Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd yr ydym ni'n parhau i'w wneud tuag at gyflawni ein rhaglen lywodraethu. Unwaith eto mae wedi bod yn flwyddyn llawn heriau a dewisiadau anodd. Rydym ni wedi parhau i wynebu pwysau economaidd a chyllidebol dros gyfnod hir mewn argyfwng costau byw digynsail. Gwaethygwyd y pwysau ariannol yma gan y rhyfel parhaus yn Wcráin, ac rydym ni'n dal i fyw gyda chanlyniadau dinistriol cyllideb Truss a bentyrrodd pwysau ychwanegol ar gyllidebau cartrefi a gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, cai Cymru ei thanbrisio a'i thanariannu'n barhaus gan y Torïaid. Ar sail gyfatebol, roedd ein setliad yn 2023-24 yn werth hyd at £700 miliwn yn llai mewn termau real. Mae hyn i gyd wedi cael canlyniadau uniongyrchol ac anochel ar gyfer cyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni'n hynod falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn y Senedd hon, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi a chyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaeth Mark Drakeford fel Prif Weinidog yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol hwn a thrwy gydol ei gyfnod yn Brif Weinidog. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Blaid Cymru am y gwaith a wnaethom ni gyda'n gilydd fel rhan o'n cytundeb cydweithio, ac fe wnaethom ni gyflawni llawer iawn i bobl Cymru. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n ceisio gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i fwy o bobl. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan fel partneriaid gwirioneddol, gan symud ymlaen dan arweiniad ein cyd-ddyheadau.
Rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf fu blaenoriaeth pob Llywodraeth Lafur Cymru ers dechrau datganoli, a dyna fydd hi bob amser. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn ein rhaglen lywodraethu, er gwaethaf yr holl heriau a'r rhwystrau yr ydym ni wedi'u hwynebu. Rydym ni wedi buddsoddi £425 miliwn ychwanegol yn y GIG yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i wneud cynnydd cyson ar ein blaenoriaeth allweddol o leihau amseroedd aros. Mae ein perfformiad o ran canser hefyd y gorau y bu ers dwy flynedd, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r maes allweddol hwn am weddill tymor y Senedd hon. Credwn mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus, gyda gweithlu sector cyhoeddus, ac rydym ni wedi parhau â'n buddsoddiad yn y GIG. Rydym ni wedi darparu o ran y gweithlu, gan ddarparu atebion tymor byr a thymor hirach i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Roedd ein cytundeb gyda Llywodraeth Kerala ym mis Mawrth 2024 yn fodd o ddarparu 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol i gryfhau ein GIG ar unwaith. Yn nes at adref, bydd ein hysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru yn cefnogi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i Fangor ym mis Medi. Rydym ni wedi gweithredu amrywiaeth o newidiadau radical i ofal sylfaenol, gan gynnwys diwygio contractau deintyddion y GIG, galluogi 140,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs llawn o driniaeth ddeintyddol, a lleihau'r dagfa 8 y bore mewn meddygfeydd. Rydym ni hefyd yn darparu mwy o wasanaethau lle mae eu hangen fwyaf, yn ein hoptegwyr ar y stryd fawr a fferyllfeydd cymunedol, drwy'r cynllun anhwylderau cyffredin.
Wrth gwrs, afraid dweud bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal GIG Cymru fel un rhad ac am ddim pan fo ar bobl ei angen. Fel y dywedodd Nye Bevan yn 1948,
'nid oes gan unrhyw gymdeithas yr hawl i'w galw ei hun yn waraidd os gwrthodir cymorth meddygol i berson sâl oherwydd diffyg modd.'
Mae'r Llywodraeth hon hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol mil diwrnod cyntaf plentyn i'w ganlyniadau bywyd tymor hir. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff pob plentyn yng Nghymru y cyfleoedd gorau i lwyddo, waeth ble maen nhw'n byw, eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Rwy'n falch ein bod ni wedi cynnig dros 6,900 o leoedd ychwanegol i rieni trwy Dechrau'n Deg. Mae hyn yn golygu y gall mwy o blant dwy oed ledled y wlad nag erioed o'r blaen gael y gefnogaeth i'w helpu i ffynnu a thyfu. Fe wnaethom ni barhau i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, gan ddarparu gofal plant am ddim i fwy o deuluoedd, gyda 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig yn ystod 2023-24. Daeth cant a phum deg pedwar mil o ddysgwyr ychwanegol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Mawrth 2024, ac mae'r ddarpariaeth bellach wedi'i chyflwyno'n llawn mewn 19 o'n 22 awdurdod, ymhell cyn ein targed ym mis Medi 2024, gyda'r tri awdurdod sy'n weddill hefyd yn gwneud gwaith gwych yn hynny o beth.