7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganiad Hannah Blythyn AS yn Siambr y Senedd ar 9 Gorffennaf 2024 iddi gael ei diswyddo fel Gweinidog Llywodraeth Cymru heb ddigon o dystiolaeth ei bod yn euog o ryddhau negeseuon? TQ1146
Diolch am eich cwestiwn. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Llywydd am gytuno i newid yr amser ar gyfer y cwestiwn amserol, er mwyn imi allu mynd ar ymweliad yn ymwneud â'r cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth, ond hefyd am roi caniatâd i mi roi ymateb cychwynnol hirach na'r arfer i'r cwestiwn amserol, er mwyn imi allu egluro hyn mewn mwy o fanylder i’r Aelodau, a'i gofnodi?
Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy gydnabod dewrder yr Aelod dros Delyn, Hannah Blythyn, wrth iddi wneud ei datganiad personol i’r Senedd ddoe. Rwy’n cydnabod, unwaith eto, y cyfraniad balch a wnaeth yn y Llywodraeth. Fel y gweddill ohonom, rwy'n falch o’i gweld yn ôl yn y Siambr, ac rwy'n rhannu ei theimladau ynglŷn â'r wleidyddiaeth fwy caredig yr ydym am ei gweld yma yng Nghymru. Wrth ymdrin â’r amgylchiadau anodd a arweiniodd at ei hymadawiad â'r Llywodraeth, rwy'n ailadrodd bod lles personol wedi bod ar flaen fy meddwl drwy’r amser, ac mae hynny’n parhau heddiw, er mor anodd ydyw.
Ddechrau mis Mai, cawsom ffotograff o ddarn o sgwrs iMessage gan newyddiadurwr, a gofynnwyd inni roi sylwadau ar ei gynnwys. Roedd yn ffotograff o sgwrs grŵp a grëwyd am un diwrnod ym mis Awst 2020, gydag 11 o Weinidogion Llafur Cymru a Dirprwy Weinidogion yn aelodau. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, i weithrediad y Llywodraeth fod gan Weinidogion ymddiriedaeth yn ei gilydd bob amser, a bod trafodaethau preifat yn parhau’n breifat. Mae rhoi'r negeseuon hyn i newyddiadurwr yn torri'r ymddiriedaeth honno.
Siaradais â fy Nghabinet ar ôl i’r negeseuon gael eu datgelu, ac roedd consensws fod ymddiriedaeth y Gweinidogion wedi’i thorri. Nodais fy mod yn archwilio’r dystiolaeth yn fanwl, ac os byddem yn canfod pwy oedd yr unigolyn a oedd yn gyfrifol am y ffotograff, ni allent aros yn y Llywodraeth. Ar ôl croeswirio'r ffotograff gyda'r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg mai dim ond o ffôn un Aelod y gallai'r ffotograff fod wedi dod. Hoffwn ddweud yn glir unwaith eto y byddai’n well gennyf beidio â thrafod y manylion hyn yn gyhoeddus.
Mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn gyfrifol am ddiogelwch eu data. Pan gefais y dystiolaeth honno, o dorri cod y gweinidogion, bu’n rhaid imi wneud y penderfyniad anodd ynglŷn ag a allai’r Aelod aros yn y Llywodraeth. Fy mhenderfyniad i yn unig yw’r penderfyniad hwnnw fel y Prif Weinidog. Ar ôl ystyried, deuthum i’r casgliad fod natur y tramgwydd yn erbyn y cod gweinidogol a chryfder y teimlad o fewn y Cabinet ynghylch y datgeliad answyddogol yn golygu na allai’r Aelod aros yn y Llywodraeth.
Siaradais â Hannah wyneb yn wyneb ar 16 Mai a gofyn iddi adael y Llywodraeth. Nid oedd yn benderfyniad hawdd, ond roeddwn yn credu bryd hynny ac rwy'n credu nawr mai dyna oedd y penderfyniad iawn. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wneuthum gadarnhau bod gennyf dystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad. Trefnwyd cyfarfod pellach wedi hynny i fynd drwy’r dystiolaeth gyda’r Aelod yng ngogledd Cymru ar 24 Mai. Yn anffodus ac yn ddealladwy, nid oedd Hannah yn gallu bod yn bresennol gan ei bod ar absenoldeb salwch.
