– Senedd Cymru am 5:34 pm ar 16 Gorffennaf 2024.
Mae hwnna'n caniatáu i ni symud ymlaen i eitem 10, sef Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol, a'r Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r eitem yma, felly. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn natblygiad a hynt y Bil drwy'r Senedd. Mae'r broses graffu ar gyfer y Bil wedi bod yn drylwyr ac yn heriol, fel y dylai fod, wrth gwrs. Diolch i Gadeiryddion, aelodau a staff cymorth y pwyllgor am eu dull gofalus ac ystyriol, ac am eu hargymhellion adeiladol yng Nghyfnod 1, gan gynnwys mewn perthynas â darparu arweiniad a chymorth i'r rhai y bydd y Bil hwn yn effeithio arnynt ar gyfer partneriaid cyflawni a threthdalwyr yng Nghymru. Bydd y Llywodraeth yn parhau i ymgysylltu â phwyllgorau mewn ffordd ystyrlon yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf wrth i ni ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol, a byddwn yn adolygu'r effaith y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei chael cyn diwedd y Senedd nesaf fel rhan o'm hymrwymiad yng Nghyfnod 1.
Cyn hynny, cydnabyddais y rôl hanfodol a chwaraeodd Aelodau Plaid Cymru yn natblygiad y ddeddfwriaeth hon. Mae'n werth cydnabod heddiw, hyd yn oed ar faterion lle, yn y pen draw, nad oeddem yn gallu dod i gytundeb ar y cyd, bod ein trafodaethau wedi'u cynnal mewn modd adeiladol a pharchus drwyddi draw, a gwn fod llawer yn y Bil hwn y gall y ddwy ochr fod yn falch ohono.
Diolch hefyd i Peter Fox, sydd wedi cynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiwyd drwy Gyfnodau 2 a 3. Rwyf wedi gwerthfawrogi ei barodrwydd i geisio cyfaddawdu ar faterion lle mae'n dod â'i brofiad ei hun o arwain Cyngor Sir Fynwy, ac rwy'n nodi dull pragmatig ei blaid o'r Bil hwn ar adegau allweddol yn y broses.
Rwy'n estyn diolch diffuant i'n holl randdeiliaid a phartneriaid—y rhai a ymatebodd i'n hamrywiol ymgynghoriadau, y rhai a gyfrannodd dystiolaeth at bwyllgorau, a'r rhai a rannodd eu harbenigedd drwy gydol y broses graffu. Byddwn yn parhau i ddibynnu ar y gefnogaeth honno a'r profiad hwnnw yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni weithio ar weithredu'r ddeddfwriaeth. Ac mae llawer i'w wneud. Mae is-ddeddfwriaeth i'w gwneud, canllawiau i'w datblygu, prosesau, systemau, hyfforddiant a chymorth newydd i'w cyflwyno. Bydd gan ein partneriaid awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru i gyd rôl hanfodol i'w chwarae wrth wneud llwyddiant yn y fframwaith deddfwriaethol newydd hwn, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogaeth barhaus ar y daith honno. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch enfawr i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu hymroddiad, eu creadigrwydd a'u gwaith o'r ansawdd uchaf. Mae'r Bil hwn yn cyflwyno newidiadau pwysig i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i wneud newidiadau pellach ac ystyrlon i'r system drethu leol yng Nghymru.
O ran y dreth gyngor, byddwn yn parhau i ymdrechu i'w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar, yn haws llywio ac yn symlach i'w weinyddu. Bydd y dulliau yn y Bil hwn yn creu'r cyfleoedd hynny. O ran ardrethi annomestig, mae'r Bil hwn yn cyflawni ailbrisiadau amlach—newid hanfodol wrth wraidd ein rhaglen ddiwygio helaeth. Mae hefyd yn darparu'r dulliau angenrheidiol i gynnal system deg ac ymatebol y gellir ei haddasu i amgylchiadau a blaenoriaethau sy'n newid. Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd.
