8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:59 pm ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:59, 10 Gorffennaf 2024

Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch byddwn ni'n symud yn syth i'r pleidleisiau. Mae'r pleidleisiau heddiw ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyllid a phwerau datganoledig. Dwi'n galw am bleidlais, yn gyntaf, ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais, felly: o blaid 12, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 5472 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 12 ASau

Na: 41 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:01, 10 Gorffennaf 2024

Y gwelliant fydd nesaf, sef gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo, ac mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-ddethol.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 5473 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cyllid a phwerau datganoledig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt

Ie: 27 ASau

Na: 26 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:01, 10 Gorffennaf 2024

Fe fydd y bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM8634 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:02, 10 Gorffennaf 2024

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 5474 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 27 ASau

Na: 26 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw