7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU mewn perthynas â Tata Steel ym Mhort Talbot? TQ1142
Rwyf i a'r Prif Weinidog wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth newydd y DU am Tata Steel, ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â nhw wrth symud ymlaen.
Diolch am yr ateb, Cabinet Secretary.
Ers wythnosau bellach, mewn ymateb i unrhyw gwestiwn am Tata a Phort Talbot, dywedwyd wrthym am aros am Lywodraeth Lafur yn y DU. Wel, rydym ni yma nawr ac nid oes gennym syniad o hyd beth yw'r cynllun. Cafwyd dadl ddiddorol ddoe rhwng arweinydd y Ceidwadwyr a'r Prif Weinidog, lle gwadodd y Prif Weinidog ei fod wedi dweud bod yna gynllun parod ar gyfer Port Talbot. Nawr, roedd yn iawn i ddweud hynny, oherwydd ni ddywedodd yr union eiriau hynny erioed, ond i fod yn deg, fe ddywedodd y byddai'n disgwyl i Lywodraeth Lafur newydd gael cynllun ar gyfer Tata. Nid yw'n ymddangos bod yna gynllun, ac rwy'n ofni na wnaeth sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach y bore yma ar Radio Wales lawer i dawelu'r ofnau hynny. Ar ôl gohirio dyddiad cau arfaethedig yr ail ffwrnais chwyth, derbyniodd fod safbwynt Tata wedi bod yn ddisymud iawn. Felly, beth mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei feddwl o hyn? Mae Tata wedi bod yn awgrymu ers misoedd nad ydynt yn fodlon aildrafod. Rydym wedi gweld hynny yn eu cyfweliadau. Rydym wedi gweld hynny yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor economi yma yn y Senedd hon. Felly, beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y sefyllfa hon?
Nawr, gadewch inni edrych ar y darlun llawn: gadewch inni edrych ar y sylwadau gan Tata, gadewch i ni edrych ar y sylwadau gan Lywodraethau dros y misoedd diwethaf. Rwy'n ofni bod y casgliad rhesymegol yn arwain at gau ffwrnais chwyth 5 ym mis Medi. Felly, mae'n bryd i chi fod yn onest gyda ni: a yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gadw ffwrnais chwyth 5 ar agor, neu a yw bellach yn canolbwyntio ei holl adnoddau a'i hamser ar sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol? Mae gweithredoedd a geiriau yn awgrymu hynny, ac wrth gwrs, os mai dyna yw'r cynllun gweithredu, mae gweithwyr a'u cymunedau'n haeddu cael gwybod.
Wel, os caf atgoffa'r Aelod: cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ddydd Iau diwethaf. Daeth y canlyniadau ddydd Gwener. Yn fwyaf diweddar, cyfarfûm ag undebau a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Jonathan Reynolds, y bore yma, a chydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, y prynhawn yma, i drafod y sefyllfa yn Tata Steel. Byddaf yn mynychu'r bwrdd pontio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yfory. Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU drafod Tata yn ystod ymweliad y Prif Weinidog â Chymru yn gynharach yr wythnos hon, a chafwyd sgyrsiau dros y penwythnos yn ogystal yn rhan o'r cyflwyniadau. Mae amser yn amlwg yn bwysig, ond mae llai nag wythnos ers ffurfio Llywodraeth newydd y DU, ac ni allai'r gwahaniaeth rhwng ymgysylltiad y weinyddiaeth Lafur hon ac ymgysylltiad y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol fod yn fwy amlwg. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod cynhyrchu dur a'r sefyllfa yn Tata Steel yn uchel iawn ar agenda'r Llywodraeth hon, ac y bydd y trafodaethau'n mynd rhagddynt o ddifrif nawr. Mae'n bwysig cydnabod na fydd yn briodol cyflwyno llawer o fanylion unrhyw drafodaethau masnachol gyda Tata Steel tra byddant ar y gweill, ac rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n deall hynny. Ond i fod yn glir, rydym eisiau gweld lefel newydd o flaenoriaeth yn cael ei roi i swyddi, i fuddsoddiad ac i gynhyrchiant dur sylfaenol, ac rwy'n hyderus mai dyma yw safbwynt a'r lefel o flaenoriaeth a roddir i hyn gan y Llywodraeth Lafur newydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar lle mae'r dyfodol gyda Tata. Ddydd Iau diwethaf, ar ddiwrnod yr etholiad, cafodd Rhif 5 ei gau. Ar yr un diwrnod, pleidleisiodd pobl Port Talbot a'r rhanbarth ehangach dros obaith ac optimistiaeth drwy roi Llywodraeth Lafur mewn grym. Nawr, mae'n bwysig ein bod ni, felly, yn cefnogi'r optimistiaeth a'r gobaith hwnnw, oherwydd, hebddynt, byddem wedi gweld Rhif 4 yn cau hefyd—yr wythnos diwethaf o bosibl, o ystyried y ffordd roedd pethau'n mynd, ond yn nes ymlaen yn sicr.