Fe hoffwn i ddiolch hefyd i bawb heddiw sydd wedi gweithio ar y ddeddfwriaeth hon, ac fe wn i y bu llawer iawn o waith dros fisoedd lawer. Fe hoffwn i ddiolch i dîm y Bil yn arbennig am eu cefnogaeth, ond hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet am ei hymgysylltiad. Mae wedi bod yn wych gallu gweithio gyda'n gilydd mor gydweithredgar, hyd yn oed os oes gennym ni farn wahanol ynghylch sut y gallem ni gyrraedd y gwahanol leoedd. A diolch hefyd i Peredur Owen Griffiths am ei ymgysylltiad adeiladol drwyddi draw. Mae hi'n wych pan allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd, fel rydym ni wedi.
Rwy'n croesawu rhai elfennau o'r Bil, gan gynnwys y gallu i osod y lluosydd hollt ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru—rhywbeth rydym ni a'r gymuned fusnes wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd, ac mae'n wych y ceir yr hyblygrwydd hwnnw. Fodd bynnag, mae ein grŵp yn dal yn bur amheus ynghylch nifer o faterion a chymhwyso'r pwerau y mae ei Fil yn eu darparu. Wedi dweud hynny, mae agweddau ar y Bil yn angenrheidiol i roi mwy o ddisgresiwn ynghylch y dreth gyngor a chyfraddau busnes yng Nghymru.
Rydym yn dal i bryderu, serch hynny, am y gallu i gynghorau ddatgymhwyso'r gostyngiad o 25 y cant i bobl sengl. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi rhoi sicrwydd iddi na fydd y gostyngiad hwn yn newid, y gwir amdani yw, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai cynghorau, o dan rai amgylchiadau, ddatgymhwyso'r gostyngiad hwn, sy'n annerbyniol i ni.
Rwy'n falch iawn i welliant y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cymell cynghorau lleol i barhau i gyhoeddi hysbysiadau o newidiadau i'r dreth gyngor lwyddo, gan sicrhau bod ein poblogaeth oedrannus yn parhau i gael mynediad hawdd at wybodaeth mor bwysig a, thrwy hyn, rhoi sicrwydd i lawer o bapurau newydd lleol. Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei chefnogaeth a'i gweithredoedd ynghylch y mater hwn.
Rwy'n siomedig bod ein gwelliant o ran refferenda lle mae'r cynnydd yn y dreth gyngor yn fwy na 5 y cant wedi'i wrthod. Er fy mod i'n cydnabod y byddai goblygiadau i gynghorau pe bai hyn wedi'i gyflwyno, mae'n werth nodi mai anaml y defnyddiwyd hyn dros y ffin. Yn amlwg, felly, mae cael y gofyniad yn fodd o atgoffa'r cynghorau cyn ystyried cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor. Peidiwch ag anghofio bod cynnydd o 5% yn gynnydd mawr ynddo'i hun. Byddai hyn wedi grymuso pobl leol i ddwyn eu cynghorau i gyfrif, ac rwy'n dal i bryderu, os torrir y setliad llywodraeth leol ymhellach gan y Llywodraeth yma, heb y cydbwysedd a ddarperir gan refferenda lleol, efallai y bydd cynghorau'n troi yn rhy hawdd at gynyddu'r dreth gyngor fel ateb i bob anhawster. Rwy'n gwybod i'r gwelliant hwn fethu, ond byddaf yn parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran y mater hwn.
Llywydd, er gwaethaf diolch i bawb, oherwydd y pryderon sylfaenol sydd gennym ni o hyd, ni fyddwn yn gallu cefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw. Mae'n ddrwg gen i.
