– Senedd Cymru am 2:33 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad deddfwriaethol ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd, neu Ysgrifennydd y Cabinet yn hytrach, fframwaith mesurau arbennig newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gynnwys y meini prawf dad-ddwysáu y mae hi bellach yn disgwyl i'r bwrdd iechyd eu bodloni cyn y gellir symud y sefydliad allan o fesurau arbennig. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb yng ngogledd Cymru yn y gwelliannau y mae angen i ni eu gweld yn y gwasanaethau hynny, ac, yn anffodus, nid ydyn nhw'n welliannau sylweddol ar hyn o bryd i'r rhan fwyaf o bobl ledled y rhanbarth.
Un o'r pethau y byddwn i wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfeirio ato fyddai nifer y cwynion y mae'r bwrdd iechyd yn eu cael a'u datrys, ond does dim sôn am gwynion o gwbl yn y fframwaith mesurau arbennig, ac rwy'n credu y gallan nhw fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer nodi problemau a ph'un a yw pethau wir yn cael sylw. Mae gen i gwynion yn fy mewnflwch sy'n mynd yn ôl fisoedd heb ddatrysiad, heb hyd yn oed ymateb gan y bwrdd iechyd, sy'n amlwg yn annerbyniol. Ac mae angen i'r bwrdd iechyd, a dweud y gwir, fynd i'r afael â chwynion, sicrhau ei fod yn dysgu ohonyn nhw, ac mae angen triongli hynny i'r prosesau gwneud penderfyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol amdanyn nhw. A gaf i ofyn am ddatganiad am rôl cwynion o ran rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd, er mwyn i ni allu sicrhau bod profiadau bywyd pobl yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn briodol pan fydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau am fframweithiau uwchgyfeirio?
Fe wnaf i roi enghraifft arall i chi hefyd. Mae gennym ni dipyn o loteri cod post yng ngogledd Cymru, gyda nifer o bractisau sydd bellach yn bractisau wedi'u rheoli yn hytrach na'n cael eu rhedeg o dan gontractau practis cyffredinol, ac mae'n ymddangos bod y gwasanaethau yn y practisau hynny'n llawer gwaeth nag mewn meddygfeydd lleol eraill. Mae gennym ni broblemau cynyddol gyda phobl yn cael mynediad at wasanaethau sydd ar gael mewn practisau eraill, ond nad ydyn nhw ar gael yno. Er enghraifft, nid yw brechiadau syml ar gael yn y practis ym Mae Colwyn, yng Nghanolfan Feddygol y West End, yn fy etholaeth fy hun. Felly, rwy'n credu bod y rhain i gyd yn faterion y mae angen eu hystyried fel rhan o'r fframweithiau uwchgyfeirio hyn, a dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. A hoffwn gael datganiad ar y rhain ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Mae hwn yn gwestiwn adeiladol iawn, rwy'n credu, o ran sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o ddealltwriaeth o'r effeithiau ar ddinasyddion-cleifion yn y fframwaith ymyrraeth dad-ddwysáu. Hynny yw, mae dadansoddi cwmpas ac amlder y cwynion hynny, rwy'n credu, yn berthnasol iawn. Wrth gwrs, mae gennym ni'r Llais newydd yn gweithredu nawr, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, yn barod i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig, wrth gwrs, o ran y datganiadau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u gwneud.
Trefnydd, yn dilyn yr hyn ddywedodd Darren Millar, yn sicr o ran y datganiad hwnnw ar Betsi Cadwaladr a hefyd y datganiad arall a wnaed yn ysgrifenedig o ran trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth, sy'n effeithio, wrth gwrs, ar holl fyrddau iechyd Cymru, maen nhw'n ddau ddatganiad yr hoffem ni fod wedi eu gweld fel datganiadau llafar a chael y cyfle i graffu a holi cwestiynau ar lawr y Senedd. A gaf i ofyn, felly, a fydd yna gyfle yn cael ei greu yn fuan yn y tymor newydd fel ein bod ni yn cael y cyfle hwnnw fel Senedd?
