– Senedd Cymru am ar 16 Gorffennaf 2024.
Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru—cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet sy'n gwneud y cynnig yma. Rebecca Evans.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd yr ydym ni'n parhau i'w wneud tuag at gyflawni ein rhaglen lywodraethu. Unwaith eto mae wedi bod yn flwyddyn llawn heriau a dewisiadau anodd. Rydym ni wedi parhau i wynebu pwysau economaidd a chyllidebol dros gyfnod hir mewn argyfwng costau byw digynsail. Gwaethygwyd y pwysau ariannol yma gan y rhyfel parhaus yn Wcráin, ac rydym ni'n dal i fyw gyda chanlyniadau dinistriol cyllideb Truss a bentyrrodd pwysau ychwanegol ar gyllidebau cartrefi a gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, cai Cymru ei thanbrisio a'i thanariannu'n barhaus gan y Torïaid. Ar sail gyfatebol, roedd ein setliad yn 2023-24 yn werth hyd at £700 miliwn yn llai mewn termau real. Mae hyn i gyd wedi cael canlyniadau uniongyrchol ac anochel ar gyfer cyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni'n hynod falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn y Senedd hon, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi a chyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaeth Mark Drakeford fel Prif Weinidog yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol hwn a thrwy gydol ei gyfnod yn Brif Weinidog. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Blaid Cymru am y gwaith a wnaethom ni gyda'n gilydd fel rhan o'n cytundeb cydweithio, ac fe wnaethom ni gyflawni llawer iawn i bobl Cymru. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n ceisio gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i fwy o bobl. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan fel partneriaid gwirioneddol, gan symud ymlaen dan arweiniad ein cyd-ddyheadau.
Rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf fu blaenoriaeth pob Llywodraeth Lafur Cymru ers dechrau datganoli, a dyna fydd hi bob amser. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn ein rhaglen lywodraethu, er gwaethaf yr holl heriau a'r rhwystrau yr ydym ni wedi'u hwynebu. Rydym ni wedi buddsoddi £425 miliwn ychwanegol yn y GIG yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i wneud cynnydd cyson ar ein blaenoriaeth allweddol o leihau amseroedd aros. Mae ein perfformiad o ran canser hefyd y gorau y bu ers dwy flynedd, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r maes allweddol hwn am weddill tymor y Senedd hon. Credwn mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus, gyda gweithlu sector cyhoeddus, ac rydym ni wedi parhau â'n buddsoddiad yn y GIG. Rydym ni wedi darparu o ran y gweithlu, gan ddarparu atebion tymor byr a thymor hirach i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Roedd ein cytundeb gyda Llywodraeth Kerala ym mis Mawrth 2024 yn fodd o ddarparu 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol i gryfhau ein GIG ar unwaith. Yn nes at adref, bydd ein hysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru yn cefnogi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i Fangor ym mis Medi. Rydym ni wedi gweithredu amrywiaeth o newidiadau radical i ofal sylfaenol, gan gynnwys diwygio contractau deintyddion y GIG, galluogi 140,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs llawn o driniaeth ddeintyddol, a lleihau'r dagfa 8 y bore mewn meddygfeydd. Rydym ni hefyd yn darparu mwy o wasanaethau lle mae eu hangen fwyaf, yn ein hoptegwyr ar y stryd fawr a fferyllfeydd cymunedol, drwy'r cynllun anhwylderau cyffredin.
Wrth gwrs, afraid dweud bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal GIG Cymru fel un rhad ac am ddim pan fo ar bobl ei angen. Fel y dywedodd Nye Bevan yn 1948,
'nid oes gan unrhyw gymdeithas yr hawl i'w galw ei hun yn waraidd os gwrthodir cymorth meddygol i berson sâl oherwydd diffyg modd.'
