– Senedd Cymru am 4:23 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
Felly, mae'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil yma i'w wneud gan y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gael agor y ddadl hon, sy'n garreg filltir bwysig arall yn hanes y Bil yma.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd (Cymru) (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a chynnig y cynigion cysylltiedig ar ei egwyddorion cyffredinol a'i ddatrysiad ariannol. Rydym wedi cymryd camau breision dros dymor y Senedd wrth gyflwyno deddfwriaeth i drawsnewid democratiaeth yma yng Nghymru. Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sydd bellach ar y llyfr statud, yn gwella gallu'r Senedd hon i graffu'n effeithiol a bydd yn cyflwyno system etholiadol gyfrannol ar gyfer etholiad 2026.
Yr wythnos diwethaf pasiodd y Senedd hon y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn parhau i ddiwygio ein system etholiadol yng Nghymru, gan ei gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Heddiw rydym yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil nodedig, Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), sydd â'r diben o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Ar gyfer y Bil hwn, mae gan Gymru gyfle i ddilyn ôl troed llawer o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi cydnabod manteision bod â mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth. Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos y gall cynyddu nifer y deddfwyr benywaidd arwain at ddeddfwrfa fwy effeithiol, ac mae dros 130 o wledydd, gan gynnwys Iwerddon, yn defnyddio cwotâu at y diben hwn. Nododd Dr Fiona Buckley, ac rwy'n dyfynnu:
'Ers mabwysiadu cwotâu rhywedd deddfwriaethol, mae Iwerddon wedi gweld cynnydd o 44% yn nifer y menywod sy'n cael eu hethol i Dáil Éireann, gan godi o 25 yn 2011 i 36 yn 2020.'
Mae'r ddadl hon, Llywydd, yn nodi diwedd craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu manwl ar y ddeddfwriaeth, ac i bawb a roddodd dystiolaeth. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i'r 47 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y llythyr am oblygiadau ariannol y Bil.
Ar ddechrau'r broses hon, dywedais fy mod yn bwriadu ystyried canlyniad proses graffu Cyfnod 1 yn ofalus, a threuliais gryn amser yn gwneud hynny, gan drafod materion a godwyd gan bwyllgorau gydag Aelodau a rhanddeiliaid allweddol, y mae llawer ohonynt yn teimlo'n angerddol bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i ni ei chael ar y llyfr statud. Ac yn yr amser sydd ar gael y prynhawn yma, ni allaf ymdrin â'r holl argymhellion, ond er nad wyf wedi gallu derbyn yr holl argymhellion, rwyf wedi derbyn neu nodi'r mwyafrif helaeth. Mae nifer o argymhellion yn gofyn am ystyriaeth bellach o'u priodoldeb a'u dichonoldeb, a'r rhain rwyf wedi'u derbyn mewn egwyddor, i roi arwydd clir, os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil, y bydd y gwaith hwn yn flaenoriaeth cyn y Cyfnod diwygio cyntaf.
Rwy'n croesawu argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Biliau Diwygio gan fwyafrif yr Aelodau y dylai Aelodau'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gan ystyried materion a amlygwyd yn yr adroddiad ar yr un pryd. Rwy'n falch bod y pwyllgor yn cydnabod bod y model a gyflwynwyd yn y Bil hwn ar gyfer cwotâu rhywedd deddfwriaethol yn cyd-fynd ag arferion da rhyngwladol, ac yn addas i'r diben yma yng Nghymru.
Mae nifer o argymhellion a chasgliadau'n ymwneud â chwestiwn cymhwysedd deddfwriaethol a chamau y dylai Llywodraeth Cymru ystyried eu cymryd, yn ddelfrydol cyn gofyn i'r Senedd hon basio'r ddeddfwriaeth, ac rwyf wedi nodi'r argymhellion hyn, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig siarad â Llywodraeth y DU, a byddaf yn ystyried y rheini ymhellach. Fodd bynnag, rwy'n ailbwysleisio, fel rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, rwy'n ystyried bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Adroddodd y pwyllgorau eu pryderon am effaith heriau cyfreithiol posibl ar gynnal a chanlyniad etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2026, a chyflawni'r diwygiadau ehangach a gynlluniwyd ar gyfer yr etholiad hwnnw. Rwy'n ystyried y pryderon hyn o ddifrif, ac rwyf wedi myfyrio ymhellach ar yr hyn fyddai'r llwybr mwyaf darbodus a chyfrifol ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth hon. Mae diogelu canlyniad a chywirdeb etholiad Senedd 2026, gan gynnwys gweithredu Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), o'r pwys mwyaf, ac rwyf wedi dod i'r casgliad mai'r dull mwy cyfrifol yw i'r Bil hwn gael ei weithredu ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Bydd hyn yn sicrhau y gellir gweithredu'r ddeddfwriaeth mewn modd trefnus, ac yn rhoi amser i unrhyw heriau cyfreithiol posibl gael eu datrys ymhell cyn yr etholiad hwnnw.
Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gan y Senedd, y cyhoedd a'n rhanddeiliaid sicrwydd ynghylch y cynlluniau hyn. Felly, byddaf yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i gymryd cychwyn allan o ddwylo Gweinidogion Cymru, a sicrhau bod ei ddarpariaethau, yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, yn dechrau dod i rym yn awtomatig ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Yn y cyfamser, rwy'n awyddus i weithio gyda phartneriaid i wneud y mwyaf o'r hyn y gallwn ei wneud drwy ganllawiau'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, a byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r canllawiau hynny i annog gweithredu gwirfoddol i wella nifer y menywod sy'n ymgeisio, ac mae hynny ar gyfer pob plaid. Canllawiau yw'r rheini, wrth gwrs, sydd yn y ddeddfwriaeth yr ydym newydd ei phasio yr wythnos diwethaf.
Hoffwn sôn am rai o'r argymhellion eraill yn yr adroddiadau. Rwy'n derbyn mewn egwyddor argymhelliad 7 y Pwyllgor Biliau Diwygio i'r swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol allu penodi dirprwy, ac yn cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 8, ein bod yn trafod gyda'r Comisiwn Etholiadol ymestyn ei bwerau fel y gall benderfynu ar safonau perfformiad ar gyfer y swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol, yn yr un modd ag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer swyddogion canlyniadau.
Rwy'n derbyn yn rhannol argymhellion 2 a 4 y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch tynnu'n ôl ymgeiswyr a sut y gallai hyn effeithio ar gydymffurfiaeth pleidiau gwleidyddol â'r rheolau, a gobeithiaf fod fy ymateb yn rhoi sicrwydd bod y materion hyn wedi eu hystyried yn fanwl ac y bydd y materion a godwyd yn ystod craffu Cyfnod 1 yn rhan o'r ystyriaeth honno.
Fodd bynnag, rwyf wedi gwrthod argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor sy'n ymwneud ag adran 2 y Bil, sef y dull arfaethedig ar gyfer adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â darpariaethau cyfatebol yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae'n gwneud synnwyr bod y mecanweithiau adolygu hyn yn alinio fel pecyn o ddiwygiadau, ac nid wyf yn cytuno bod y darpariaethau'n cyfyngu ar ryddid Senedd yn y dyfodol. Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 14 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yn galw am gynnwys mwy o'r wybodaeth, sydd ar hyn o bryd yn y datganiad o fwriad y polisi, yn y ddeddfwriaeth sylfaenol. Ac er nad yw hyn yn syml, yn enwedig o ystyried y cydbwysedd presennol rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau'r Senedd a'r awydd i wneud y ddeddfwriaeth yn hygyrch i'r rhai sy'n gyfrifol am ei gweithredu, rwy'n barod i ystyried ymhellach pa fanylion a allai fod yn ymarferol ac yn briodol i ddarparu ar eu cyfer ar wyneb y Bil. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i roi mwy o fanylion am yr amserlen ar gyfer is-ddeddfwriaeth ar yr adeg briodol.
Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 22 y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch ymchwil ar rwystrau sy'n wynebu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac wedi derbyn argymhellion eraill yn ymwneud â'r cynnydd y gellir ei wneud ar wahân i'r Bil hwn i ddenu ac annog ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr i sefyll yn etholiadau'r Senedd, gan gynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi ymgeiswyr sy'n wynebu aflonyddu a cham-drin geiriol. Rwy'n croesawu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio sydd wedi'u hanelu at Gomisiwn y Senedd, gan fy mod yn cydnabod pwysigrwydd y Senedd hefyd o ran cymryd camau pellach i sicrhau bod y lle hwn mor gynhwysol a hygyrch â phosibl o ran diwylliant a ffyrdd o weithio. Ac, yn wir, rydym wedi dechrau'r gwaith hwnnw yn ein gwaith parodrwydd.
Rwy'n croesawu barn y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiwygio ar yr adeg briodol ac yn adlewyrchu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o welliannau i'r Bil.
Yn olaf, Llywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, roeddwn i eisiau adrodd fy mod i wedi siarad â nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr clymblaid Diverse5050, y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Stonewall Cymru a Phlaid Cymru, cawcws y menywod a grŵp trawsbleidiol y menywod am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a symud ymlaen â hi, gyda'u cadarnhad a'u cefnogaeth, i'r cyfnod nesaf, ac rwy'n awyddus i barhau â'r trafodaethau hynny. Diolch.
Meddwl oeddwn i tybed, ac mae'n ddrwg gen i os ydw i wedi ei fethu'n barod, ond a allech chi ddweud mwy am y rheswm rydych chi wedi dod i'r casgliad, yn groes i un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rwy'n credu, nad yw bod â Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sy'n dod â phopeth perthnasol yn benodol o fewn y Bil o dan ein cymhwysedd deddfwriaethol yn cymryd y mater yr ydych chi'n pryderu amdano, a'r rheswm eich bod yn oedi gweithredu tan 2030, yn llwyr oddi ar y bwrdd? Pam na allem ni wneud cais am y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor hwnnw heddiw, gan Lywodraeth Lafur yn San Steffan, fel y gallwn fod â Senedd gytbwys o ran rhywedd yn 2026? Dydw i ddim yn deall y rhesymeg, felly efallai pe gallech egluro.