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn.
A dweud y gwir, roedden ni'n siarad—. Rydym yn edrych ar ein hamserlen fusnes ar gyfer yr hydref. Felly, fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a gawn ni ddatganiad llafar ar un o'r materion neu'r ddau fater hynny.
Yr wythnos nesaf mae hi'n ddechrau'r gwyliau ysgol chwe wythnos. Mae angen i ni gydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i deuluoedd ar incwm isel wrth geisio bwydo eu plant yn ystod y cyfnod hwn, heb sôn am sut i'w difyrru. Mae yna gytundeb cyffredinol nad yw'r canllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion yn addas i'r diben mwyach. Maen nhw dros 10 mlwydd oed, ac nid ydyn nhw'n ystyried bod cwmnïau arlwyo torfol yn difwyno bwyd wedi'i brosesu yn systematig gydag ychwanegion. O ran cyd-destun, rydym yn gwybod bod un o bob chwe aelwyd yn cyfaddef eu bod yn gaeth i brydau parod, sy'n cael eu llwytho â'r ychwanegion hyn sydd wedi'u prosesu'n helaeth, ac mae llawer yn y proffesiwn meddygol wedi nodi mai hwn yw prif ysgogydd gordewdra, diabetes, canser a chlefyd y galon. Felly, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hyrwyddo deiet iach ac atal gordewdra ymhlith plant oedran ysgol yw drwy gefnogi plant i fwyta bwyd iachach yn ystod y diwrnod ysgol.
Nawr, roedd yna seminar a gafodd ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru nôl ym mis Medi—mae hynny bron i flwyddyn yn ôl—ac nid ydym wedi clywed dim am ganlyniad hynny. A thu hwnt i bapur sy'n amlinellu'r cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar effaith bwyd ysgol ar ganlyniadau iechyd a lles plant, does gennym ni ddim byd. Ac, yn y cyfamser, does gennym ni ddim byd i lywio caffael cyhoeddus bwyd ysgol nac, yn wir, bwyd mewn ysbytai chwaith. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ar yr amserlen ar gyfer diweddaru'r canllawiau bwyta'n iach, fel bod gennym ni safonau modern sy'n ymdrin â'r heriau presennol. Oherwydd ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod llawer gormod o gwynion gan deuluoedd, sy'n dweud nad yw eu plentyn yn cael digon o fwyd, oherwydd dyna un o'r pethau hurt am y canllawiau presennol. Mae gwir angen i ni wybod bod ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn prydau ysgol am ddim wir yn maethu ein plant, yn hytrach na'n gwneud y broblem yn waeth.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Roedd yn bwysig eich bod chi wedi dechrau eich cwestiwn drwy siarad am y ffaith ein bod ni ar fin dechrau cyfnod gwyliau'r ysgol o chwe wythnos o ran cyfleoedd i fanteisio ar fwyd a bwyta'n iach i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn berthnasol, cyn i mi fynd i'r afael â'r mater o ran y canllawiau bwyta'n iach, i'n hatgoffa ni i gyd, unwaith eto, o'r rhaglen gwella gwyliau'r haf arloesol, rhaglen gwella gwyliau ysgol gwerth £4.85 miliwn, o'r enw Bwyd a Hwyl. Mae Julie Morgan yn mynd i fod yn gwneud rhywfaint o waith drwy ein hadolygiad i edrych ar sut mae hyn yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n gwybod yn sicr yn fy etholaeth i, a bydd llawer o gyd-Aelodau yn bwriadu ymweld â phrosiectau yn eu hetholaethau nhw, sut mae bwyd yn rhan fawr o SHEP, mynediad at fwyta'n iach. Ac yn wir, nid yn unig i'r plant sy'n mynychu'r rhaglen gwella gwyliau'r haf honno, ond teuluoedd sy'n dod i mewn ac yn cael prydau, cinio, bwyd gyda'i gilydd ar ddiwedd sesiwn. Dyma'r nawfed flwyddyn i'r cynllun hwnnw gael ei weithredu. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog addysg am yr wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau bwyta'n iach, oherwydd mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth eto ag awdurdodau lleol. Eu cyfrifoldeb nhw o ran comisiynu yw cyflawni'r canllawiau bwyta'n iach. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod arferion da a gwael, neu arferion sydd ddim cystal, ledled Cymru. Yn sicr, os oes seminar Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod, ac mae hyn yn drawslywodraethol iawn hefyd, gallwn ni ofyn i'r Gweinidog adrodd ar hynny hefyd wrth baratoi ar gyfer y tymor ysgol nesaf.
