Part of 7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Gallaf roi'r sicrwydd y mae John Griffiths yn chwilio amdano. Drwy gydol y trafodaethau a gawsom fel Llywodraeth, rydym wedi edrych ar effeithiau'r newidiadau arfaethedig ym Mhort Talbot ar Lan-wern, ar Drostre, ar Shotton a Chaerffili a'r safleoedd hynny, ac mae'r gweithfeydd hynny'n cael lle llawn yn y trafodaethau a gawsom, ac rydym yn ceisio eglurder mewn gwirionedd ar rai elfennau o'r effaith ar y safleoedd hynny. Rwyf am ddweud wrtho ein bod eisiau gweld buddsoddiad yn yr holl gynhyrchiant dur ledled Cymru, yn y ffordd y gofynnodd amdano yn ei gwestiwn.