Roeddwn i'n disgwyl cwestiynau, Adam Price, wrth gwrs, ar yr union bwynt yna. O ran yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud nawr—ac rwyf wedi sôn am ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ac, yn wir, roeddem yn ymgysylltu â Llywodraeth flaenorol y DU yn barod—rydym bellach wedi agor deialog gyda Swyddfa Cymru. Byddaf yn dweud mwy am hyn, rwy'n siŵr, wrth ymateb, oherwydd rydym wedi agor deialog gyda Swyddfa Cymru, mae ein swyddogion eisoes wedi cael cyfarfod rhagarweiniol, ac yn amlwg byddwn am ddiweddaru ein cydweithwyr a'r Aelodau wrth i ni fynd trwy hyn ac wrth i ni fynd drwy'r cyfnod nesaf, gobeithio, o graffu. Rwy'n credu mai un o'r materion, fe ddywedaf, ar y pwynt hwn, yw ein bod wedi cael gwybod na fyddai Gorchymyn adran 109 yn rhoi cwestiwn cymhwysedd y tu hwnt i amheuaeth, ac na fyddai'n dileu'r risg o atgyfeiriad i'r Goruchaf Lys neu her gyfreithiol arall; dim ond dyfarniad y Goruchaf Lys ar fater cymhwysedd all roi'r mater y tu hwnt i amheuaeth. Ond mae'n bwysig, ar argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio, fy mod yn dechrau'r broses honno o ran mynd i'r afael â'r gobaith a'r cyfle am Orchymyn adran 109, ond rwy'n gobeithio y caf fwy o gyfle yn yr ymateb i'r ddadl, Llywydd, hefyd.
Fe wnaf orffen fy sylwadau cloi. Mae hyn mewn gwirionedd am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a bwrw ymlaen â hi i'r cyfnod nesaf. Dyna sy'n rhaid i ni ei wneud heddiw, derbyn a chefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, a chydnabod ein bod yn credu bod gennym achos cyfreithiol credadwy o ran cymhwysedd; rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn. Mae'n rhaid i ni barhau â'r holl drafodaethau drwy gydol taith y Bil, gan archwilio gyda phartneriaid beth allwn ni ei wneud i annog pleidiau gwleidyddol i gymryd camau gwirfoddol i gynyddu cynrychiolaeth menywod ar gyfer ein Senedd yn 2026.
Yn amlwg, rwy'n edrych ymlaen yn awr at glywed barn cyd-Aelodau ar y Bil hwn. Ond a gaf i ailadrodd a dweud, yn olaf, Llywydd, bod hwn yn Fil nodedig sy'n cynnig cyfle i fod â Senedd fwy effeithiol sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yn well ac sy'n addas i'r diben, yn unol ag arferion gorau rhyngwladol, am yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt? Ac rwy'n meddwl hefyd—. A daw hyn o'n pwyllgorau diben arbennig i gyd, ac yn wir yn ôl i'r panel arbenigol, a gallaf weld Huw Irranca yma, yn cadeirio, ac yn wir Dawn Bowden; mae llawer o bobl yma sydd wedi cymryd rhan fel aelodau o'r pwyllgorau hynny a aeth â ni i'r pwynt hwn, y pleidleisiwyd i gefnogi, yn ôl yn 2022, y dylem fwrw ymlaen â hyn. Mae'n rhan hanfodol, y Bil hwn, o'r pecyn llawn o fesurau diwygio'r Senedd, a nawr mae'n bryd bachu ar y cyfle a bwrw ymlaen â'r Bil. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio nawr i gyfrannu—David Rees.
Diolch, Llywydd. Cyn i mi ganolbwyntio ar gynnwys adroddiad y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ysgrifenedig ac yn bersonol. Maen nhw wedi helpu i siapio ein gwaith a’i ganlyniadau.
Hoffwn hefyd gofnodi ein diolch i dîm y pwyllgor, y gwnaeth ei waith rhagorol ganiatáu i ni gwblhau ein gwaith o fewn yr amserlen fyrrach a oedd gennym.
Nawr, Llywydd, rôl y Senedd yw cynrychioli buddiannau pawb yng Nghymru, ac mae amrywiaeth ymhlith Aelodau yn cyfoethogi ein gwaith ac yn ganolog i ddemocratiaeth sy'n gweithredu'n dda. Fel pwyllgor, rydym i gyd yn cefnogi'r dyhead i fod â Senedd wirioneddol gynrychioliadol sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yn well.
Nawr, ar yr egwyddorion cyffredinol, dyma'r ail Fil yr ydym wedi ymdrin ag ef sy'n mynd drwy'r broses ddiwygio seneddol. Yn amlwg, mae'r Bil cyntaf eisoes yn Ddeddf, ac mae hyn bellach yn dilyn ymlaen o hynny. Ei nod yw cynyddu nifer y menywod sy'n sefyll mewn etholiad drwy gyflwyno cwotâu ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau gwleidyddol. Ein rôl oedd archwilio cynigion y Bil ac adrodd ar yr egwyddorion cyffredinol i lywio penderfyniad y Senedd y prynhawn yma.
Hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i Jane Dodds, a oedd yn aelod—neu mewn gwirionedd, yn dechnegol, a weithiodd gyda'r pwyllgor—a hefyd Vikki Howells, a eilyddiodd dros un o'n haelodau, Sarah Murphy, yn ystod ein hystyriaeth derfynol, am y ffordd gadarnhaol ac adeiladol y gwnaethon nhw ymdrin â'n gwaith.
Nawr, yn dilyn ein hystyriaeth, fel y mae'r Trefnydd eisoes wedi'i ddweud, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor wedi'u hargyhoeddi gan y dystiolaeth ryngwladol ac academaidd bod cwotâu ymgeiswyr deddfwriaethol yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cynyddu lefelau cynrychiolaeth menywod mewn seneddau. Mae mwyafrif aelodau'r pwyllgor, felly, yn argymell y dylai'r Senedd bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Ond rydym i gyd yn cytuno bod angen cryfhau a gwella agweddau ar y Bil os bydd yn mynd ar ei hynt heddiw. Fe af drwy ychydig o'r pwyntiau hynny. Ar yr agwedd ar ddatganiad ymgeisydd, drwy gydol ein gwaith craffu, tynnwyd sylw sylweddol at y gofyniad i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol wneud datganiad ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn fodlon â'r ddarpariaeth hon ac yn credu ei bod yn ffordd gymesur o weithredu a gorfodi cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota. Ond gwnaethom wrando'n astud ar bryderon y gallai'r ddeddfwriaeth fod yn agored i gael ei chamddefnyddio. Rydym i gyd yn cytuno ei bod yn angenrheidiol, felly, cynnwys gwneud datganiad ffug o fewn y drosedd arfer llwgr sy'n berthnasol i ddarparu unrhyw wybodaeth ffug arall ar ffurflen enwebu. Credwn y dylai hynny fod yr un fath ar gyfer pob agwedd ar ystyriaeth enwebu a'r holl ddatganiadau a wneir. Mae'n siomedig bod y Trefnydd wedi gwrthod yr argymhelliad allweddol hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n ailystyried hynny, oherwydd mae'n ymwneud â sicrhau bod cysondeb yn berthnasol i bob datganiad a wneir.
Nawr, ar dynnu ymgeiswyr o restrau, roedd gennym rai pryderon yma, oherwydd clywsom y gallai rheolau cwota fod yn agored i gael eu camddefnyddio mewn ffyrdd eraill. Roeddem yn bryderus, er enghraifft, y gallai menywod, yn benodol, gael eu gorfodi i sefyll mewn etholiad i gydymffurfio â'r cwota, ac yna fod pwysau arnyn nhw i dynnu'n ôl eu ymgeisyddiaeth neu ymddiswyddo, os cânt eu hethol, yn gyflym. Felly, gallai menywod a fyddai'n dymuno sefyll wynebu bygythiadau o drais neu frawychu i'w gorfodi i dynnu'n ôl neu ymddiswyddo ar ôl eu hethol. Mae'r etholiad cyffredinol rydyn ni newydd ei weld wedi dangos sut mae brawychu yn digwydd, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth o'r fath. I atal camdriniaeth o'r fath a manteisio i'r eithaf ar y cyfle i gynnal cydbwysedd y gynrychiolaeth drwy gydol tymor y Senedd, argymhellwyd cryfhau'r Bil drwy ei gwneud yn ofynnol i'r blaid sy'n dewis sefyll ymgeisydd ychwanegol i gymryd lle unrhyw ymgeisydd a dynnwyd yn ôl â rhywun sydd wedi gwneud yr un datganiad â'r person sydd wedi tynnu'n ôl. Neu, mewn swyddi gwag, ac rwy'n gwerthfawrogi mai'r rhestr ymgeiswyr yw hon ac nid yr agenda swyddi gwag, sydd, mewn gwirionedd, ar ôl i chi gael eich ethol, ond fe allech chi ddiwygio'r Ddeddf, sydd bellach ar waith, i sicrhau bod swyddi gwag yn cael sylw i sicrhau, yn ystod tymor y Senedd, os oes swydd wag yn bodoli, ei bod yn cael ei llenwi, lle bo hynny'n bosibl, â rhywun sy'n cyflwyno'r un datganiad ymgeisydd â'r person hwnnw sy'n sefyll i lawr neu'n gadael neu sydd ddim yn Aelod o'r Senedd mwyach, a thrwy hynny barhau â'r cydbwysedd yr ydym wedi sôn amdano. Unwaith eto, yn anffodus, nid oedd y Trefnydd yn rhannu ein safbwynt ar hyn, a byddwn yn gobeithio y bydd hi'n esbonio'n llawn ddewis arall a fydd ganddi neu y mae hi'n meddwl amdano neu sy'n cael ei ystyried i warchod rhag y risgiau a nodwyd gan ein gwaith casglu tystiolaeth.