Thema debyg. Hoffwn godi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch materion sy'n cael eu hadrodd gan ysgolion, disgyblion a rhieni ynghylch maint cyffredinol y prydau sy'n cael eu rhoi i ddisgyblion mewn addysg gynradd ac uwchradd. Y mater sy'n achosi pryder yw bod disgyblion yn y dosbarth derbyn yn cael pryd yr un maint â phlant ym mlwyddyn 6. Byddai'n eithaf amlwg bod angen pryd maint gwahanol ar blentyn pedair oed i ginio o gymharu â phlentyn 10 neu 11 oed.
Daethpwyd â'r mater hwn i fy sylw beth amser yn ôl, ond yn dilyn ymweliad ag Ysgol Gymunedol Bodnant ym Mhrestatyn ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, fe glywais i'n uniongyrchol gan athrawon a staff arlwyo bod disgyblion oed derbyn yn ei chael hi'n anodd bwyta'u cinio ond nad yw disgyblion blwyddyn 6 yn cael digon i'w fwyta ac nid ydyn nhw'n teimlo'n llawn, gyda rhai o'r plant yn dweud wrtha i eu bod nhw'n ysu am fwyd erbyn y prynhawn, sydd wrth gwrs yn effeithio ar eu dysgu. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi codi pryderon bod plant yng Nghymru yn dal i fod yn llwglyd ar ôl prydau ysgol yn dilyn arolwg ciplun o ddisgyblion.
Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn tybio bod prydau ysgol am ddim i bawb yn awgrymu bod gan bob plentyn hawl i gael cinio ysgol am ddim, ond ni fydden nhw'n tybio bod hynny hefyd yn golygu bod plant o bob oedran yn cael pryd o'r un maint. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau i sicrhau bod plant yn cael pryd o fwyd o'r maint priodol ac â'r maeth priodol ar gyfer eu hoedran a'u hanghenion? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies, am godi hyn, oherwydd dyma lle yn aml yn ein gwaith etholaethol rydych chi'n cael adborth da, onid ydych chi, ar ymweliadau—yr ymweliad a wnaethoch chi ag ysgol yn eich etholaeth. Unwaith eto, rwy'n siŵr bod hyn, fwy na thebyg, yn mynd yn ôl at ganllawiau bwyta'n iach, ond fe wnaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog addysg edrych ar hyn yn dilyn y cwestiwn gan Jenny Rathbone ynghylch a yw'r canllawiau'n ymwneud â maint. O'r hyn rydych chi'n ei ddweud, yn eich awdurdod chi neu'ch ysgolion chi, mae ganddyn nhw feintiau prydau cyffredinol, ond rydym yn gwybod gyda phlant sy'n tyfu nad yw hynny, efallai, yn briodol.
Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim hefyd, oherwydd rydym eisiau sicrhau wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim, sy'n cael cymaint o gefnogaeth ac sydd mor bwysig o ran mynd i'r afael â thlodi bwyd a rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwyta'n iach, ein bod ni hefyd yn monitro sut mae'r broses o'u cyflwyno yn mynd, a yw'r canllawiau bwyta'n iach yn cael eu gweithredu, a hefyd, unwaith eto, yn edrych ar arferion gorau—arferion da ledled Cymru o ran cyflwyno'r fenter bwysig hon. I blentyn, dyma ei angen beunyddiol sylfaenol, onid yw, i gael y pryd iach hwnnw yn yr ysgol.