I ddechrau, fe hoffwn i ddiolch i holl glercod y Senedd a'r cyfreithwyr sydd wedi gweithio'n ddiwyd trwy hynt y Bil hwn, ac fe hoffwn i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a Peter Fox am eu hymgysylltiad adeiladol ar bob cam. Fel yr wyf wedi sôn sawl gwaith o'r blaen yn y Siambr hon, mae'r ddadl dros ddiwygio cyflwr cyllid llywodraeth leol wedi bod yn amlwg ers peth amser. Er ein bod yn parhau i gredu nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell mewn rhai meysydd, rydym ni serch hynny yn ystyried ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen i greu fframwaith cyllidol mwy cynaliadwy i'n hawdurdodau lleol, ac felly byddwn yn cefnogi ei hynt heddiw. Rydym yn croesawu'r mesurau i alluogi cylchoedd ailbrisio amlach at ddibenion ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, gan feithrin mwy o degwch yn y ffordd y cânt eu codi. Credwn hefyd ei bod hi'n synhwyrol rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru amrywio rhyddhad ardrethi annomestig a gosod lluosyddion wedi'u teilwra, a byddem yn annog y Llywodraeth i fod yn rhagweithiol wrth ddefnyddio'r pwerau hyn, yn enwedig fel modd i gefnogi ein sector mentrau bach a chanolig, sydd mor hanfodol. Fodd bynnag, mae'n destun gofid bod y Bil hwn, er mor gadarnhaol ydyw mewn sawl maes, ond yn gwneud camau bach i'r cyfeiriad cywir, yn hytrach na chamau blaengar pwrpasol lle mae eu taer angen arnom ni. Bydd y ffaith nad yw'r model newydd o ailbrisio'r dreth gyngor yn cyd-fynd â diwygiad cynhwysfawr o'r system ei hun, sydd bellach wedi'i ohirio tan 2028 ar y cynharaf, yn parhau â'i baich annheg ac anghymesur ar aelwydydd incwm is am y dyfodol rhagweladwy.
Mae diwygio'r dreth gyngor yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'r effaith y mae'r system bresennol yn ei chael wrth waethygu pwysau costau byw ac anghydraddoldebau cymdeithasol yn arbennig o amlwg ar draws fy rhanbarth etholiadol. Rwy'n cynrychioli dwy ardal, Merthyr a Blaenau Gwent, lle mae'r dreth gyngor ar ei huchaf. Mae gan y ddau awdurdod lleol hyn rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n anghyfiawn iawn. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â chreu system decach, rwy'n gobeithio y byddant yn defnyddio'r amser ychwanegol y maen nhw wedi'i ennill iddyn nhw eu hunain yn ddoeth, yn hytrach na gadael y rhaglen waith hanfodol hon i ddim ond hel llwch. Ar y sail hon, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd yn rheolaidd ynghylch cynnydd rhaglen diwygio'r dreth gyngor yn unol â'r amserlen ddiwygiedig? Er ein bod wedi gobeithio cyflawni'r diwygiad hwn erbyn mis Ebrill 2025, trwy ein cytundeb cydweithio, rydym yn parhau i fod yn agored i gydweithio â'r Llywodraeth i sicrhau ei fod yn dod i rym cyn gynted â phosibl. Mae'n hanfodol, felly, bod pasio'r Bil hwn heddiw yn ddechrau taith hirach tuag at roi cyllid llywodraeth leol ar sail decach a mwy cynaliadwy. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i ymateb nawr.
Diolch. Wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r partneriaid unwaith eto am eu cydweithio a'u cyfraniadau. Dyma'r Bil cyllid llywodraeth leol cyntaf i ni ei gael yng Nghymru ers datganoli, ac fe wn i fod llawer ohonom wedi ein cyffroi'n fawr iawn, iawn am hynny, ac mae'n ddarn sylweddol iawn o ddeddfwriaeth hefyd. Mae'n un a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfraddau annomestig a threfniadau treth gyngor tecach a mwy ymatebol yng Nghymru, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu'r cadarnhad hwnnw y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch ein rhaglen ddiwygio ardrethi annomestig a'n rhaglen dreth gyngor wrth i ni gamu i'r dyfodol.
Bydd y Bil heddiw yn galluogi rhoi cymorth i fusnesau ac unigolion mewn ffordd fwy amserol a mwy manwl gywir. Bydd yn caniatáu targedu'r trefniadau osgoi yn gyflymach a sicrhau bod y baich treth, sy'n effeithio ar bron pob busnes a dinesydd yng Nghymru, yn cael ei rannu'n fwy cyfartal. Felly, Llywydd, byddwn yn annog pob Aelod i gefnogi'r Bil hwn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais yma'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.