12. Cyfnod Pleidleisio

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 16 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:19, 16 Gorffennaf 2024

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.