Mae'r Llywodraeth hon hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol mil diwrnod cyntaf plentyn i'w ganlyniadau bywyd tymor hir. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff pob plentyn yng Nghymru y cyfleoedd gorau i lwyddo, waeth ble maen nhw'n byw, eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Rwy'n falch ein bod ni wedi cynnig dros 6,900 o leoedd ychwanegol i rieni trwy Dechrau'n Deg. Mae hyn yn golygu y gall mwy o blant dwy oed ledled y wlad nag erioed o'r blaen gael y gefnogaeth i'w helpu i ffynnu a thyfu. Fe wnaethom ni barhau i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, gan ddarparu gofal plant am ddim i fwy o deuluoedd, gyda 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig yn ystod 2023-24. Daeth cant a phum deg pedwar mil o ddysgwyr ychwanegol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Mawrth 2024, ac mae'r ddarpariaeth bellach wedi'i chyflwyno'n llawn mewn 19 o'n 22 awdurdod, ymhell cyn ein targed ym mis Medi 2024, gyda'r tri awdurdod sy'n weddill hefyd yn gwneud gwaith gwych yn hynny o beth.
Rydym ni i gyd wedi gorfod byw gyda'r anhrefn a achoswyd gan gamgymeriadau economaidd a chamreoli llywodraethau Torïaidd olynol y DU. Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn blaenoriaethu gweithwyr a busnesau Cymru ac yn gweithio i gefnogi economi gryfach sy'n addas at y dyfodol i ddarparu swyddi mwy gwyrdd a gwaith teg. Fe wnaethom ni gefnogi KLA, cwmni o'r Unol Daleithiau sy'n gwneud offer lled-ddargludyddion, i ddod â'i bencadlys a'i ganolfan ymchwil a datblygu offer newydd i Gymru, a fydd yn cyflogi tua 750 o bobl pan fydd wedi'i gwblhau. Mae ein gwarant flaenllaw i bobl ifanc yn parhau i uwchsgilio a chefnogi pobl ifanc dan 25 oed, gyda dros 30,000 o bobl yn cofrestru mewn rhaglenni sgiliau. Rydym ni hefyd wedi darparu 51,000 o brentisiaethau pob oed ers mis Mai 2021.
Mae'r argyfwng hinsawdd yn fygythiad difrifol i'n cenedl ac un sy'n dod yn gynyddol agosach, a dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori ein hymateb i newid hinsawdd ym mhopeth a wnawn. Rydym ni wedi buddsoddi £100 miliwn mewn gwelliannau trafnidiaeth lleol, a fydd yn annog dulliau teithio mwy cynaliadwy, carbon isel, ac rydym ni wedi cefnogi prosiectau a fydd yn defnyddio grym ein llanw. Rwyf hefyd yn hynod falch bod Cymru'n parhau i fod yn genedl flaenllaw mewn ailgylchu. Eleni, roeddem yn ail yn y byd ar gyfer ailgylchu trefol ac rydym yn parhau i arloesi, gan arwain y ffordd gydag arbrawf cyntaf y byd o gynllun dychwelyd blaendal digidol ar gyfer poteli plastig a chaniau diodydd.
Mae arnom ni eisiau i Gymru fod yn lle croesawgar, lle gall pawb deimlo'n falch o'i alw'n gartref, a lle gall pawb deimlo'n ddiogel ac y cânt eu gwerthfawrogi. Mae arnom ni eisiau i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn gwybod bod croeso iddyn nhw a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod nhw'n perthyn, a dyna pam rydym ni wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ni dynnu sylw at rai o'i gyflawniadau, gan gynnwys lansio cynllun grant diwylliant ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad sy'n grymuso cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Fe wnaethom ni hefyd ddarparu £390,000 o gyllid i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, gan sicrhau y gall bawb sydd wedi dioddef elwa ar gefnogaeth ac eiriolaeth benodol yn wyneb troseddau casineb. Ynghyd â gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel yng Nghymru, rydym ni wedi darparu £210 miliwn o gyllid i ddarparu llety dros dro i fwy na 17,500 o bobl i atal a chefnogi'r rhai sy'n wynebu digartrefedd.
Fe wnaethom ni fyfyrio ar rai o gyflawniadau deddfwriaethol y Llywodraeth hon yn natganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Bydd y Biliau rydym ni wedi'u cyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn gwneud newidiadau cadarnhaol i ddemocratiaeth yng Nghymru ac yn cynnwys Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), y cytunodd yr Aelodau arnyn nhw yng Nghyfnod 4 yr wythnos diwethaf. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno Biliau sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor Cymru. Bydd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) 2024 yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a bydd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni ein targedau ynni adnewyddadwy, gan symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, tra bydd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 yn cyflwyno trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau'r GIG i ddiwallu anghenion y sector pwysig hwn.
Rwy'n gobeithio y prynhawn yma fy mod i wedi llwyddo i gyfleu rhai o lwyddiannau niferus Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n tynnu sylw at yr hyn sy'n bosibl i Gymru ei gyflawni, er gwaethaf trobwll ariannol ac economaidd a luniwyd gan Lywodraeth San Steffan di-glem a di-ddeall. Am y tro cyntaf ers bron i genhedlaeth, mae cyfle nawr i weithio'n agos gyda Llywodraeth yn y DU sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n delfrydau. Mae pedair blynedd ar ddeg o anhrefn Torïaidd wedi gadael eu hôl ar bob un ohonom ni, a bydd yr heriau sy'n ein hwynebu yn parhau, ond credaf y gallwn ni eu goresgyn.
Ein blaenoriaeth fel Llywodraeth yw parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'n cymunedau a chydweithio â'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth o ddyfodol mwy disglair. Ac rwy'n credu y gallwn ni edrych i'r dyfodol hwnnw gydag optimistiaeth newydd i ddarparu Cymru werddach, garedicach a thecach.
Sam Rowlands i gynnig gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar sydd o'n blaenau heddiw, a diolch i Rebecca Evans—
Sori, Sam. Gwelliant 2.
Roeddwn i'n credu mai dyna oedd e, Dirprwy Lywydd. Doedd arna i ddim eisiau eich amau am eiliad yn y fan yna, ond diolch.
Holwch fi bob amser. [Chwerthin.]
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) y diffyg cynnydd digonol o ran lleihau amseroedd aros y GIG a gwella perfformiad adrannau brys;
b) y canlyniadau addysg PISA diweddar sy'n dangos dirywiad mewn canlyniadau addysgol yng Nghymru; ac
c) bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU.
Yn datgan nad yw'n credu bod Rhaglen Ddeddfwriaethol nac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o sylw i'r heriau allweddol hyn.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu clir i:
a) gwella perfformiad y GIG;
b) gwella canlyniadau addysgol; ac
c) gwella incwm yng Nghymru.
Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar a diolch i Rebecca Evans am sefyll yn lle'r Prif Weinidog heddiw, i sôn am yr adroddiad o'n blaenau. Mae'n dipyn o ddiwrnod i drafod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, mae'n ymddangos mai blaenoriaeth ddiweddaraf Llafur Cymru oedd rhoi cyllyll yng ngefnau ei gilydd a checru mewnol yn hytrach na chyflawni ar ran pobl Cymru. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, wrth dynnu sylw at y nifer o bethau da sy'n digwydd i bob golwg ledled Cymru, yn anffodus yn ceisio gwyngalchu ac anwybyddu llawer o'r materion y mae pobl Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i Lywodraeth Cymru luddedig sydd wedi bod mewn grym am lawer rhy hir. Mae'n rhaid i ni obeithio y bydd 2026 yn dod â newid, gan fod ar bobl Cymru wir angen y newid hwnnw.
Maen nhw'n wynebu amseroedd aros uchaf y GIG ar gofnod a'r pecynnau cyflog isaf yn y DU. Maen nhw'n wynebu'r canlyniadau addysg gwaethaf ac amseroedd aros hir ddihenydd am ambiwlans. Pan edrychwn ni ar y metrigau sylweddol hyn, mae'n amlwg bod Cymru'n cael ei dal yn ôl gan Lywodraeth Lafur Caerdydd. Bydd unrhyw Lywodraeth sy'n werth ei halen yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wyrdroi'r ystadegau truenus hynny, tra bod iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, materion gwledig—mae'r rhestr yn hirfaith o feysydd polisi sydd wedi cael eu hanwybyddu oherwydd bod Gweinidogion Llafur yn canolbwyntio'n ormodol arnyn nhw eu hunain a'u seicoddrama yma.
Er fy mod i bob amser yn cydnabod yr ymdrechion anhygoel a wnaed gan gynifer yn ein gwasanaeth iechyd, fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid, mae preswylwyr, gweithwyr iechyd, elusennau a sefydliadau eraill yn cysylltu â mi yn rhy aml o lawer ynghylch y profiad gwael y mae gormod o bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli yn ei wynebu. Mae pobl sâl yn dihoeni ar restrau aros neu'n aros yn hirfaith am ambiwlans ar ôl iddyn nhw ddioddef cwymp ofnadwy. Mae meddygon, nyrsys ac eraill yn gweithredu mewn ysbytai sy'n dadfeilio, ac nid ydynt yn cael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu ar gyfer cleifion. Pwyslais manwl ar y materion hyn ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru.
