Part of 7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Gadewch i mi fod yn glir ein bod eisiau sicrhau cyfnod pontio llyfn a theg i gynhyrchiant dur mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Dyna yw ein safbwynt wedi bod drwy'r amser. Dyna yw ein safbwynt o hyd. Ac mewn gwirionedd, nid oedd sylwadau Jonathan Reynolds y bore yma yn ddisymud. Roedd yn arddangos lefel o ymrwymiad i'r negodiadau, i'r trafodaethau, ac roedd yn ein hatgoffa ni i gyd o'r lefel newydd o gyllid a gyflwynwyd i'r trafodaethau hyn, lefel newydd o ddisgwyliad, lefel newydd o flaenoriaeth i swyddi, i fuddsoddiad, ac ymrwymiad i gynhyrchiant dur sylfaenol. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hyn oll yn ganolog i'r trafodaethau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.