A goblygiadau ariannol. Rwy'n siŵr y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno â rhai o'r materion hynny, ond gwnaethom gwestiynu'r dull a gymerwyd o ran yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan fod rhai costau'n cael eu hamcangyfrif ar gyfer y Bil yn benodol, tra bod eraill i'w gweld yn cael sylw yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae hyn yn golygu nad yw'n glir beth fyddai'r goblygiadau ariannol pe bai'r Bil hwn yn cael ei gychwyn yn ddiweddarach, sef yr hyn a ddywedwyd wrthym; bydd hyn yn digwydd yn nes ymlaen. Felly, rydym yn gwybod mai dyna'r bwriad, felly mae angen yr eglurder hwnnw arnom. Ac o ran eglurder a thryloywder ac atebolrwydd, rydym yn galw am fanylu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r Bil yn uniongyrchol mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Nawr, mewn ymateb, nododd y Trefnydd y bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i hyn, ond ni fyddai hynny ar gael tan ar ôl Cyfnod 2. Byddai'n ddefnyddiol pe bai cyn ystyriaeth Cyfnod 2 fel y gall Aelodau, pan fyddant yn mynd trwy Gyfnod 2, gael yr wybodaeth honno o'u blaenau.
Yna, nodwyd ffactorau nad ydynt yn y Bil, ac nid ydynt o reidrwydd yn faterion deddfwriaethol, ond yr hyn yr oeddem yn eu hystyried yn rhwystrau i annog menywod, a'i alw'n 'mwy na chwotâu'. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau bod menywod yn sefyll i gael eu hethol, neu rydyn ni'n annog menywod i sefyll i gael eu hethol, a'n bod ni'n eu hannog i aros mewn swydd etholedig? Ac felly rydym yn galw am weithredu, o fewn y Senedd ac o fewn y Llywodraeth, i helpu i gefnogi unigolion sy'n sefyll i gael eu hethol. Roeddem am wybod, yn gyntaf oll, a fydd y Senedd yn cynnal archwiliad sy'n sensitif i rywedd i sicrhau bod gennym y diwylliant, y ffyrdd o weithio a'r cyfleusterau. Rydym yn aml yn siarad am ffyrdd sy'n gyfeillgar i deuluoedd, ac mae'n debyg y bydd yn cael ei grybwyll heddiw, ond mae angen i ni edrych ar beth yw'r agweddau diwylliannol yma. Gadewch i ni edrych ar yr agwedd honno. Tasg i Gomisiwn yw hwnnw—mae'n ddrwg gen i, Llywydd, chi fydd yn gyfrifol am hynny. Ond hefyd fod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil ar y ffyrdd gorau o ddarparu cymorth ariannol i fenywod sy'n ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, oherwydd clywsom yn bendant am yr agwedd honno, i sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod digon o ganllawiau ar waith i gefnogi'r rhai sy'n dymuno bod yn ymgeiswyr mewn gwirionedd, ac yn enwedig ar sut maen nhw'n trin camdriniaeth ac aflonyddu. Ac, waeth beth fydd cynnydd y Bil, rydym am weld mwy o gynrychiolaeth yn 2026, ac mae angen i ni gael y pethau hyn ar waith ar gyfer 2026 i annog mwy o fenywod i ddod ymlaen ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Nawr fe wnaf sôn am y mater olaf, sef cymhwysedd deddfwriaethol. Er ei fod yn gymedrol o ran maint—mae'r Bil hwn yn fach—mae'n arwyddocaol, ac mae'r darpariaethau'n effeithio ar gonglfaen allweddol o'n proses ddemocrataidd. Felly, y tu hwnt i'r materion polisi a'n dyheadau yr ydym i gyd yn eu rhannu ar gyfer Senedd fwy cynrychioliadol, mae safbwyntiau anghyson ynghylch a yw darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Rwyf wedi clywed barn y Trefnydd—clywsom hynny yn y pwyllgor. Clywsom—. Y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gawsom gan gynghorwyr cyfreithiol oedd nad oedd. Felly, mae cwestiynau, a gwnaed yn glir i ni yn y pwyllgor mai'r unig gorff a all wneud y penderfyniad hwnnw'n glir ac yn derfynol yw'r Goruchaf Lys, a dim ond unwaith y bydd y Bil wedi ei basio y gellir atgyfeirio i'r Goruchaf Lys ac o fewn pedair wythnos i'r Bil gael ei basio yng Nghyfnod 4. Nawr, rwy'n croesawu effaith yr hyn y mae'r Trefnydd wedi'i ddweud am oedi, fel nad yw'n cael sgil-effaith gymhleth ar 2026, ond os na fyddwn yn mynd i'r afael â hyn, yn 2030 gallem gael ymgeisydd yn mynd i'r afael â her gyfreithiol os na fyddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, mae cymhwysedd yn fater y dylid ei ystyried, ac nid ateb 2030 yw'r unig ateb. Mae'n dal yn rhaid ei ddatrys. A gofynnwn i'r Cwnsler Cyffredinol gyfeirio at y Goruchaf Lys am eglurhad, a'i wneud yn glir: gadewch i ni beidio â chael unrhyw gwestiynau amdano, ni all neb ei herio wedyn; mae'n benodol glir mewn gwirionedd, fel y gallwn gael mewnbwn ar hynny.
Nawr, rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd, ac fe fyddaf yn gorffen. Rydym yn croesawu'r eglurhad ar y llwybr a fwriadwyd, ond mae un cwestiwn yr wyf am ei godi. Roedd llawer o 'nodi' yn yr ymatebion i argymhellion ein pwyllgor, ac mae'r Trefnydd wedi dweud 'er mwyn cael ystyriaeth bellach'. Ond a gaf i ofyn pryd y byddwn ni'n cael yr ystyriaeth bellach honno? Pryd fyddwn ni'n gwybod beth yw eich atebion i'r pethau hynny y dywedir eu bod wedi'u nodi? Pryd fydd yn cael ei gyhoeddi, oherwydd bydd yr Aelodau am gael ateb i'r ystyriaethau hynny? Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr. Mike Hedges.
Diolch Llywydd. Daeth adroddiad y pwyllgor i saith casgliad a gwnaeth 22 o argymhellion. Derbyniodd Llywodraeth Cymru 10 o'r argymhellion hyn i raddau amrywiol, gan nodi naw a gwrthod tri. Cyn i mi ddechrau, hoffwn nodi siom y pwyllgor bod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil wedi'i gwtogi, dim ond i ddyddiad y ddadl hon gael ei ohirio. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ddwy thema bwysig o'n hadroddiad: y risg o her gyfreithiol i'r Bil, a lefel y manylion sy'n ymddangos ar ei wyneb.
Mae'r risg o her gyfreithiol yn ymwneud â ph'un a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Yn hynny o beth, hoffwn wneud dau bwynt pwysig. Yn gyntaf, fel y clywsom, y Goruchaf Lys yn unig all benderfynu a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Am y rheswm hwnnw, nid yw adroddiad y pwyllgor yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwnnw'n uniongyrchol. Yn ail, mae rhinweddau neu fel arall polisi Llywodraeth Cymru yn fater gwahanol ac ar wahân i p'un a oes gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i drosi'r polisi hwnnw yn gyfraith. Ni ddylid cyfuno'r ddau.
Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod gwahanol safbwyntiau ynghylch a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nid yn unig rhwng y Llywydd a'r Trefnydd, ond ymhlith gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hefyd. Mae rhai o'r gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hyn wedi tynnu sylw at y risg o her gyfreithiol i'r Bil, ac, o ganlyniad, y posibilrwydd o darfu ar etholiadau nesaf y Senedd sydd wedi eu trefnu ar gyfer 2026. Awgrymwyd y gallai hyn, yn ei dro, beryglu uniondeb yr etholiad ei hun a niweidio democratiaeth Cymru. Er na wnaeth ffurfio barn ar y mater o gymhwysedd deddfwriaethol, archwiliodd y pwyllgor felly y risg o her gyfreithiol i'r Bil. O ganlyniad, gwnaeth y pwyllgor chwe argymhelliad gyda'r bwriad o sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl o darfu yn 2026.
Yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, mynegodd y pwyllgor hefyd ei fod yn gresynu bod gofyn i'r Senedd bleidleisio heddiw ar p'un yw'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ai peidio. Mae'r pwynt cyffredinol hwn yr un mor berthnasol pe byddai'r Senedd yn cael ei gwahodd i bleidleisio ar Fil yng Nghyfnod 4. Serch hynny, mae'r pwyllgor yn croesawu sylw'r Trefnydd yn ei hymateb bod angen cymryd camau pellach nawr i liniaru risgiau i etholiad 2026. Mae'r pwyllgor yn nodi, o ganlyniad, y bydd y Trefnydd yn cyflwyno gwelliant i ddarparu y bydd darpariaethau'r Bil, yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, yn dod i rym ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Fodd bynnag, mae llawer o faterion heb eu datrys o hyd a bydd y pwyllgor yn monitro datblygiadau'n agos.
Gan droi yn awr at yr ail thema y soniais amdani ar ddechrau fy araith, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad yw'r Bil yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar ei wyneb a'r manylion sydd i'w cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth, yn yr achos hwn Gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae gorchymyn o'r fath yn ymwneud â chynnal etholiad. Dylai wyneb y Bil roi syniad clir i'r Senedd o natur a chwmpas y pwerau y gofynnir iddo eu dirprwyo i Weinidogion Cymru. Byddai hyn yn fwy priodol na rhoi i Weinidogion Cymru yr hyn sy'n gyfystyr â siec wag i ddeddfu drwy Orchymyn ar faterion etholiadol a fydd yn destun pleidlais 'derbyn neu wrthod'.