Yn wir, soniodd y Gweinidog am roi'r cyfle gorau posibl i blant yn ei sylwadau agoriadol, ond, yn anffodus, maen nhw'n gwneud penderfyniadau sy'n rhoi cyfleoedd hyd yn oed yn waeth i blant, yn enwedig o ran addysg. Mae ymchwil y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos bod perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai'n uwch neu'n debyg i'r cyfartaledd o ran pob plentyn yng Nghymru. Felly, os ydych chi'n blentyn difreintiedig yn Lloegr, mae'n debyg y byddwch chi'n gwneud yn well na'r plentyn cyffredin yma yng Nghymru. Mae'r diolch am hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r camreoli gan Lafur yma ym Mae Caerdydd, gan gynnwys tanariannu cronig a gweithrediad gwael o gwricwlwm arbrofol sy'n gwrthod blaenoriaethu trylwyredd academaidd.
Felly, nid yn unig y caiff plant yma eu siomi, ond mae Llafur wedi llywyddu dros sefyllfa hanesyddol o golli'n pobl ddisgleiriaf. Mae cymaint o bobl ddawnus yng Nghymru, ond mae llawer o bobl ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond gadael y wlad. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen ei newid. Pan edrychwch chi ar yr economi, nid yw'n anodd gweld pam mae pobl ddisglair yn gadael. Dan Lywodraeth Cymru cafwyd y cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r pecynnau cyflog lleiaf. Ynghyd â'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain, mae'r Llywodraeth hon wedi rhwystro potensial pobl Cymru ac yn dal ein gwlad yn ôl.
Nawr, efallai y bydd Prif Weinidog newydd—efallai Rebecca Evans, sy'n sefyll yn ei le yma heddiw—yn newid cyfeiriad, ond, yn anffodus, rwy'n amau hynny, oherwydd mae pawb yn y grŵp Llafur wedi cefnogi'r uniongrededd aflwyddiannus hwn sydd wedi dal pobl Cymru yn ôl am lawer rhy hir. Maen nhw i gyd yn gyfrifol. Felly, rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw, a fydd yn dechrau'r broses o adfywio gwasanaethau cyhoeddus Cymru a rhoi'r arweinyddiaeth y mae'n ei haeddu i Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Ymddiheuraf am y drefn anghywir.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ddiffyg targedau clir ac adrodd mesuradwy ar ganlyniadau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu:
a) rhagor o wybodaeth am sut y mae'n mesur cynnydd ar ei rhaglen ddeddfwriaethol; a
b) asesiad o sut mae'n gwneud cynnydd yn erbyn y mesurau hyn.
Dwi'n maddau i’r Dirprwy Lywydd. Dwi’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r adroddiad blynyddol yma. Mi wnaf i ddechrau yn bositif, ar ddiwrnod lle mae hynny’n gallu teimlo yn anodd, a dweud bod yna sawl fflach bositif yma yn yr adroddiad blynyddol, a hynny diolch i waddol y cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru. Rydyn ni’n croesawu’r bron i £60 miliwn sydd wedi ei neilltuo er mwyn darparu prydau ysgol am ddim, er enghraifft, i bob disgybl cynradd yng Nghymru, ac felly hefyd y ffaith bod y criw cyntaf o fyfyrwyr yn dechrau astudio yn ysgol feddygol y gogledd fis Medi—un arall o weledigaethau Plaid Cymru a wnaeth, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, o'r diwedd ddal dychymyg y Llywodraeth.