Mae'r sefyllfa argyfyngus yn ein gwasanaeth iechyd yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, ac fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, i fynd i'r afael â diffyg staffio yn ein hysbytai ni. Fe gysylltodd etholwr â mi yr wythnos diwethaf i ddweud bod ei dad wedi cael ei gyfeirio at Ysbyty Ystrad Fawr oherwydd amheuaeth o waedlif ar ei ymennydd. Fe fu'n aros am 10 awr ar y ward mewn poen ysol cyn i ambiwlans ei drosglwyddo ef i Ysbyty Athrofaol Cymru. Nawr, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi'n amhosibl i'w deulu gysylltu ag ef. Bob tro y ceisiodd ei wraig neu ei fab ffonio'r ward, roedd yn rhaid iddyn nhw aros am amser maith ac yna cael eu datgysylltu. Fe gafodd ei fab, yn ei ofid mawr, rywun i'w gludo i'r ysbyty, lle daeth o hyd i'w dad mewn cymaint o boen prin y gallai gadw ei lygaid ar agor. Nid oedd unrhyw un yn gallu dod o hyd i glustog iddo, ac felly roedd yn rhaid iddo wneud ei orau gyda blancedi yn eu plyg ar gyfer gorffwys ei ben, ac nid oedd unrhyw ddiweddariadau i'w deulu o ran pryd y byddai ambiwlans yn dod i'w drosglwyddo. Fe ddywedwyd wrthyn nhw na fydden nhw'n cael mynd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru eu hunain ac y byddai'n gorfod aros am wyth i naw awr am ambiwlans. Roedd tad fy etholwr i'n dweud, 'Fel hyn y mae pobl yn cael eu gadael i farw.'
Nawr, mae'r staff yn ein hysbytai ni'n arwrol. Maen nhw'n gweithio dan straen aruthrol, ac mae'r diffyg staffio hwn yn effeithio arnyn nhw mewn ffordd ddychrynllyd hefyd. Yn sicr, nid yw honno'n ffordd iawn o drin cleifion na staff. Felly, a allai datganiad nodi sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hyn?
Diolch i chi, Delyth Jewell, am adrodd am y pwysau sy'n amlwg yn effeithio ar bobl, cleifion, yn y gwasanaeth iechyd a'r pwysau sydd ar ein staff ac ar ein GIG oherwydd y galw a'r derbyniadau, sy'n codi, i adrannau brys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gwirio ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG, a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin. Ym mis Mai, cafwyd 5,110 o alwadau coch, sef bygythiol i fywyd, ar y gwasanaeth ambiwlans, ac o 13.9 y cant o'r galwadau i gyd, 165 ar gyfartaledd, roedd galwadau â pherygl mawr i fywyd bob dydd—12 yn fwy nag ym mis Ebrill a'r trydydd mwyaf erioed, sy'n arwydd o'r pwysau sydd ar y GIG. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran perfformiad, fod 45.8 y cant o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud.
Felly, yn amlwg, rydym ni'n bryderus o glywed am y profiad hwnnw, ac rydych chi wedi tynnu ein sylw ni at hynny. Roedd cyfartaledd o 3,215 o dderbyniadau i adrannau brys bob dydd, cynnydd o gymharu â'r mis blaenorol, ac wrth gwrs, mae hyn ag effaith ar y niferoedd o ambiwlansys sydd ar waith ac ar gael. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod 5 y cant yn fwy o bobl wedi cael ymateb o fewn wyth munud ym mis Mai o'i gymharu â'r un mis y llynedd, a 79 y cant o gleifion categori coch wedi cael ymateb mewn 15 munud. Ond, rwy'n gwybod y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud nad yw amseroedd ymateb ambiwlansys yn y sefyllfa y byddem ni'n dymuno iddyn nhw fod o hyd, na'r cyhoedd ychwaith. Diolch am dynnu sylw at hyn unwaith eto heddiw.