Dywedwyd wrth y pwyllgor bod y datganiad o fwriad y polisi sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi manylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gynnwys yn y Gorchymyn cynnal etholiadau perthnasol, ond nid yw cynnwys gwybodaeth mewn datganiad o'r fath yn cymryd lle rhoi manylion ar wyneb y Bil nac yn gyfiawnhad dilys dros beidio â gwneud hynny. Os yw'r manylion yn hysbys, dylid ystyried eu cynnwys ar wyneb y Bil yn y lle cyntaf. Mae'r rheswm am hyn yn syml. Nid yw'r datganiad o fwriad y polisi yn rhwymol ar Lywodraeth bresennol Cymru, na Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae sut y gallai pwerau dirprwyedig gael eu defnyddio gan Weinidogion Cymru Llywodraeth yn y dyfodol sy'n gweithredu'r Bil hwn cyn etholiad 2030 yn fater gwahanol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn bwriadu eu defnyddio wrth graffu ar y Bil hwn. Ac yr un mor bwysig, mae cynnwys manylion ar wyneb y Bil yn caniatáu i gynigion y Llywodraeth gael eu profi drwy welliant os bydd angen. Ni fydd Aelodau yn gallu cyflwyno gwelliannau i gynnig newidiadau i'r Gorchymyn cynnal etholiadau oherwydd ei fod yn ddarn o is-ddeddfwriaeth.
Felly, gwnaeth y pwyllgor bum argymhelliad gyda'r nod o gryfhau wyneb y Bil. Rydym yn croesawu bod y Trefnydd wedi derbyn pedwar o'r rhain mewn egwyddor ac mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i wella'r Bil fel y gwnaethom ei awgrymu.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a dwi’n croesawu’r cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma heddiw, a dwi'n ddiolchgar i’r Trefnydd a’r Prif Chwip am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ac i ymateb i’r pwyntiau y gwnaethom ni eu codi drwy ohebiaeth.
Cyn i mi droi at faterion penodol ar y Bil, rwyf eisiau tynnu sylw at bryder cyffredinol sydd gennym ni—tebyg i'r rhai sydd wedi cael eu mynegi heddiw—am y costau sy'n gysylltiedig â her gyfreithiol pe bai'r Bil yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys am benderfyniad ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Er nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â Biliau fel arfer yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â her gyfreithiol bosibl, dyma'r tro cyntaf i'r Llywydd gyhoeddi datganiad na fyddai'r Bil
'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'.
O ganlyniad, rydyn ni eisiau eglurder ynghylch y costau cyfreithiol ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hysgwyddo, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r Trefnydd am gytuno i roi gwybod i'r pwyllgor am gostau o'r fath pe bai'r Bil yn cael ei atgyfeirio. Er bod y costau sy'n codi o'r Bil yn gymharol fach, rydyn ni'n nodi bod angen iddyn nhw gael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), o ystyried y gydberthynas rhwng y ddau. Felly, dylai ein sylwadau ar y Bil hwn gael eu hystyried ochr yn ochr â'r argymhellion a wnaed o ran y ddeddfwriaeth honno.
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif mai cyfanswm cost gweithredu'r ddeddfwriaeth hon fydd £21,000 dros y cyfnod arfarnu o wyth mlynedd. Fodd bynnag, yn ystod ymddangosiad y Trefnydd gerbron y Pwyllgor Biliau Diwygio, daeth i'r amlwg y bydd costau ychwanegol o tua £6,000 o ran staff sy'n cael eu defnyddio gan y Comisiwn Etholiadol i baratoi ar gyfer gweithredu'r diwygiadau. Rydyn ni'n siomedig na chafodd yr wybodaeth hon ei rhannu gyda'r Pwyllgor Cyllid, yn enwedig o ystyried bod y cynnydd yn gyfran sylweddol o gost derfynol y Bil. Er hynny, rydyn ni'n falch bod y Trefnydd wedi cytuno, yn amodol ar gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, i ddiwygio'r asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl Cyfnod 2, i gynnwys y costau ychwanegol o £6,000 a nodwyd gan y Comisiwn Etholiadol; unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â phenodi dirprwy swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol, pe bai gofyniad o'r fath yn cael ei gytuno; ac unrhyw gostau ychwanegol eraill a allai godi o ddiwygiadau i'r Bil.
Hoffwn hefyd ategu'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio nad yw'n glir beth fyddai'r goblygiadau ariannol pe bai'r Bil yn cael ei gychwyn yn ddiweddarach. Rwy'n cytuno y dylai'r manylion hyn gael eu cynnwys mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig—yn ddelfrydol cyn Cyfnod 2—gan fod hyn yn newid yn sylfaenol yr amcangyfrifon sydd wedi'u hamlinellu, ac yn enwedig yr amserlenni o ran costau, a byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y mater hwn.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn i groesawu’r eglurhad y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu’r costau y bydd awdurdodau lleol yn eu hysgwyddo am ddiweddaru’r system rheoli etholiadol. Mae’r Trefnydd wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a thrylwyr ochr yn ochr ag is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud o dan y Bil hwn. Diolch yn fawr.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnydd y Bil penodol hwn, ac nid yw hynny oherwydd nad ydym yn cefnogi'r nod, sef sicrhau bod y Senedd hon yn fwy cynrychioliadol o'r bobl rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru; yn syml, mae oherwydd nad ydym yn credu yn yr egwyddor o gwotâu rhywedd, ac yn sicr dydyn ni ddim yn credu bod y system sy'n cael ei chynnig gan Lywodraeth Cymru yn gymesur nac yn briodol.
Nawr, rydym eisoes wedi clywed y mater o gymhwysedd yn cael ei brofi yn y Siambr y prynhawn yma, y mae amheuon sylweddol yn ei gylch. Yn wir, y cyngor i'r pwyllgor gan ei arbenigwyr cyfreithiol oedd nad oedd o fewn cymhwysedd y Senedd—dyna oedd y cyngor, wrth gwrs, i'r Llywydd hefyd—ac roedd hyd yn oed yr arbenigwyr cyfreithiol hynny a awgrymodd y gallai fod o fewn ei chymhwysedd i gyd yn ymddangos fel pe baent yn cydnabod ei bod yn debygol iawn o fod mewn sefyllfa lle byddai hynny'n cael ei herio yn y llysoedd. A dyna pam rwy'n cytuno â chasgliadau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'n pwyllgor ni ein hunain bod angen sicrhau bod hyn y tu hwnt i amheuaeth cyn i'r darn hwn o ddeddfwriaeth gael ei rhoi ar waith.
O ran y farn nad yw'r ddeddfwriaeth yn gymesur, rydym yn gwybod bod cynrychiolaeth gyson uwch o fenywod wedi bod yn y Senedd, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i ddathlu yn y Senedd, nag mewn seneddau eraill ledled y byd, ac, wrth gwrs, fe wnaethon ni gyflawni cydraddoldeb heb yr angen am gwotâu rhywedd statudol. Rwy'n gwerthfawrogi mai'r unig reswm y gwnaethon ni gyflawni'r cydraddoldeb hwnnw oedd oherwydd bod rhai pleidiau gwleidyddol wedi cymryd camau cadarnhaol o fewn eu prosesau dewis ymgeiswyr er mwyn sicrhau bod gwell cydbwysedd o ran cynrychiolaeth menywod mewn swyddi etholedig ar restrau ac mewn seddi ymgeiswyr, ond cafodd hyn ei gyflawni drwy drefniadau gwirfoddol, heb fod angen cwotâu deddfwriaethol. Felly, ni fyddai'n angenrheidiol nac yn gymesur felly i ddeddfu yn y maes hwn, o gofio ein bod eisoes wedi cyflawni cydraddoldeb yma yn y gorffennol.
Wrth gwrs, mae gennym ni system etholiadol newydd sy'n mynd i ddod yn 2026, a gallai hynny newid pethau'n sylweddol. Mae'n rhoi'r cyfle hwn i ni, a dyna pam y gwnaeth cyn-arweinwyr y grŵp Llafur a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd hon greu cytundeb i gael rhestrau am-yn-eilio o ran rhywedd, ond, wrth gwrs, nid yw'r cynnig hwn yn ymwneud â rhestrau am-yn-eilio o ran rhywedd; mae hyn yn ymwneud â chyflwyno system a fydd, i bob pwrpas, yn cyflwyno'r gallu i restrau ymgeiswyr gael eu cyflwyno gan bleidiau gwleidyddol sydd â 100 y cant o fenywod wedi'u cynrychioli ar y rhestrau hynny, ond dim ond uchafswm o hyd at 50 y cant o ddynion. Mae hyn yn ymddangos yn anghymesur iawn i mi. Nid yw'n ymddangos ei fod yn iawn. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai hynny fod yn ganlyniad annhebygol, ond mae'n mynd i fod yn bosibl yn gyfreithiol os bydd y fframwaith hwn, y gofynnir i ni ei gymeradwyo, yn gwneud cynnydd yma y prynhawn yma.
Yr asgwrn cynnen arall sydd gennym ni o ran y Bil hwn yw ei fod yn gosod yr un agwedd hon ar amrywiaeth, rhywedd, yn erbyn yr holl agweddau eraill ar amrywiaeth, sy'n cael eu hanwybyddu'n llwyr gan y Bil. Felly, nid ydyn ni'n cyffwrdd â materion ffydd, anabledd, hil, oedran, a'r holl ffactorau eraill hyn yn cael eu hymgorffori hefyd i wneud y lle hwn yn Siambr fwy amrywiol a chynrychioliadol i bobl Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n anghywir. Mae cyfleoedd i allu mynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny, hyd yn oed gyda'r Bil hwn, nad ydym yn manteisio arnynt, ac rwy'n credu bod hynny'n hynod siomedig.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs. Hapus iawn i wneud hynny.