Ond, ar y cyfan, dwi'n gresynu, unwaith eto yn fan hyn, at y cyfleon sydd wedi eu colli, ac mae hon yn dod i gael ei hadnabod fel Llywodraeth sy'n cael ei chysylltu â'r hyn nad ydy hi'n ei gyflawni, yn hytrach na'r hyn mae yn ei gyflawni. Ac, efo'r rhestrau aros yn yr NHS efo'r hiraf yn y Deyrnas Gyfunol, cwymp mewn safonau addysg, traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi, mi fyddai'n deg disgwyl i'r Llywodraeth Lafur fod yn benderfynol o ganolbwyntio'n llwyr ar wynebu'r heriau hynny. Ond, yn anffodus, mae'n dangos diffyg difrifoldeb o ran angen mynd i'r afael â'r problemau yna yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn dangos, drwy hynny, dwi'n meddwl, diffyg parch at ddisgwyliadau pobl Cymru sydd wedi ethol y Llywodraeth i gyflawni drostyn nhw.
Dyma ddyfyniad o'r adroddiad blynyddol, sy'n dweud llawer wrthych am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei gyflawni:
'byddwn yn rhannu ein cynlluniau a’n cynnydd drwy ddulliau sy’n defnyddio llai o adnoddau fel y gallwn ganolbwyntio’n barhaus ar gyflawni’n ymarferol'.
Mae'n frawddeg eithaf dadlennol, rwy'n credu, mewn gwirionedd, sy'n dangos nad yw'r Llywodraeth hon yn dangos y difrifoldeb y dylem ei ddisgwyl o ran mesur a monitro perfformiad gydag unrhyw drylwyredd gwirioneddol, a dyna'r hyn rydym yn cyfeirio ato yn ein gwelliant heddiw. Allwch chi ddim disgwyl, mae'n debyg, i ddogfen naw tudalen nodi'r cyfan sydd wedi digwydd yn ystod 12 mis diwethaf gweinyddiaeth, ond rwy'n synhwyro bod yna rywfaint o sinigiaeth yn y dull dethol sydd wedi'i ddefnyddio o ran yr hyn sydd, nid yn unig wedi'i gynnwys yn yr adroddiad blynyddol hwn, ond yr hyn sydd wedi'i eithrio ohono, a does unman lle mae hyn yn fwy amlwg, rhaid i mi ddweud, na'r defnydd o un ystadegyn dethol i roi'r argraff ei bod yn mynd i'r afael yn llwyddiannus â'r rhestrau aros uchaf erioed, pan fo'r holl dystiolaeth yn awgrymu fel arall.
I droi at flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, mae'r syniad yma o reoli dirywiad—managed decline—wedi diffinio agwedd Llywodraethau Cymru, dwi'n meddwl, ers yn llawer rhy hir, a does prin ddim yn y rhaglen ddeddfwriaethol gafodd ei chyhoeddi'r wythnos ddiwethaf i awgrymu bod hynny ar fin newid. Yn sgil y penderfyniad hynod siomedig i ohirio adolygu'r dreth gyngor tan 2028, mi fydd miloedd o gartrefi, rydyn ni'n gwybod, yn parhau i gael eu cosbi gan system annheg am o leiaf bedair blynedd arall. Does yna ddim angen aros am ddeddfwriaeth i fwrw ymlaen efo sawl mesur fyddai o fudd i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Am y tro cyntaf ers 14 blynedd, wedi'r cyfan, mae'r Llywodraeth Lafur yma—mor ansicr ag ydy'r Llywodraeth ar y pwynt yma mewn amser—yn y sefyllfa o gael yr hyn maen nhw wedi bod eisiau ac yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn Llywodraeth gyfeillgar yn San Steffan. Ac mi ddylai'r Prif Weinidog, cyn iddo fo gamu i lawr yn ffurfiol, godi'r ffôn dro ar ôl tro, os oes angen, i Syr Keir Starmer i bwysleisio'r modd y gallai cyfran deg o arian HS2 drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Dwi'n galw arno fo hefyd i wneud yr achos dros gael gwared ar yr hen fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein cenedl ni'n cael ei chyllido ar sail angen, nid poblogaeth. Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn cynnig gwelliant i Araith y Brenin yn mynnu'r newid sylfaenol hwnnw yn y modd mae Cymru yn cael ei chyllido. A dwi'n annog y Prif Weinidog, ar ôl treulio misoedd yn brolio'r buddiannau fyddai Cymru yn eu mwynhau efo Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, i fynnu'r pwerau yna dros Ystâd y Goron a thros gyfiawnder a phlismona, sydd yn nwylo Llywodraeth yr Alban ers blynyddoedd bellach. Rydyn ni angen Llywodraeth sy'n brwydro dros Gymru, nid un sydd yn plygu i'r drefn newydd, dro ar ôl tro, yn San Steffan.
