11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru — Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 16 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:04, 16 Gorffennaf 2024

Mae rhagair yr adroddiad yma yn dweud bod agenda'r Llywodraeth, beth bynnag sydd ar ôl ohoni, gyda ffocws di-baid ar gyflawni. Mae hyn yn uchelgais canmoladwy, ond mae'n rhaid i'r cyflawni fod yn seiliedig ar ganlyniadau diriaethol, nid proses benagored yn unig. Mae angen pen draw clir i'r daith, efo'r camau wedi cael eu harwyddo'n glir ar hyd y ffordd, yn hytrach na'r drefn bresennol o adael i'r daith fod yn gwbl ddigyfeiriad. Yn anffodus, mae'r adroddiad yma'n dangos diffyg cyfeiriad llwyr, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, ble mae'r Llywodraeth prin wedi goroesi, ac yn canolbwyntio ar fethiannau mewnol yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru. Mae cynifer o’r llwyddiannau sy’n cael eu rhestru pan fo’n dod at iechyd yn ddim mwy na disgrifiadau o weithredoedd y Llywodraeth, yn hytrach na chanlyniadau.