Gwych o beth yw bod Llywodraeth Lafur newydd y DU wedi gweithredu mor bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng yn ein carchardai, ac fe fydd rhai carcharorion yn cael eu rhyddhau ar ôl iddyn nhw orffen 40 y cant o dymor eu dedfrydau, yn hytrach na 50 y cant fel mae hi ar hyn o bryd, a hefyd ei chynllun i benodi 1,000 yn fwy o swyddogion prawf. Ond, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod ein system garchardai wedi dod yn agos at chwalu o ganlyniad i 14 mlynedd o ddiffyg gweithredu. Fe wyddom ni hefyd nad yw carchardai yn gweithio yn iawn i fenywod, sydd yn aml yn y carchar am gyfnodau byr iawn, yn aml am fân droseddau, sy'n achosi tarfu enfawr ar eu teuluoedd, ac ar eu plant yn enwedig. Dyna pam, ers blynyddoedd lawer, y bu ymgyrch, yr wyf i wedi bod â rhan ynddi ac rwy'n credu bod y Trefnydd wedi bod â rhan ynddi hefyd, dros leihau nifer y menywod sydd yn y carchar a cheisio cael llety mwy addas iddyn nhw. Felly, a fyddai hi'n bosibl cael datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd o ran y ganolfan i fenywod a oedd am gael ei datblygu yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. Rydych chi wedi bod yn codi'r materion hyn nid yn unig yma yn y Senedd hon yn ystod yr amser yr ydych chi wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon, ond pan oeddech chi'n Aelod yn Senedd San Steffan, ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i chi am ganolbwyntio fel gwnaethoch chi ar y ganolfan breswyl i fenywod, sy'n gynllun treialu arloesol i ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi gweithio arno gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau ein bod ni wedi cael sefydlu'r cynllun treialu hwn yng Nghymru. Ac mae'n ymwneud â dull gweithredu ataliol ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fynd i mewn iddo. Rwy'n credu i chi groesawu, ac rydym ninnau'n croesawu, y camau pendant a gymerodd Llywodraeth newydd y DU i fynd i'r afael â materion ynglŷn â lle yn ein carchardai, ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar dasglu erbyn hyn sy'n goruchwylio'r dull gweithredu. Ond rwy'n cofio gweld James Timpson, Gweinidog newydd Llywodraeth y DU dros garchardai, parôl a phrawf—ac rydym ni'n croesawu'r swyddogion prawf ychwanegol hynny—ac fe ddywedodd ef mewn gwirionedd mai tri grŵp o bobl sy'n cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol: efallai fod un rhan o dair ohonyn nhw â gwir angen iddyn nhw fod mewn carchar, fe allai un rhan o dair fod mewn mannau eraill gyda dedfrydau cymunedol ataliol, ac mae un rhan o dair heb angen bod mewn carchar o gwbl, ac roedd ef yn dweud mai menywod yw'r rhain gan fwyaf. Ac fe wyddom ni, o'r tro hwnnw y gwnaethom ni ymweld â CEF Parc Eastwood, mai dweud oedd y llywodraethwr fod y rhan fwyaf o'r menywod yn y carchar hwnnw yn ddioddefwyr trais domestig a thlodi eu hunain hefyd ac na ddylen nhw fod wedi cael eu carcharu.