Yn ei ddilyn yn agos, mae yna Seneddau yn y byd sydd â chwotâu croestoriadol sydd wir yn defnyddio cwotâu deddfwriaethol nid yn unig ar gyfer rhywedd, ond hefyd ar gyfer agweddau eraill ar dangynrychioli. A fyddai'n cefnogi'r dull hwnnw?
Byddwn i'n sicr yn cefnogi ystyried y dull hwnnw. Edrychwch, nid wyf i'n credu y dylem ni fod â chwotâu o gwbl, ond os ydyn ni'n mynd i'w cael, gadewch i ni geisio sicrhau ein bod ni'n ymgorffori cymaint o agweddau ar amrywiaeth yn y cwotâu hynny â phosibl. Egwyddor y cwotâu yr wyf i'n anghytuno â hi. Wrth gwrs, byddem ni bob amser yn dadlau y dylai pobl gael eu hethol ar sail teilyngdod. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor yr ydyn ni bob amser wedi'i chefnogi, ac, wrth gwrs, nid yw wedi ein hatal ni rhag gallu cael tri arweinydd benywaidd y blaid Geidwadol a thri Phrif Weinidog benywaidd yn y gorffennol. Yr un olaf, wrth gwrs, hoffen ni anghofio amdani ychydig mwy, ond rydyn ni, mewn gwirionedd, wedi gallu cyflawni hynny heb unrhyw systemau cwota yn y blaid Geidwadol, a byddwn i'n gobeithio'n fawr y bydd fy mhlaid i'n gwneud mwy yn y dyfodol, yn wirfoddol, er mwyn sicrhau bod gennym ni fwy o gynrychiolaeth gan fenywod yn y Senedd hon. Rydyn ni wedi gwneud yn dda ar rai agweddau eraill ar amrywiaeth, ond nid ydyn ni wedi gwneud yn arbennig o dda ar rywedd.
Yn olaf, os caf i, y pryder olaf sydd gennym ni yw ynghylch y datganiad a fydd yn ofynnol gan ymgeiswyr yn y dyfodol. Nid yw'r datganiad hwn yn ymwneud â datgan eich bod yn ddyn neu'n fenyw, neu'n wryw neu'n fenyw. Mae'n fater o 'menyw' neu 'nid yn fenyw', ac mae yna faterion mawr, dadleuol y gallai hynny eu cyflwyno o bosibl i bobl allu hunan-adnabod eu hunain mewn ffordd nad wyf i'n credu sy'n arbennig o ddefnyddiol, ac mae'n ei adael o bosibl yn agored i gael ei gamddefnyddio. Nawr, fe wnaethon ni drafod hyn ychydig yn y pwyllgor, ac rwy'n gwerthfawrogi nad oedd gan bawb yn y pwyllgor yr un pryderon â mi, ond rwy'n credu, er hynny, bod gan lawer o bobl yng Nghymru y pryderon hynny, ac rwy'n credu y byddai'n wael pe na baen ni'n gwrando arnyn nhw. Diolch.
Ar ran Plaid Cymru, mi hoffwn groesawu cyflwyno'r Mesur hwn heddiw. Mi oedd o'n rhan allweddol o'n cytundeb cydweithio, ac mae o'n gonglfaen i'n hymdrechion i greu Senedd fwy cynrychiadol. Mi hoffwn i ddiolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Biliau Diwygio hefyd. Dwi'n rhannu rhwystredigaeth y Cadeirydd bod y cyfnod craffu wedi'i gwtogi, ac wedyn gweld oedi; mae o'n bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu o hyn.
Mae cydraddoldeb rhywedd yn hanfodol i ddemocratiaeth iach a gweithredol. Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf fod yn rhaid i’r gwaith o ddiwygio’r Senedd sicrhau nad yw’r mwyafrif o'r 51 y cant o’r boblogaeth byth eto yn lleiafrif yn ein Senedd genedlaethol. Mi rydw i'n gresynu, felly, fod y ddeddfwriaeth yn cael ei hoedi tan o leiaf 2030, a hoffwn wybod heddiw gan y Trefnydd a oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Llywodraeth Lafur San Steffan eto i sicrhau bod y grymoedd gennym, heb unrhyw amwysedd, i gyflwyno'r newid hwn erbyn 2026, fel y gwnaeth Adam Price amlinellu. Wedi’r cyfan, mae’r etholiad cyffredinol wedi bod yn gynt na’r disgwyl, gan olygu y dylai fod yn haws cael eglurder ar hyn o fewn yr amserlen.
Mae gan y Senedd hon hanes balch o hyrwyddo cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth, sy’n cynnwys, fel y cyfeiriodd Darren Millar, bod y Senedd gyntaf yn y byd i gyflawni cynrychiolaeth gyfartal rhywedd nôl yn 2003. Ond os yw hanes wedi dysgu unrhyw beth i ni, ni ellir byth gymryd cynnydd yn ganiataol. Ni all y gwaith o ddiogelu hawliau sylfaenol fyth ddod i ben. A'r realiti yw, ers 2003, mae presenoldeb menywod yn y Siambr hon wedi lleihau'n raddol. A’r unig reswm pam bod y lefelau ddim hyd yn oed yn is ydy oherwydd gweithredu gan rai o’r pleidiau a gynrychiolir yma.
Hoffwn godi eich pwynt, Darren, o ran teilyngdod. Nid ydym mewn cymdeithas gyfartal; mae cymaint o rwystrau sy'n atal menywod rhag gallu cael eu penodi i lwyth o wahanol rolau. Ac ni fydd cymaint o fenywod a fyddai'n gwneud cyfraniad enfawr a chyfraniad pwysig i'r Senedd hon byth yn cael eu hethol o dan y system sydd gennym. Felly, nid wyf yn derbyn bod pawb o'r 60 Aelod yma y 60 o bobl orau yng Nghymru i fod yn y Siambr hon.
Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Nid oedd wedi'i olygu fel sarhad yn erbyn neb. Rwy'n cytuno â chi bod rhwystrau i fenywod fynd i mewn i wleidyddiaeth, a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn anffodus, ac mae angen i ni ddileu'r rhwystrau i bob un ohonynt. Mae hynny'n cynnwys pobl sydd â chroen lliw gwahanol nag sydd gen i, mae hynny'n cynnwys pobl sydd â chefndir ffydd gwahanol i'r un sydd gen i. Dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid i ni ganolbwyntio nid yn unig ar un agwedd ar amrywiaeth, ond pob un ohonyn nhw. Yn sicr, rwy'n cefnogi—a nodir fy nghefnogaeth yn y papur—yr holl bethau hynny y gwnaethom ni ei ddweud fel pwyllgor, ar y cyd, y mae angen i ni eu gwneud i gael gwared â'r rhwystrau eraill hynny. Oherwydd, nid yw'n iawn bod menywod yn wynebu rhwystrau sefydliadol, ac nid yw'n iawn bod eraill yn ei wynebu ychwaith.
Menywod yw'r prif grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol—51 y cant—ac mae Aelodau meinciau Ceidwadol wedi trydar am hyn ac, a dweud y gwir, dydyn nhw ddim yn ystyried y ffaith bod menywod yn wynebu rhwystrau ac yn credu eu bod yma oherwydd teilyngdod—rhywbeth y mae angen i ni ei herio a'i alw allan, mewn gwirionedd, oherwydd bod menywod wedi cael eu hatal rhag bod yma am lwyth o wahanol resymau. Felly, nid wyf yn derbyn nad oes yn rhaid i ni ganolbwyntio ar rôl menywod ac unioni'r anghyfiawnder hwnnw.
Nid problem unigryw i Gymru mo hyn, wrth gwrs. Ar hyn o bryd, dim ond chwe gwlad sydd â 50 y cant neu fwy o fenywod yn eu senedd, ac ar y cyflymder presennol o newid, ni fydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei gyflawni ar sail fyd-eang tan o leiaf 2063. Mae angen i ni hefyd ystyried y lefelau brawychus o gasineb, rhywiaeth ac aflonyddu a wynebir gan wleidyddion benywaidd yn feunyddiol, a chydnabod bod y rhwystrau i fenywod rhag dod i mewn i wleidyddiaeth yn parhau i fod yn aruthrol.
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif, mewn gwledydd sydd â chwotâu ymgeiswyr deddfwriaethol, fod cynrychiolaeth menywod rhwng pump i saith pwynt canran yn uwch yn eu senedd, o gymharu â gwledydd heb ddeddfwriaeth o'r fath. A rhaid nodi, wrth gwrs, nad yw'r Mesur hwn yn cyflawni popeth yr oeddem ei eisiau fel plaid o ran ehangu cynrychiolaeth, ond mae’n gam pwysig ymlaen o ran creu amgylchedd gwleidyddol mwy agored a chynhwysol.
Mae’r mater cymhwysedd deddfwriaethol yn y Bil yn un y mae angen cael sicrwydd arno, fel nad oes amwysedd mwyach, gan fynnu’r grymoedd yn ddiamheuol i’r Senedd hon. Gyda’r Bil hwn, mae gennym ni gyfle i osod ein taith ddemocrataidd fel cenedl ar lwybr i ddyfodol mwy blaengar. A ni, yma yn y Senedd hon, ddylai gael penderfynu hynny.
Fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldebau, ac fel aelod o'r grŵp seneddol trawsbleidiol ar fenywod, sy'n cael ei gadeirio gan Siân Gwenllian, hoffwn siarad yn benodol am bwysigrwydd elfen y Bil sy'n cyflwyno cwotâu rhywedd. Mae fy nghyd-aelod ym Mhlaid Cymru, Heledd Fychan, wedi gosod mas yn glir pam fod angen cwotâu rhywedd, ac rwyf i fy hun wedi cyflwyno yn y Siambr, a gerbron y Pwyllgor Biliau Diwygio, fel cynrychiolydd o gawcws y menywod, y dadleuon diamheuol o blaid cwotâu fel y modd mwyaf effeithiol o sicrhau cydraddoldeb rhywedd yn ein democratiaeth.
