrdd, i'r graddau y mae'n ymwneud â gogledd Cymru, credaf mai'r hyn yr ydym eisiau ei weld mewn gwirionedd yw cynllun sydd wedi'i ddatblygu'n briodol ar gyfer buddsoddi yng ngogledd Cymru. Ac rydym yn credu, yn y lle cyntaf, mai blaenoriaethau seilwaith fyddai'r rheini, yn hytrach na thrydaneiddio, am mai dyna'r math o beth sy'n gallu denu mwy o bobl i ddefnyddio rheilffyrdd unwaith eto. Felly, dyna'r meysydd blaenoriaeth, ac rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar y gwaith hwnnw.