Felly, mae ein canolfan breswyl newydd i ferched yn flaenoriaeth allweddol i lasbrint cyfiawnder menywod, ac fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet baratoi datganiad ar hyn. Rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y ganolfan breswyl i ferched yn flaenoriaeth a'i bod hi'n cael ei symud ymlaen yn gyflym. Fe wyddom ni fod safle wedi cael ei ganfod a bod cyllid wedi cael ei ddarparu. Ac mae hynny am wella bywydau menywod yng Nghymru, oherwydd fe fydd yn darparu llety i fenywod agored i niwed ag anghenion cymhleth a fyddai fel arall yn cael eu dedfrydu i garchar. Ac fe fydd menywod yn gallu aros yn nes adref a chynnal eu cysylltiadau teuluol hanfodol. Mae hynny'n rhan o'r glasbrint ar gyfer glasbrint cyfiawnder menywod, yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno gyda chefnogaeth y pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol, ac, wrth gwrs, Aelodau a Llywodraeth Cymru, wrth fwrw ymlaen yn hyn o beth.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gwerth cymdeithasol a ddarperir gan y sector addysg bellach. Mae adroddiad mis Ebrill ar gyfer ColegauCymru, 'Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru', yn nodi, er bod 12.3 y cant o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach ag hunan-hunaniaeth o fod ag anabledd, mae'r gyfran hon wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd caniatáu amgylchedd cynhwysol i bob oedolyn, gan gynnwys pobl anabl. Er hynny, mae nifer o rieni yn Wrecsam a sir y Fflint wedi cysylltu â mi sydd â'u plant yn oedolion ifanc anabl, ag awtistiaeth, parlys yr ymennydd a syndrom Down, a gwrthodwyd lle i bob un mewn coleg preswyl a ariennir yn y coleg priodol agosaf ar gyfer eu hanghenion nhw ychydig y tu draw i'r ffin yng Ngobowen, yn ystod eu hapeliadau cam 2. Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny.
Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyllid hosbisau plant yng Nghymru, yn dilyn adroddiad mis Mehefin gan elusen Together for Short Lives, sy'n dangos yr angen dybryd am gyllid hirdymor, cynaliadwy a theg ar gyfer hosbisau plant Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y ddau gwestiwn pwysig yna. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno yn llwyr â chi a gyda'r adroddiad hwnnw, fel byddem ninnau bob un sy'n gweld gwerth ein colegau addysg bellach ac effeithiau aruthrol gwerth cymdeithasol addysg bellach, a'r ffyrdd y mae addysg bellach yn estyn allan ac yn gynhwysol ac yn darparu cyfleoedd addysgol i bobl anabl a phobl niwroamrywiol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried yn gyson o ran ein tasglu hawliau anabledd, er enghraifft, y grŵp addysgol sy'n rhan annatod o weithio gyda phobl a dysgwyr anabl. Felly, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y tasglu a'r adroddiad hawliau anabledd, ond yn y gwaith a gefnogir gan yr Ysgrifennydd addysg hefyd.
Ac, wrth gwrs, ie, ynglŷn ag ymgyrch ac adroddiad Together for Short Lives, mae hi'n bwysig ein bod ni â'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran cyflawniad y fenter honno.
Daeth trigolion Caerau yng nghwm Llynfi at ei gilydd ddydd Gwener i drafod ffordd ymlaen i'r trigolion hynny yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal Arbed. Nawr, yn y cyfarfod, fe wnaethon nhw lansio deiseb yn galw am gytundeb teg i'r trigolion hynny. Ond yn y cyfarfod hefyd, roedd yna ymdeimlad amlwg bod trigolion wedi colli pob ffydd yn Warmworks, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Llywodraeth Cymru, y byddai'r mater hwn yn cael ei ddatrys ar ôl mwy na degawd. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Warmworks, i nodi'r camau nesaf i ddatrys y mater hwn, a chael amserlenni eglur hefyd oherwydd, ar hyn o bryd, mae'r diffyg eglurder i breswylwyr yn ddifrifol. Fe gafodd rhai preswylwyr wybod, ddeufis yn ôl, y byddai sgaffaldiau ar eu hadeiladau nhw ymhen pythefnos. Dau fis yn ddiweddarach, nid oes un dim wedi digwydd. Mae rhai yn clywed yr un peth eto. Felly, i fod â rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r mater hwn, mae taer angen am rywfaint o arweinyddiaeth yn hyn o beth oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Diolch i chi am y cwestiwn yna, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n dal ati i godi hyn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nhw sy'n gyfrifol am hyn. Mae hi'n bwysig bod tegwch i drigolion a'u bod nhw'n gallu gweld bod cynnydd wedi bod. Rwy'n eich annog chi i barhau i ymgysylltu â'r awdurdod, o ran y camau nesaf. Ond, yn amlwg, rydych chi wedi dweud hyn ar goedd nawr, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n siŵr, yn ymateb iddo nawr.