Felly, ni wnaf eu haildrodd i gyd eto, dim ond pwysleisio bod cydraddoldeb rhywedd yn fynegiant clir a diamwys o ddemocrataiaeth deg, gyfiawn, effeithiol a dilys. Cwotâu rhywedd fyddai'n arwain at hyn yn y modd mwyaf effeithiol. Felly, y pwynt canolog yw bod cwotâu yn gwbl hanfodol i'r broses o gryfhau ein democratiaeth yng Nghymru a gwella effeithlolwydd y Senedd yma. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cwotâu yn dod i rym drwy'r Bil—yn y pen draw. A dyna sy'n siomedig: na fyddan nhw mewn lle erbyn ein hetholiad nesaf fel yr bwriadwyd—fel yr addawyd.
Rŷn ni wedi clywed am record y Senedd hon, ac mae llawer wedi cael ei wneud yn ddiweddar o'r ffaith bod 40.6 y cant o Aelodau Seneddol newydd San Steffan yn fenywod—y nifer uchaf erioed. Ond mae angen cofio bod cyfran y menywod o fewn pleidiau seneddol San Steffan y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol wedi gostwng, ac ni wnaeth yr un blaid gyflwyno rhestr o ymgeiswyr yn yr etholiad a oedd yn gydradd o ran rhywedd.
Mae'n werth cofio ein hanes. Ers i fenywod gael yr hawl i sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau San Steffan, ac ers i'r Aelod Seneddol benwyaidd cyntaf—yr Aelod Sinn Féin, Constance Markievicz—gael ei hethol yn 1918, dim ond 693 o Aelodau Seneddol benywaidd sydd erioed wedi cael eu hethol—jest digon i lenwi'r meinciau gwyrddion unwaith, a hynny mewn dros ganrif. Mae ffordd bell i fynd.
Ac wrth gwrs, canlyniad yr etholiad oedd Llywodraeth Lafur a chanddi fwyafrif enfawr—mwyafrif a ddylai wneud ei gwaith o feithrin tegwch a llewyrch o ludw llanast cymdeithasol ac economaidd y Torïaid yn haws i'w gyflawni yn wleidyddol. Mae pobl Cymru, yn sicr, yn haeddu sylw a gofal gwell gan San Steffan, a gallai'r newid cynt yma na'r disgwyl yn neiliad Downing Street fod wedi arwian at Keir Starmer yn cynnal breichiau ein Llywodraeth drwy roi iddi'r grym i gyflwyno cwotâu rhwyedd, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, drwy roi'r grym iddi dros y materion sy'n cael eu honni gan rai i fod y tu fas i gymhwysedd y Senedd.
Mae'n siomedig nad yw'r Blaid Lafur, plaid sydd wedi bod yn flaengar wrth geisio cynyddu nifer eu Haelodau etholedig benywaidd yn y gorffennol, yn barod, felly, i ddangos cefnogaeth ymarferol i'w chwaer Lywodraeth yma yng Nghymru drwy wneud hynny erbyn etholiad cyntaf ein Senedd dan y mesurau diwygiedig yn 2026. Fe ddangosodd y pandemig bod modd newid rheoliadau a phasio deddfwriaeth mewn mater o ddyddiau pan oedd rhaid. Pam nad oedd y sgyrsiau yna yn cael eu cynnal cyn yr etholiad? Pam nad yw hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yn San Staffan, a'u bod nhw wedi dangos eu record ar fod yn flaengar ar faterion fel hyn?
Nod y Llywodraeth yw cyhoeddi canllawiau i'r pleidiau i wella amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiad 2026. Er bod hynny, wrth gwrs, yn gam yn y cyfeiriad cywir, ac yn damaid i aros pryd tan 2030, mae canllawiau mewn gymaint o feysydd polisi, tra'n cyflwyno nod, yn rhy aml yn caniatáu methiant, yn goddef difaterwch ac yn annog diffyg atebolrwydd. Ymlaen mae Canaan felly. Gobeithio na fyddwn yn gweld llithro ar y daith, neu droi yn ôl, cyn inni weld cyflawni addewid Senedd sydd wirioneddol yn ddiwygiedig, ac yn medru galw ei hun yn Senedd Cymru, yng ngwir ystyr a dilysrwydd yr enw.
Roeddwn i'n arfer credu mewn meritocratiaeth—y person iawn ar gyfer y swydd iawn, waeth beth yw eich rhywedd neu gefndir—ond mae tuedd anymwybodol, ac rydw i wedi dod ar ei draws dro ar ôl tro trwy fy ngyrfa wleidyddol am dros 20 mlynedd, fel cynghorydd, Aelod cabinet dros strydoedd a phriffyrdd, yn aml yr unig fenyw yno, a phobl yn siarad ar fy nhraws hefyd.
Rwy'n credu bod 130 o wledydd wedi cyflwyno cwotâu rhywedd nawr, ac rydym wedi bod yn siarad â gwledydd eraill y Gymanwlad yn ddiweddar am yr hyn maen nhw'n ei wneud, eu diddordebau, a'r hyn rydyn ni'n ei wneud hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn cael y sgyrsiau hynny. Siaradais i ag un person o Quebec yn ddiweddar. Mae ganddi deulu ifanc, ac maen nhw'n sicrhau bod ganddi fflat, oherwydd mae angen iddi ddod â'i phlant i lawr gyda hi weithiau. Mae ganddyn nhw crèche yno hefyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae'n rhaid i ni eu hystyried.
Fe es i i ddigwyddiad a drefnwyd gan y gymdeithas Girlguiding ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda merched o flynyddoedd 7 i 9—merched ifanc yn eu harddegau. Roedden nhw'n trafod rhwystrau maen nhw wedi'u hwynebu, gan ddefnyddio eu llais, a sut y gallan nhw fagu hyder. Cefais fy synnu gan y modd yr oedd merched ifanc, y byddech chi'n credu y bydden nhw'n hyderus nawr, wrth dyfu i fyny yn hyderus mewn cyfnod gwahanol, wedi'u hatal hefyd. Tynnwyd sylw at ambell bwynt, fel bechgyn yn siarad drostyn nhw mewn ystafelloedd dosbarth, a gallaf uniaethu â hynny. Weithiau mae'n rhaid i mi ddweud wrth bobl, 'Gallaf siarad drosof fy hun, diolch yn fawr iawn', fel mae Delyth yn ei wybod. Yn aml nid oes ganddyn nhw le i gyfrannu na rhannu eu syniadau a'u dymuniadau. A dywedon nhw, 'Does neb yn gwrando ar y merched os yw bechgyn yn siarad.' Mae pobl yn meddwl bod y bechgyn yn fwy pwysig.
Efallai fod gan fenywod lais meddalach yn amlach, fel sydd gennyf i, ond maen nhw'n dda am fanylder; maen nhw'n cofio pethau. Maen nhw'n dda am jyglo llawer o bethau—gofal plant, aelwydydd, gwaith, ffitio'r holl bethau hyn i mewn. Rydyn ni i gyd yn wahanol, ond mae menywod yn cynrychioli hanner y boblogaeth, ac mae gwir angen i ni edrych ar gydbwysedd rhwng y rhywiau wrth symud ymlaen. Diolch.
Er gwaethaf ymdrechion rhai i daflu dŵr oer dros y Bil pwysig yma, dwi yn meddwl bod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol, diwrnod i'w ddathlu, oherwydd, yn gyntaf, mae'r pwyllgor diwygio yn argymell bod y Senedd yn cytuno prif egwyddorion Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), ac, yn ail, bod yr Aelod arweiniol yn croesawu'r argymhelliad i gytuno i'r prif egwyddorion ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, dwi'n annog pawb, o bob plaid, i alluogi'r Bil i barhau ar ei daith drwy'r Senedd drwy gymeradwyo'r prif egwyddorion heddiw.
Mae'r dystiolaeth yn gadarn. Dim ond drwy osod mecanwaith statudol, fel sy'n cael ei amlinellu yn y Bil, y bydd modd creu Senedd sydd yn wirioneddol gynrychioladol ac felly yn wirioneddol effeithiol fel deddfwrfa. Darllenwch y dystiolaeth. Fe glywodd y grŵp trawsbleidiol merched gyflwyniad ar ôl cyflwyniad gan arbenigwyr rhyngwladol am bwysigrwydd cwotâu er mwyn creu a chynnal—creu a chynnal—cydraddoldeb rhywedd, ac fe glywyd hefyd sut mae cael balans o ran rhywedd yn y llefydd mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn arwain at well benderfyniadau ar gyfer yr holl boblogaeth, gan gynnwys yr hanner sy'n fenywod.
Rydyn ni'n rhoi pwyslais mawr yn y Senedd yma ar wrando ar brofiadau pobl go iawn—lived experiences—ac mae Carolyn newydd amlinellu rhai o'i rhai hi. Y tro hwn, ni, y merched yn y Siambr yma, sy'n meddu ar y profiadau bywyd hynny. Ni, y merched, sydd yn canfod ein hunain weithiau fel yr unig ferch rownd y bwrdd, a ni sydd wedi dioddef yn sgil hynny. Ni sy'n dioddef unconscious bias, bychanu, dilorni, anwybyddu. A ni, y merched, sydd yn gwybod sut mae cael balans rhywedd yn ein cefnogi ni i fod yn fwy hyderus yn ein gweithredoedd a'n hymagweddu. Ni, y merched, sy'n gwybod sut mae balans rhywedd yn cefnogi'n hymdrechion i wneud y byd yn lle mwy cydradd i ferched y dyfodol. Felly, gwrandewch ar ein profiadau ni, a beth am symud ymlaen efo'n gilydd ar y daith efo'r ddeddfwriaeth yma?