Ac fe wrandewais ar sylwadau Jonathan Reynolds y bore yma, ac fe wnaeth gydnabod eu bod nhw wedi bod yn ddisymud, ond roedd yn gobeithio gwneud iddynt symud, oherwydd mae wedi dweud bod yna gynllun newydd yn ei le erbyn hyn, a bod yna drafodaethau newydd yn mynd rhagddynt nawr, a bod y cyfleoedd i edrych ar sut y gallwn gyflwyno'r arian a'r buddsoddiad—. Mae mwy o arian ar y bwrdd nawr. Ni roddodd y Llywodraeth flaenorol unrhyw beth heblaw'r £500 miliwn heb unrhyw amodau ynghlwm wrtho. Felly, nawr mae gennym fwy o arian ar y bwrdd, cyfleoedd i roi amodau ar waith sy'n diogelu swyddi ac amodau sy'n cynnig gobaith a chyfle i gynhyrchu mwy o ddur. Ac fe nododd y bore yma hefyd ei fod yn credu bod dur yn elfen hanfodol o'r economi.
Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, heb y Llywodraeth Lafur hon, na fyddai unrhyw obaith, na fyddai gennym unrhyw uchelgais, ac y byddem wedi gweld Rhif 4 yn cau ym mis Medi? Ond ar hyn o bryd, mae yna gyfleoedd i drafod, mae yna arian i gael y trafodaethau hynny i gefnogi'r newidiadau a heb hynny, ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn manteisio ar y cyfle hwnnw nawr, ac rwy'n gobeithio y bydd Tata yn manteisio ar y cyfle hwnnw hefyd, oherwydd mae cyfle nawr i ymestyn y cyfnod pontio, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym i gyd yn gwybod ei fod yn dorbwynt. Yr hyn a ddywedodd yn glir y bore yma: rydym eisiau sicrhau bod y cyfnod pontio yn gweithio i weithwyr a'r cymunedau. Mae hynny'n golygu ei ymestyn, wrth inni symud tuag at ddatgarboneiddio, tuag at ddur gwyrdd, mae'n golygu hefyd ein bod yn gweld swyddi'n cael eu cadw ym Mhort Talbot, a chynhyrchiant dur yn cael ei gadw ym Mhort Talbot, fel y gallwn gadw hynny i fynd. A ydych chi'n cytuno mai dyna'r ffordd gywir ymlaen?
Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n cytuno mai dyna'r ffordd gywir ymlaen, a'r ffordd y'i disgrifiodd, fel cyfnod pontio sy'n gweithio i weithwyr ac i'r gymuned, dyna'n union rydym eisiau ei weld, a'r hyn a welsom eisoes, yn y dyddiau cyn yr etholiad mewn gwirionedd, o ran gweithio ar y cyd i weithio gyda Tata, i weithio gyda'r undebau, mewn perthynas â'r sefyllfa dyngedfennol a wynebem ar y pryd. Mae hynny wedi rhoi lle a chyfle i'r trafodaethau hyn ddigwydd. Ac mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno lefel newydd o gyllid, lefel newydd o ddisgwyliad a lefel newydd o frys i'r trafodaethau hynny. A hoffwn pe baem wedi bod yn y sefyllfa hon flwyddyn yn ôl, a chael Llywodraeth Lafur bryd hynny, a gallu gweithio gyda Tata, oherwydd y gwir amdani yw ein bod wedi dod i mewn i'r trafodaethau hyn yn hwyr yn y dydd, onid ydym? Pe bai gennym Lywodraeth Lafur flwyddyn yn ôl, byddem wedi cael llawer mwy o le ar gyfer y trafodaethau hynny. Ond rwy'n falch o ddweud bod y gofod hwnnw wedi'i greu, ac mae angen inni weld y trafodaethau'n symud ymlaen ar frys nawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gwrando'n astud ar eich atebion i Luke Fletcher a David Rees, ac rwy'n gweld realiti'r gwahaniaeth o orfod llywodraethu—Llywodraeth Lafur y DU yn gorfod llywodraethu—yn hytrach na bod yn wrthblaid. Ac os caf droi'n ôl at gwestiwn cychwynnol Luke, a chwestiynau Dai Rees am y cyfnod pontio, a yw'r Llywodraeth hon bellach wedi cyfaddef ei bod yn fodlon iddynt gau ffwrnais chwyth Rhif 4? Oherwydd, pan fo Dai Rees yn sôn am y cyfnod pontio, mae'n golygu newid o gynhyrchu dur ffwrnais chwyth tuag at gynhyrchu dur arc trydan. Felly, a yw hwnnw'n gyfaddefiad nawr gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth y DU, gan Jonathan Reynolds, gyda'r sylwadau 'disymud iawn' a wnaeth y bore yma—a yw hwnnw'n gyfaddefiad fod cynhyrchiant dur ffwrnais chwyth yn dod i ben ym Mhort Talbot?
Gadewch i mi fod yn glir ein bod eisiau sicrhau cyfnod pontio llyfn a theg i gynhyrchiant dur mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Dyna yw ein safbwynt wedi bod drwy'r amser. Dyna yw ein safbwynt o hyd. Ac mewn gwirionedd, nid oedd sylwadau Jonathan Reynolds y bore yma yn ddisymud. Roedd yn arddangos lefel o ymrwymiad i'r negodiadau, i'r trafodaethau, ac roedd yn ein hatgoffa ni i gyd o'r lefel newydd o gyllid a gyflwynwyd i'r trafodaethau hyn, lefel newydd o ddisgwyliad, lefel newydd o flaenoriaeth i swyddi, i fuddsoddiad, ac ymrwymiad i gynhyrchiant dur sylfaenol. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hyn oll yn ganolog i'r trafodaethau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddom, mae gweithgarwch Tata yng Nghymru wedi'i ganoli ym Mhort Talbot, ond mae amryw o safleoedd eraill, wrth gwrs, gan gynnwys Llan-wern. O ran y cyfnod pontio, fel rydych chi wedi'i ddisgrifio ac fel y mae David Rees wedi'i ddisgrifio, bydd y lefel newydd o fuddsoddiad yn cynnig cyfleoedd i'r safleoedd eraill hynny, ochr yn ochr â Phort Talbot. Hoffwn gael sicrwydd gennych, fel y gofynnais i chi sawl gwaith, y bydd Llan-wern yn rhan o'r cynlluniau hynny ac yn rhan o'r buddsoddiad hwnnw, oherwydd mae gennym hanes hir o gynhyrchu dur yn Llanwern. Mae'n safle pwysig iawn, sy'n cynnig llawer o gyfleoedd, ac wrth gwrs mae gennym weithlu eithaf ifanc ac mae llawer o brentisiaid yn awyddus i chwarae rhan mewn cynhyrchu dur gwyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.
