Tata Steel

Part of 7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 5:55, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddom, mae gweithgarwch Tata yng Nghymru wedi'i ganoli ym Mhort Talbot, ond mae amryw o safleoedd eraill, wrth gwrs, gan gynnwys Llan-wern. O ran y cyfnod pontio, fel rydych chi wedi'i ddisgrifio ac fel y mae David Rees wedi'i ddisgrifio, bydd y lefel newydd o fuddsoddiad yn cynnig cyfleoedd i'r safleoedd eraill hynny, ochr yn ochr â Phort Talbot. Hoffwn gael sicrwydd gennych, fel y gofynnais i chi sawl gwaith, y bydd Llan-wern yn rhan o'r cynlluniau hynny ac yn rhan o'r buddsoddiad hwnnw, oherwydd mae gennym hanes hir o gynhyrchu dur yn Llanwern. Mae'n safle pwysig iawn, sy'n cynnig llawer o gyfleoedd, ac wrth gwrs mae gennym weithlu eithaf ifanc ac mae llawer o brentisiaid yn awyddus i chwarae rhan mewn cynhyrchu dur gwyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.