Ac i gloi, er gwaethaf ei heriau personol o yn y swydd a'r cyhoeddiad heddiw, pe bai'r Prif Weinidog yn llwyddo i ddarbwyllo Keir Starmer ar y materion yma yn ei fisoedd olaf yn y swydd, fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y byddai'n gadael y swydd efo gwaddol gwirioneddol i Gymru.
Mae rhagair yr adroddiad yma yn dweud bod agenda'r Llywodraeth, beth bynnag sydd ar ôl ohoni, gyda ffocws di-baid ar gyflawni. Mae hyn yn uchelgais canmoladwy, ond mae'n rhaid i'r cyflawni fod yn seiliedig ar ganlyniadau diriaethol, nid proses benagored yn unig. Mae angen pen draw clir i'r daith, efo'r camau wedi cael eu harwyddo'n glir ar hyd y ffordd, yn hytrach na'r drefn bresennol o adael i'r daith fod yn gwbl ddigyfeiriad. Yn anffodus, mae'r adroddiad yma'n dangos diffyg cyfeiriad llwyr, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, ble mae'r Llywodraeth prin wedi goroesi, ac yn canolbwyntio ar fethiannau mewnol yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru. Mae cynifer o’r llwyddiannau sy’n cael eu rhestru pan fo’n dod at iechyd yn ddim mwy na disgrifiadau o weithredoedd y Llywodraeth, yn hytrach na chanlyniadau.
Er enghraifft, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod y gwasanaeth 111 ar gyfer iechyd meddwl brys yn cael ei ddefnyddio gan 80,000 o bobl erbyn hyn, ond nid yw'n sôn am sut mae hyn yn cael ei drosi'n ganlyniadau iechyd meddwl gwell i'r defnyddwyr. Yn yr un modd, mae'r cynllun Helpwch ni i'ch helpu chi yn cael ei fframio o ran ei gwmpas, yn hytrach na'i effaith ar leihau'r pwysau ar adrannau brys. Nid yw'r defnydd a wneir o wasanaethau, er mor bwysiced ydyw, yn fesur o lwyddiant ynddo'i hun. Mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi gallu mynegi'n glir ble a sut mae ei rhaglen yn gwneud gwahaniaeth yn dweud cyfrolau yn hyn o beth.
Mae arfarniad dethol iawn yr adroddiad o berfformiad presennol y GIG yng Nghymru hefyd yn tanlinellu gwrthwynebiad pryderus ar ran y Llywodraeth hon i fod yn agored am raddfa'r problemau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd. Er enghraifft, mae'r adran ar arosiadau dwy flynedd yn seiliedig ar amserlen benodol iawn ac yn cuddio'r ffaith bod arosiadau dwy flynedd am driniaeth ar gynnydd unwaith eto. Heb sôn am y ffaith bod targed y Llywodraeth ei hun i ddileu arosiadau o'r fath yn gyfan gwbl wedi'i fethu bron i flwyddyn a hanner yn ôl.
Yn y cyfamser, mae'r ganmoliaeth o ran perfformiad canser yn swnio braidd yn wag pan ystyriwch nad yw bron i hanner y cleifion canser yng Nghymru yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn pryd. Ar ben hynny, mae recriwtio 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala yn ddiferyn yn y môr o'i gymharu â'r bylchau amlwg ar draws y gweithlu, yn enwedig mewn meysydd fel nyrsio, gwasanaethau meddygon teulu ac oncoleg. Yn wir, mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn gorfod defnyddio personél gwasanaethau iechyd y tu allan i Gymru yn adlewyrchu'n wael ar y strategaethau cadw presennol.
Ar ôl dod i'w swydd yn gynharach y mis hwn, defnyddiodd Gweinidog iechyd newydd y DU ei ddatganiad cyntaf un i ddatgan bod y GIG yn Lloegr wedi torri, a dilynodd hyn trwy gomisiynu adolygiad Darzi i'w berfformiad. Byddai hyd yn oed y ffordd fwyaf creadigol o fframio'r ystadegau yn ei chael hi'n anodd dangos bod y GIG yng Nghymru mewn cyflwr gwell na'i gymheiriad dros y ffin, ac, o ran sawl metrig, mae'r sefyllfa yma yn llawer gwaeth. Felly, a wnaiff y Llywodraeth hon ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â wynebu'r heriau dirfodol i'n system iechyd drwy gomisiynu ymchwiliad annibynnol cynhwysfawr i'r GIG yng Nghymru?
