Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
I droi at flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, mae'r syniad yma o reoli dirywiad—managed decline—wedi diffinio agwedd Llywodraethau Cymru, dwi'n meddwl, ers yn llawer rhy hir, a does prin ddim yn y rhaglen ddeddfwriaethol gafodd ei chyhoeddi'r wythnos ddiwethaf i awgrymu bod hynny ar fin newid. Yn sgil y penderfyniad hynod siomedig i ohirio adolygu'r dreth gyngor tan 2028, mi fydd miloedd o gartrefi, rydyn ni'n gwybod, yn parhau i gael eu cosbi gan system annheg am o leiaf bedair blynedd arall. Does yna ddim angen aros am ddeddfwriaeth i fwrw ymlaen efo sawl mesur fyddai o fudd i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Am y tro cyntaf ers 14 blynedd, wedi'r cyfan, mae'r Llywodraeth Lafur yma—mor ansicr ag ydy'r Llywodraeth ar y pwynt yma mewn amser—yn y sefyllfa o gael yr hyn maen nhw wedi bod eisiau ac yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn Llywodraeth gyfeillgar yn San Steffan. Ac mi ddylai'r Prif Weinidog, cyn iddo fo gamu i lawr yn ffurfiol, godi'r ffôn dro ar ôl tro, os oes angen, i Syr Keir Starmer i bwysleisio'r modd y gallai cyfran deg o arian HS2 drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Dwi'n galw arno fo hefyd i wneud yr achos dros gael gwared ar yr hen fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein cenedl ni'n cael ei chyllido ar sail angen, nid poblogaeth. Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn cynnig gwelliant i Araith y Brenin yn mynnu'r newid sylfaenol hwnnw yn y modd mae Cymru yn cael ei chyllido. A dwi'n annog y Prif Weinidog, ar ôl treulio misoedd yn brolio'r buddiannau fyddai Cymru yn eu mwynhau efo Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, i fynnu'r pwerau yna dros Ystâd y Goron a thros gyfiawnder a phlismona, sydd yn nwylo Llywodraeth yr Alban ers blynyddoedd bellach. Rydyn ni angen Llywodraeth sy'n brwydro dros Gymru, nid un sydd yn plygu i'r drefn newydd, dro ar ôl tro, yn San Steffan.
Ac i gloi, er gwaethaf ei heriau personol o yn y swydd a'r cyhoeddiad heddiw, pe bai'r Prif Weinidog yn llwyddo i ddarbwyllo Keir Starmer ar y materion yma yn ei fisoedd olaf yn y swydd, fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y byddai'n gadael y swydd efo gwaddol gwirioneddol i Gymru.