– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
Mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 7.
Dirprwy Lywydd, pwynt o drefn. Mae'n ymddangos bod Aelod mewn car ar y sgrin.
Darren—[Torri ar draws.] A allaf gael tawelwch os gwelwch yn dda? Ni ddisgwylir bod Aelodau'n symud o un lle i'r llall pan fyddan nhw'n pleidleisio a'r canllawiau yw na ddylen nhw fod, ond nid yw'n cael ei wahardd, yn anffodus. Felly, ar yr achlysur hwn, byddwn yn ei dderbyn, ond a gaf i atgoffa'r holl Aelodau, o ba bynnag blaid, na ddylech chi fod mewn cerbydau pan fyddwch chi'n pleidleisio yn y dyfodol? Fe ddylech chi naill ai fod yn eich swyddfa, eich cartref neu rywle arall sy'n lle sefydlog.
Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Nesaf mae'r bleidlais ar eitem 10, Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 11, y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y Bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae canlyniad y bleidlais yn gyfartal, felly fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.