Mae hi’n siomedig nad ydych chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu i'r newid ddod i rym tan 2030. Pe bai'r ewyllys gwleidyddol yno, yn Llundain, yng nghoridorau'r Llywodraeth newydd, dwi'n grediniol fod modd cynnwys y cwotâu fel rhan hanfodol o ddiwygio yn 2026. A byddwn i'n hoffi cael sicrwydd heddiw y bydd y Blaid Lafur, yma ac yn Llundain, yn canfod ffyrdd i gael gwared ar unrhyw risgiau cyfreithiol. Mae'r llwybr Gorchymyn 109 yn y Cyfrin Gyngor yn un realistig a chwbl bosib, ac efo'r ewyllys cywir, yn bosib erbyn 2026. Heb y cwotâu, mae'r pecyn diwygio presennol yn anorffenedig, a dwi wirioneddol yn poeni y byddwn ni'n diweddu efo Senedd sydd yn fwy, ond hyd yn oed yn llai cydradd nag ydy hi wedi bod yn y blynyddoedd a fu.
Mae yna faterion i'w hystyried, oes, ond yr egwyddor sydd dan sylw heddiw, a dwi'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y man yma heddiw yma. Mae o wedi cymryd ymdrech oes i'r rhai ohonon ni sydd yma heddiw i gyrraedd lle'r ydyn ni ynddo fo, ac mae'n rhaid inni ddathlu hynny, dwi'n siŵr. Diolch i chi, Drefnydd, am eich dyfalbarhad er gwaetha'r rhwystredigaeth. Diolch yn fawr.
Mae'n anodd iawn dadlau bod y system wirfoddol o gael balans rhywedd wedi gweithio hyd yn hyn. Os dwi'n cofio'n iawn, doedd dim un fenyw yng ngrŵp y Torïaid yn 1999.
Roeddwn i, fel Cadeirydd Pwyllgor y Bil Diwygio, yn siomedig bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i ymestyn y drosedd o arferion llwgr i ddatganiadau rhywedd ffug. Nid yw dibynnu ar niwed i enw da yn ddigonol. Yn yr un modd, dwi'n credu bod y gair ‘gallai’, yn hytrach na ‘mae'n rhaid’, sef ‘may’ yn hytrach na ‘must’, yn adran 71, yn fan gwan iawn yn y Bil. Gall hyn arwain at restrau pleidiau yn cael eu derbyn heb iddynt gydymffurfio â'r cwotâu. Y canlyniad, felly, fyddai Bil heb rym. A heb ddull gorfodi digonol i gosbi pleidiau am beidio â chydymffurfio â'r gyfraith, gallem ganfod fod gennym ganlyniadau tebyg i Algeria a'r Arfodir Ifori, sydd â chwotâu rhywedd, ond oherwydd diffyg gorfodi, mae ganddyn nhw'n gynrychiolaeth eithriadol o wael o fenywod yn eu gwleidyddiaeth hwy.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi yw cymhwysedd y Bil. Ni ddylai gweithredu cwotâu fel egwyddor gyffredinol fod yn cael ei drafod, mewn gwirionedd. I fi, does dim issue yn hynny. Mae'r cwotâu yn ymddangos yn syrthio yn weddol amlwg o fewn cyfraith etholiadau. Pan ddaw rhywedd i'r mater, hynny sy'n ei wneud e’n fwy cymhleth. Fel mae’r Llywydd wedi esbonio i ni o fewn gohebiaeth, mae'n ymddangos yn weddol debygol bod y ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl, sef cydraddoldeb. Ond dwi'n credu bod yna ateb syml i hyn, fel mae Adam Price, Heledd Fychan a Siân Gwenllian wedi dweud yn barod: mae angen nawr i ddatganoli agweddau penodol o gyfraith cydraddoldeb i Gymru. Mi fydd hyn nid yn unig yn cryfhau cymhwyster y Bil yma, ond hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith eraill ar gydraddoldeb, fel gwahardd therapi trosi a gweithio tuag at Gymru wrth-hiliol.
Felly, dwi'n gofyn ar y Llywodraeth i barhau â'u sgyrsiau gyda'r Llywodraeth Lafur newydd yn y Deyrnas Unedig i sicrhau datganoli rhannau o gydraddoldeb i Gymru mor fuan â phosib. Diolch yn fawr.
Y Trefnydd nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i chi i gyd y prynhawn yma.
Bu'n ddadl bwysig iawn. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Fe hoffwn i ddechrau dim ond trwy ddiolch i Siân Gwenllian am gydnabod bod hwn yn ddiwrnod hanesyddol. Mae yn ddiwrnod hanesyddol, yn ddiwrnod o ddathlu, a byddwn yn symud ymlaen, gobeithio, gyda chefnogaeth i egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Ond mae'n amser i ni wrando, ac rwy'n credu y bu cyfraniad Carolyn Thomas yn arbennig o effeithiol am ei—. Mae'n ymwneud â phrofiad byw, ond mae'n ymwneud â'ch profiad chi, ac, wrth gwrs, i'r menywod yn y Siambr hon, fe allem ni i gyd sefyll i fyny a hefyd rhoi ein profiadau o sut beth yw bod yn fenyw mewn gwleidyddiaeth.
Wrth inni symud ymlaen at y 96 hynny, mae hyn yn rhan allweddol o ddiwygio'r Senedd, y 96 Aelod hynny. Mae'n rhaid i'r 96 Aelod hynny fod yn gynrychioliadol o bobl Cymru. Mae menywod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, sef 51 y cant o'r boblogaeth ond dim ond 43 y cant o aelodau'r senedd a dim ond 31 y cant o ymgeiswyr yn etholiad diwethaf y Senedd oedd yn fenywod. Cafodd rhai ohonom ni'r fraint fawr—dau neu dri ohonom ni yma, efallai mwy—o'r amser bendigedig hwnnw pan oeddem ni'n hanner cant y cant—Llywydd, roeddech chi yno—ac fe gyflawnon ni hynny drwy weithredu cadarnhaol. Nid yw'n digwydd trwy'r ffyrdd arferol y caiff pobl eu dewis, mae arna i ofn, gan bleidiau gwleidyddol, oni bai bod camau cadarnhaol. Ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hyn i roi hyn mewn statud, felly ni all fod o ganlyniad i weithredu gwirfoddol yn unig, a chwiw unrhyw blaid wleidyddol.
Felly, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, yn 2003, mai ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf gyda 50 y cant o fenywod, ond mae'r ffigur, fel y dywedais i, wedi llithro, ac mae arnom ni eisiau ac angen ailadeiladu hynny. Nid oes lle i laesu dwylo o ran sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n fras cyfansoddiad rhywedd y boblogaeth.
Fe wnes i gynhyrchu—. Ni fyddaf yn gallu mynd trwy'r holl ymatebion o ran yr argymhellion a gyflwynwyd ac a drafodwyd y prynhawn yma, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych eto ar yr ymatebion i'r adroddiadau a luniwyd gennyf ar 10 Gorffennaf, oherwydd roedd yn bwysig iawn fy mod yn cyhoeddi hwnnw'n gynnar, a gobeithio y bydd pawb yn nodi manylion llawn fy ymateb i argymhellion.
Rwyf am ddechrau ar y mater cymhwysedd cyfreithiol sydd wedi ei godi nid yn unig gan y Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—a diolch i'r Cadeirydd am ei gyfraniad—ond hefyd y Pwyllgor Biliau Diwygio. Mae'n dda gweld y Cadeirydd yma yn y Siambr hefyd. Dim ond i atgoffa pawb, a dywedais hyn mewn tystiolaeth i'r pwyllgorau: mae'r Bil wedi bod drwy'r prosesau a'r gwiriadau arferol o fewn Llywodraeth Cymru. Fe ddywedom ni yn y memorandwm esboniadol ac yn ystod y gwaith craffu, ac fel y dywedais i wrth agor y ddadl hon, rwy'n credu bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ac mae, fel y dywedais i, yn rhan o'r pecyn hwnnw o ddiwygiadau, gan gynnwys Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y mae ar hyn o bryd, 2024. Mae'n rhaid i ni wneud y Senedd yn fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru.
Diben y Bil yw bod â Senedd fwy effeithiol. Nid wyf yn ystyried ei fod yn ddiben arall o gyfle cyfartal. Nid wyf o'r farn bod y Bil yn torri'r cyfyngiad ar addasu'r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl, yn benodol adran 104 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym ni wedi cyhoeddi asesiad effaith cydraddoldeb a hawliau dynol, ac rwy'n ystyried bod y Bil yn gydnaws â hawliau unrhyw gonfensiwn a bod cyfiawnhad gwrthrychol dros unrhyw ymyrraeth â hawliau o'r fath.
Fel y dywedais i yn glir iawn yn fy nhystiolaeth, rwy'n cydnabod bod y Llywydd wedi dod i farn wahanol, ac rydym ni wedi gweld ystod o safbwyntiau—mae hynny wedi cael ei gydnabod—ar fater cymhwysedd deddfwriaethol mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Biliau Diwygio. Ac rwy'n parchu'r holl farnau cyfreithiol a roddwyd, ond yn parhau o'r farn bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Felly, nawr rydym ni'n pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a dyna argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio, ac rwyf wedi ymateb i bob un o'r 47 argymhelliad. Ond mae'n rhaid cofio'r hanes eto. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gymeradwywyd wedyn gan fwyafrif yr Aelodau ym mis Mehefin 2022.