Fe hoffwn i gael datganiad ynghylch pam, ar hyn o bryd, mae pob llawdriniaeth wedi cael ei gohirio yn ysbyty Llandudno. Mae'r Gweinidog ei hunan yn gwybod fy mod i wedi brwydro lawer gwaith i gael gwasanaethau yn ôl i ysbyty Llandudno, ac rwy'n falch iawn fod hyn yn digwydd. Er hynny, mae aelodau o staff sy'n gweithio yn Ysbyty Llandudno wedi cysylltu â mi yn pryderu yn fawr nad yw'r lifft wedi bod yn gweithio ers mis Mawrth. Mae hi wedi torri. Ac mae'r cyfan yn ymwneud â'r canolbarth, y dwyrain, a'r ffordd wahanol y mae ysbyty Llandudno, y gwahanol gyfrifoldebau—. Mae hi'n ymddangos mai Ysbyty Glan Clwyd sy'n gyfrifol am drefnu'r gwaith i atgyweirio'r lifft, ac roeddwn i'n meddwl tybed—. Cafodd 17 o lawdriniaethau, dim ond ddydd Gwener, eu canslo ym Mangor, oedd ar restr Llandudno. Felly, mae sefyllfa gennym ni erbyn hyn lle mae staff, o ganlyniad i lifft sydd wedi torri, yn cael eu trosglwyddo i ysbyty Bangor, sy'n ychwanegu mwy o gostau teithio iddyn nhw. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn i chi edrych arno, a rhoi datganiad os yw hynny'n bosibl. Diolch i chi.
Diolch i chi, Janet Finch-Saunders. Wel, rydych chi wedi codi hyn heddiw. Mater i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw hwn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei godi yn uniongyrchol ac yn ffurfiol gyda'r prif weithredwr.
Hoffwn i ofyn am ddau beth cyn diwedd y tymor seneddol presennol—dau beth sydd wedi cael eu haddo ar gyfer cyn y toriad. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor iechyd yn y Senedd yma, mewn adroddiad ar ddeintyddiaeth, wedi galw am sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd. Yn ei hymateb i’r argymhelliad penodol hwnnw, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd addo y byddai hi’n cyhoeddi ei barn ar yr alwad yna cyn y toriad. Felly, a wnewch chi sicrhau y bydd yr ymateb hwn ar gael i Aelodau o’r Senedd cyn dydd Gwener? Diolch yn fawr.
Yn ail, mi gefais i addewid, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Mehefin, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn cyhoeddi manylion llawn y comisiwn asedau cymunedol cyn toriad yr haf, gan gynnwys gwybodaeth am y cylch gorchwyl a’r aelodaeth. Rŵan, dydw i ddim wedi gweld y wybodaeth honno. Efallai ei bod allan yna, ond, yn sicr, dydw i ddim wedi’i gweld. Felly, a oes modd cael y datganiad yma, os gwelwch yn dda, er gwaetha’r ffaith, wrth gwrs, nad oes gennym ni aelod o’r Cabinet efo cyfrifoldeb dros dai ers y bore yma?
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rydych chi wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y datganiad busnes.