Gallaf roi'r sicrwydd y mae John Griffiths yn chwilio amdano. Drwy gydol y trafodaethau a gawsom fel Llywodraeth, rydym wedi edrych ar effeithiau'r newidiadau arfaethedig ym Mhort Talbot ar Lan-wern, ar Drostre, ar Shotton a Chaerffili a'r safleoedd hynny, ac mae'r gweithfeydd hynny'n cael lle llawn yn y trafodaethau a gawsom, ac rydym yn ceisio eglurder mewn gwirionedd ar rai elfennau o'r effaith ar y safleoedd hynny. Rwyf am ddweud wrtho ein bod eisiau gweld buddsoddiad yn yr holl gynhyrchiant dur ledled Cymru, yn y ffordd y gofynnodd amdano yn ei gwestiwn.
Diolch, Lywydd. Dywedwyd wrthym yn aml gan wleidyddion Llafur y byddai newid Llywodraeth yn San Steffan, yn eich geiriau chi, yn newid
'cyd-destun cynhyrchu dur yn y DU yn gyfan gwbl.'
Fe ddywedoch chi mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod
'bargen well, ar gyfer dur ac i'r gweithlu, ar gael ac y dylai fod wedi bod yn fath o gytundeb a gafodd ei negodi rhwng Llywodraeth y DU a Tata.'
Pa fargen? Beth oedd gennych chi mewn golwg? Dywedodd y Prif Weinidog, am gynlluniau blaenorol Llywodraeth y DU, fod
'modd atal y canlyniad yr ydym ni'n ei wynebu a'r golled y mae'n ei chynrychioli, ac y gellir ei atal o hyd.'
Wel, sut? Rhaid bod cynllun wedi bod, oherwydd fe gafodd ei gostio, oni chafodd? Dywedodd Keir Starmer faint y byddai'n ei wario, neu faint mwy y byddai'n ei wario, felly sut y gallwch chi gostio cynllun heb fod yna gynllun? Nid yw dweud bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn newydd yn ddigon da, oherwydd nid yw eich Llywodraeth Lafur chi yn newydd. Felly, pa waith a wnaethoch chi gyda'r costau hynny mewn golwg? Mae etholwyr sy'n wynebu colli eu swyddi, ac sy'n colli gobaith a dweud y gwir, wedi cysylltu â mi ar ôl pob datganiad o'r fath a glywsom, yn dweud, 'Beth fydd yn cael ei wneud?' 'Newid' oedd slogan ymgyrch etholiadol Llafur, felly beth sydd wedi newid nawr, yn ymarferol, nid yn rhethregol, i weithwyr dur a chontractwyr Port Talbot sy'n dibynnu ar Tata Steel, eu teuluoedd a'u cymunedau, neu a yw eu dyfodol nhw a'n gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yn dal i fod yn ddarostyngedig i fympwyon cwmni rhyngwladol?
Wel, hoffwn atgoffa'r Aelod o'r pwyntiau a wneuthum eisoes mewn perthynas â'r ateb a roddais i Luke Fletcher. Rydym ddyddiau—lai nag wythnos—i mewn i dymor Llywodraeth newydd, sy'n dod â lefel newydd o ymrwymiad i wneud dur, i gynhyrchu dur, i'r economi, i strategaeth ddiwydiannol. Mae hwn yn dirlun sydd wedi newid ar gyfer dur. Nid wyf yn credu y bydd pobl sy'n gwylio'r ddadl hon yn disgwyl i Lywodraeth Lafur a etholwyd lai nag wythnos yn ôl fod wedi cwblhau trafodaethau gyda Tata o fewn dyddiau. Mae'r trafodaethau hyn yn parhau. Rwyf wedi bod yn glir iawn fod lefel yr ymgysylltiad, a lefel y cyflymder, y brys a'r adnoddau a ymrwymwyd i'r trafodaethau hynny, yn sylweddol uwch na'r hyn a welsom o dan y Llywodraeth flaenorol, a hoffwn ofyn i'r Aelod ganiatáu lle i bethau ddigwydd, er mwyn i'r trafodaethau hynny ddwyn ffrwyth, fel y mae pawb ohonom yn ei obeithio.
Diolch i'r Gweinidog.