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr? Rwy'n ddiolchgar iawn. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r cytundeb yn adroddiad pwyllgor diwygio'r Senedd a gymeradwywyd gan y Senedd hon, ond, wrth gwrs, ni chafodd ei gymeradwyo gan y Senedd hon. Nid yw'r system hon wedi'i chymeradwyo. Y system a gymeradwywyd oedd y system arfaethedig, a gytunwyd gan gyn-arweinydd eich plaid ac arweinydd Plaid Cymru, a oedd yn rhestr am-yn-eilio o ran rhywedd go iawn, nid yn rhestr a allai fod hyd at 100 y cant o fenywod ond dim ond hyd at uchafswm o 50 y cant o ddynion. A ydych chi'n derbyn nad yw hyn yn rhywbeth a gytunwyd o'r blaen? Ac os ydych chi, pam ydych chi'n dilyn polisi mor wahanol nawr?
Cyflwynais Fil, ac roeddwn yn falch iawn o fod yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, ac fel y dywedais i, ac fe wnaf i ailadrodd hyn eto: diben y Bil hwn yw Senedd fwy effeithiol, y ceisir ei chyflawni drwy fwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau. A daethom i farn, o ran sut y cai hynny ei adlewyrchu yn y Bil, ac o ran cydnabod bod y Bil yn bwysig o ran y datganiad ymgeisydd, sef y ffordd y teimlem ni y dylem ni fwrw ymlaen â hyn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y pwyllgorau wedi craffu ar hyn yn ofalus iawn. Credaf ei bod hi'n ddiddorol iawn bod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog? Ymddiheuraf am ofyn cynifer o—
Nid wyf wedi gorffen ymateb i'ch ymyriad.
Esgusodwch fi. Dim ond ar fater y pwyllgorau craffu.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn o ran y dystiolaeth a aeth at y Pwyllgor Biliau Diwygio, y cwotâu gwirfoddol a weithredwyd yn y gorffennol, a'i fod yn seiliedig ar y dystiolaeth ynglŷn â beth yw'r ffordd orau ymlaen o ran ymdrin â hyn, a hefyd edrych ar beth mae gwledydd eraill—. Mae Iwerddon, er enghraifft, yn gweithredu system cwota rhywedd, ac rydym ni wedi gweld i raddau helaeth iawn yr hyn y maen nhw wedi'i wneud o ran cyflawni hyn. Felly, ni allaf weld unrhyw—. Y ffaith yw bod y ffordd rydym ni wedi bwrw ymlaen â'r Bil hwn, rwy'n credu, wedi cael ei derbyn, ac nid yn unig drwy'r dystiolaeth, ond hefyd fod y pwerau rydym ni wedi dewis eu defnyddio o ran y Bil—does ganddo ddim diffiniad o fenyw, nid yw'n ymwneud â diffinio menyw, nid yw'n ymwneud â chydnabod rhywedd, ac mae—. Rwyf wedi datgan yn fy marn mai dyma'r ffordd y dylem ni fwrw ymlaen â hyn, yn nhermau a diben y Bil hwn, ond hoffwn symud ymlaen, Llywydd, oherwydd fe hoffwn i ateb llawer o'r cwestiynau eraill a holwyd.
Ac rwy'n credu mai'r cwestiwn nesaf, wrth gwrs, oedd—ac mae wedi ei godi gan Aelodau yma heddiw—ynghylch pam na allwn ni wneud hyn, yr amseru y mae Heledd Fychan, Sioned ac eraill wedi sôn amdano. Wel, roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi codi pryderon am y risg o her gyfreithiol, pe byddai'n amharu ar y ffordd y cynhelid etholiad Senedd 2026 neu ganlyniad yr etholiad hwnnw, a gallai unrhyw her gyfreithiol arwain at ansicrwydd, fel y gyfraith sy'n llywodraethu'r etholiad, nes bod yr her honno wedi'i datrys. Felly, rydym ni wedi cymryd y camau i liniaru'r risgiau, er mwyn amddiffyn uniondeb etholiad Senedd 2026, fel y dywedais i. Roeddem o'r farn y dylem ni nawr ei drefnu ar gyfer etholiad Senedd 2030. Ond a gaf i sicrhau ein cyd-Aelodau heddiw ein bod ni—a dywedais mewn ymateb i Adam Price—eisoes yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ein bod ni eisoes yn edrych ar lwybr adran 109. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw adran 109 yn broses syml; mae'n rhaid i chi fynd drwy Senedd-dai'r Deyrnas Unedig a'r Senedd hon—[Torri ar draws.]—er mwyn gwireddu hynny.
Dim ond ynghylch y pwynt cyfreithiol penodol iawn yma, onid yw'n wir fod y risg honno'n berthnasol i bopeth, pob cymal o bob Bil? Mewn theori, mae posibilrwydd o her, oherwydd mae yna rai pethau, wyddoch chi, hawliau dynol ac ati, lle mai dim ond y Goruchaf Lys all roi barn bendant arnyn nhw. Ond pe baem ni o'r farn na allem ni wneud rhywbeth, ni allem ni ddeddfu ar unrhyw beth, oherwydd bod yna, o bosib, yn ddamcaniaethol, risg o her, ni fyddem yn cynhyrchu unrhyw ddeddfwriaeth. Nid oes mwy o risg, os ceir Gorchymyn adran 109 yn y Cyfrin Gyngor—does dim mwy o risg, wedyn, i'r Bil hwn, o dan yr amgylchiadau hynny, nag unrhyw beth arall yr ydym ni wedi deddfu arno yn hanes datganoli.
Wel, rwy'n gobeithio mai'r hyn fydd yn dod o ganlyniad i'r ddadl hon heddiw yw cymeradwyo'r egwyddorion cyffredinol, gan gydnabod fy mod wedi dweud bod gennym achos cyfreithiol credadwy, er mai'r her i'r cymhwysedd cyfreithiol yw'r risg, onid ydyw, o ran yr amseriad, nid yn unig o ran ein bod yn symud i ddilyn llwybr adran 109, ond hefyd y ffaith y gallai hynny ynddo'i hun arwain at her gyfreithiol. Rwy'n ofni fy mod yn rhedeg allan o amser yn gyflym, Llywydd, ac rwy'n erfyn arnoch i roi amser i mi, oherwydd mae hwn yn Fil pwysig iawn yr ydym yn ei ystyried. Ond yr hyn sydd ei angen arnom o'r ddadl hon heddiw yw eich cefnogaeth a'ch hyder ein bod yn ceisio rhoi'r cwotâu rhywedd mewn statud yma yng Nghymru. Mae'n torri tir newydd: does neb arall yn ei wneud yn y DU; mae 130 o wledydd yn ei wneud mewn mannau eraill. Gadewch i ni gael y gefnogaeth heddiw er mwyn i ni ddechrau'r broses honno a mynd trwy'r rhwystrau hynny.
Nawr, rwy'n cydnabod nad wyf wedi ateb yr holl gwestiynau a gododd Cadeirydd y pwyllgor, yn enwedig, rwy'n credu, am swyddi gwag. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithredu argymhellion y pwyllgor diben arbennig a'i ragflaenwyr ynghylch bod â chwota ymgeiswyr, ac mae gan y rheini reolau sy'n berthnasol yn unig mewn perthynas â lleoli cyfran o fenywod mewn perthynas â'r rhestr. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Y rheswm pam yr wyf wedi gwrthod eich argymhelliad yw na fyddai o reidrwydd yn hyrwyddo diben y Bil o fod â Senedd fwy effeithiol pe bai tynnu'n ôl, oherwydd rwy'n credu bod y darpariaethau yn y Bil yn cynnig cyfle mor dda o ddychwelyd Senedd gytbwys o ran rhywedd, ond ni ellir ei warantu, a gallai fod anghydbwysedd o hyd, gyda menywod yn dal i fod yn y lleiafrif, a gallai'r argymhelliad a wnaethoch arwain at barhau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau; er enghraifft, gallai dyn sy'n gadael gael ei ddisodli gan ddyn. Felly, dyna pam nad ydym yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Ond rydyn ni eisiau, yn glir iawn—. Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Jo Cox, yn mynd i'r afael â'r mater ynghylch brawychu a bwlio ac yn helpu i wrthsefyll aflonyddu a chamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd y mesurau o fewn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn ein helpu ni ag ef. A gaf i ddweud i gloi, o ran y Bil hwnnw, wrth gwrs, fod hyn yn ein helpu i symud ymlaen mewn ffordd wirfoddol i edrych ar yr holl fater ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant—strategaethau y bydd rhaid i bob plaid wleidyddol eu mabwysiadu? Mae'n statud y bydd canllawiau, ac yna byddem yn disgwyl i bleidiau gwleidyddol fwrw ymlaen â hynny a derbyn hynny.
Felly, a gaf i ddweud i gloi bod yr holl bwyntiau allweddol ynghylch pam mae angen y Bil hwn wedi'u gwneud gan yr Aelodau heddiw? Rwy'n credu y gallem ni dreulio llawer mwy o amser ar y ddadl. Ond mae hyn nawr yn ein symud ymlaen i'r cyfnod nesaf; wyddoch chi, cafodd amserlen y Bil ei chymeradwyo yn y Pwyllgor Busnes. A gaf i ddweud, edrychwch, rydyn ni'n gwybod nad ydym yn gytbwys o ran rhywedd, nad oes gennym ddigon o fenywod yn y Senedd hon? Mae gennym bwyllgorau heb unrhyw fenywod arnyn nhw—a all hynny fod yn iawn? Mae'n rhaid i bob plaid wleidyddol edrych arnynt eu hunain a dweud, 'Yn ein ffordd ymlaen gyda diwygio'r Senedd, a ydym am fod â Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd, Senedd amrywiol, yn 2026 a 2030, a fydd mewn statud?', a bydd y Bil hwn yn helpu i'n harwain at y pwynt hwnnw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni adael y cynnig yna i'w bleidleisio arno tan y cyfnod pleidleisio, ac felly hefyd y cynnig o dan eitem 8 hefyd i'w adael tan y cyfnod pleidleisio.