O ran ail ysgol ddeintyddol i Gymru, mae'r Ysgrifennydd Cabinet gennych chi yn y fan hon, a oedd yn ymddangos fel pe bai'n cynnig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi erbyn diwedd y sesiwn hwn. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'w ddweud, o ran ail ysgol ddeintyddol i Gymru, yw ei fod yn ymwneud ag ail gyfleuster addysgol, rwy'n deall, yn cynnig y rhaglen israddedig honno. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried o ran cyllid, data a deallusrwydd, ar gyfer llywio a chefnogi unrhyw benderfyniad. Yn amlwg iawn Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw hi ar gyfer Aberystwyth, ond mae Bangor wedi mynegi uchelgais hefyd i ychwanegu ysgol ddeintyddol at yr ysgol feddygol. Felly, mae Aberystwyth yn datblygu; ym Mangor, mae angen i ni ystyried cynigion ar y cyd. Ond fe wn i y gwnewch chi godi'r cwestiwn hwn, ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i ymateb iddo heddiw.
O ran eich ail bwynt, y trosglwyddiad o asedau cymunedol, mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn i'n sicr â rhan ynddo—roedd hwnnw'n faes polisi trawslywodraethol—pan oeddwn i'n Weinidog cyfiawnder cymdeithasol. Rydym ni wedi sefydlu comisiwn i ystyried yr argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae yna grŵp gorchwyl a gorffen. Mae 18 o aelodau ynddo, sy'n gynnwys nifer o grwpiau rhanddeiliaid allweddol: Sefydliad Plunkett, Un Llais Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chymdeithas Dai Barcud. Bydd gweithdai ymchwil annibynnol a rhanddeiliaid yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd. Fe fyddwn ni'n cynhyrchu datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth i chi, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â datblygiad hyn. Ond, yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed bod y grŵp gorchwyl a gorffen hwn ar y gweill, ac fe fydd yn rhaid iddo lunio ei argymhellion i Lywodraeth Cymru yng ngwanwyn 2025.
Trefnydd, fe hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar ba gynlluniau allai fod gan eich Llywodraeth chi neu beidio ar gyfer cryfhau hawliau mynediad, cynyddu buddsoddiad a gwella'r cynnig yn gyffredinol i gerddwyr yng Nghymru. Aeth dros 10 mlynedd heibio erbyn hyn ers i Weinidog Llywodraeth Lafur gyhoeddi adolygiad o ddeddfwriaeth mynediad ar gyfer, ac rwy'n dyfynnu,
'sicrhau gwell mynediad i'r awyr agored ar gyfer hamdden, moderneiddio a symleiddio'r fframwaith rheoleiddio cyfredol, a darparu eglurder a sicrwydd ynghylch i ble y gall pobl fynd a beth y gallan nhw ei wneud yno.'
Yn anffodus, er gwaethaf sawl ymgynghoriad ac ymgynnull grwpiau arbenigol eang, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod ar ddiwygiadau.
O ran hawliau tramwy hefyd, mae grant gwella mynediad Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwelliannau, ond nid yw'r cyllid yn gymesur â'r manteision o ran llesiant neu'r economi a geir yn sgil ein rhwydweithiau tir a llwybrau ar gyfer mynediad. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n cynnig math o gyllid sy'n deg, a fyddai'n dod â buddsoddiad yn fwy unol â'r hyn sydd eisoes yn cael ei wario ar lwybrau teithio llesol? Diolch.
Diolch i chi, Peredur. Rydych chi'n codi mater pwysig iawn o ran gwireddu hyn, nid dim ond bod â dyhead neu bolisi ar sail gyfreithiol hyd yn oed. Mae angen i ni sicrhau bod y gorchmynion mynediad hyn yn cael eu hwyluso, ac mae hynny'n golygu cyllido, arweinyddiaeth a gweithredu mewn partneriaeth. Yn sicr, fe fyddwn ni'n codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Diolch i'r Trefnydd.
Fe gefais fy nghyfareddu gan yr hyn a fynegwyd ar wyneb yr Ysgrifennydd Iechyd wrth ymateb i'r nifer o geisiadau a fu am ddatganiadau iechyd y prynhawn yma, a bodiau i fyny ac i lawr. Roedd hynny'n gwneud i mi feddwl, 'Tybed a allai'r Cofnod swyddogol gynnwys emojis yn rhan o'i gofnodi swyddogol o'r hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hyn.' Beth bynnag am hynny, ymlaen â ni.