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac yn falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth gyflawni ein rhaglen lywodraethu a'n rhaglen ddeddfwriaethol, er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd. Er fy mod i'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan arweinydd Plaid Cymru am y cynnydd rydym wedi'i wneud mewn ystod eang o feysydd, rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant cyntaf gan Blaid Cymru.
Mae ein hadroddiad blynyddol wedi'i strwythuro'n glir o amgylch y 10 amcan llesiant, ac mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym wedi'i wneud yn erbyn yr ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Rydym hefyd yn gwrthwynebu'r ail welliant, gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu'n uniongyrchol y cynnydd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud mewn meysydd fel perfformiad y GIG, deilliannau addysg ac incwm ledled Cymru, o fewn fframwaith yr amcanion llesiant.
Mae trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon yn dangos sut mae'r Llywodraeth hon wedi parhau i gyflawni yn erbyn ein hamcanion llesiant, er gwaethaf yr heriau parhaus rydym wedi'u hwynebu. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi'i gyflawni, ac rwy'n gadarnhaol ac yn optimistaidd ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni wrth symud ymlaen. Roedd datganiad yr wythnos diwethaf yn nodi ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi'r cynnydd sylweddol rydym wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn gosod y naws ar gyfer cyflawni ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.
Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym yn buddsoddi £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig a lleihau'r ôl-groniad. Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth ac yn her. Diolch i waith caled ac ymroddiad y GIG, mae arosiadau hir wedi gostwng 70 y cant ers mis Mawrth 2022. Ond mae gennym fwy o waith i'w wneud o hyd.
Cyfeiriodd cyd-Aelodau at amseroedd aros canser. Er i ni weld y nifer uchaf erioed o atgyfeiriadau newydd ar gyfer amheuaeth o ganser yn 2023—dros 192,000—gwelwyd y nifer uchaf erioed o bobl yn dechrau triniaeth canser hefyd—roedd hynny'n fwy na 21,000, ac mae hyn yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Ar gyfartaledd bob mis, mae 11,000 o bobl yn defnyddio canolfannau gofal sylfaenol brys, ond mae 85 y cant o'r achosion hynny'n cael eu rheoli heb fod angen defnyddio adran frys. Mae mwy na 7,500 o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod bob mis, ac mae bron i 80 y cant o bobl yn cael eu rhyddhau adref ar yr un diwrnod. Bu gostyngiad yn yr amser y mae'n rhaid i gleifion aros yn yr ysbyty ar gyfartaledd dros y flwyddyn galendr, o 8.5 diwrnod i 7 diwrnod. Ac, yn 2023-24, y flwyddyn ffurfiol gyntaf o adrodd, gwelwyd gostyngiad o tua 5 y cant yn y nifer a oedd wedi profi oedi o ran llwybrau gofal. Yn 2023-24, mae gostyngiad o 40.5 y cant wedi bod yn y nifer sy'n aros am becynnau gofal ailalluogi, sy'n dangos gwelliant mewn capasiti o fewn gwasanaethau cymunedol. Felly, mae cynnydd da yn cael ei wneud ym mhob un o'r meysydd pwysig hynny.
Mae'r Ceidwadwyr yn siarad am PISA, ond maen nhw'n gwybod yn iawn bod y profion hyn wedi cael eu cymryd pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal i gael eu teimlo, a dydy Cymru ddim ar ei phen ei hun yn hyn o beth—fe welodd pob un wlad ddirywiad. A byddai Aelodau, gobeithio, yn cydnabod, cyn y pandemig, mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gwelliannau ym mhob un—llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Rydym yn cydnabod bod y gwelliant hwn wedi cael ei fwrw oddi ar y cledrau, a dyna'n union pam rydym wedi rhoi nifer o bolisïau ar waith yn benodol i gefnogi gwell safonau mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg. Dirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i barhau i gyflawni dros bobl a chymunedau Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1, a gynigiwyd gan Rhun ap Iorwerth? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]
Iawn, fe wnawn ni ganu'r gloch. Pum munud.