Hoffwn sôn hefyd am y pryder penodol ynghylch y sylw a roddwyd i les a llesiant. Fel sydd eisoes yn wybodaeth gyhoeddus, gofynnais am gyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y broses y dylwn ei dilyn ac fe'i dilynwyd yn llawn, gan gynnwys yr angen i roi sylw i adroddiad rheoliad 28 a gyhoeddwyd gan grwner gogledd Cymru ym mis Gorffennaf 2019 ac ymateb Llywodraeth Cymru. Fy ffocws i a'r Prif Chwip, a chyd-Weinidogion eraill yn wir, oedd ac yw llesiant. Cymerwyd nifer o gamau i sicrhau y gallai Hannah gael mynediad at gymorth yn ôl yr angen, ac mae hynny’n parhau hyd heddiw.
Mae hwn wedi bod yn brofiad anodd iawn i bawb sy'n gysylltiedig ag ef ac rwy’n cydnabod yr effaith a gafodd. Gan fod yr Aelod wedi cael cyfle nawr i annerch y Siambr, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen. Fel y dywedais yn fy llythyr at Hannah ym mis Mai, rwy'n credu bod llwybr yn ôl i’r Llywodraeth iddi yn y dyfodol, a dyna yw fy marn o hyd y prynhawn yma.
Diolch, Brif Weinidog, am yr ymateb manwl hwnnw i fy nghwestiwn cychwynnol ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r ffaith, yn amlwg, fod unrhyw Gabinet yn cael ei ffurfio ar gais y Prif Weinidog, ac mai'r Prif Weinidog sy'n dewis pwy fydd yn gwasanaethu yn y Cabinet hwnnw. Nid oes neb yn anghytuno â hynny. Ond roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y datganiad personol ddoe gan yr Aelod yn nodi rhai nodweddion pryderus yn y ffordd yr ymdriniwyd â hyn.
Dywedodd yr Aelod yn benodol, ac felly hoffwn ofyn i chi gadarnhau os yw hyn yn wir—. A hysbyswyd yr Aelod ar unrhyw adeg ei bod yn destun ymchwiliad? Yn ail, a roddwyd unrhyw dystiolaeth i'r Aelod yn ystod y broses y gallai edrych arni ac ymateb iddi cyn iddi gael ei diswyddo o'r Cabinet? Ac ymhellach, mae hi'n gwneud y pwynt—a geiriau'r Aelod ei hun yw'r rhain—
'ni chefais wybod ar unrhyw adeg ac ni ddangoswyd tystiolaeth fy mod o bosibl wedi torri cod y gweinidogion.'
Dyna dri phwynt penodol iawn a oedd yn natganiad yr Aelod i'r Cyfarfod Llawn ddoe. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro a darparu atebion i'r tri phwynt penodol hwnnw. Ac a wnewch chi gadarnhau a fyddwch chi'n cyhoeddi'r dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich barn arni? Oherwydd er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw, mae yna ddau gyfrif sy'n gwrthdaro o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad anffodus hwn, fel y'i galwn, oherwydd mae wedi effeithio ar lawer o bobl, a'r Aelod ei hun yn arbennig, ac yn amlwg rwy'n credu bod y Siambr hon yn haeddu'r parch o gael y dystiolaeth honno fel y gallant weld drostynt eu hunain y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddiswyddo'r Gweinidog o'r Cabinet.
Fel y dywedais yn y datganiad, dywedais yn glir yn y Cabinet, ac yn wir, mewn cyfarfod grŵp Llafur, pe bawn i'n gallu nodi pwy oedd yn gyfrifol am y ffotograff, yna ni fyddent yn gallu aros yn y Llywodraeth. Rwy'n glir iawn ei fod, yn fy marn i, yn torri cod y gweinidogion, a gwnaed hynny'n glir yn y llythyr a aeth ar ôl y cyfarfod. Roeddwn i'n bwriadu mynd drwy'r dystiolaeth yn ystod y cyfarfod wyneb yn wyneb, ond yn ddealladwy—ac mae yna bwynt dynol yn hyn o beth—nid oedd hynny'n bosib. Rwyf hefyd yn deall, fel y dywedaf yn y datganiad, pam nad oedd hi'n bosibl cael cyfarfod dilynol hefyd. Unwaith eto, roedd y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth, yn syml, ac mae'r cynnig wedi'i wneud i'w darparu i'r Aelod unwaith eto.
Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw penderfynu a gafodd cod y gweinidogion ei dorri. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi'r cyfrifoldeb hwnnw a gwneud penderfyniad am y peth cywir i'w wneud i'r Llywodraeth ac i'r wlad, yn hytrach na mater o gyfleustra i mi, a dyna'r ffordd rwyf wedi dewis gweithredu drwy gydol hyn.
Mae fersiwn wedi'i golygu eisoes yn y parth cyhoeddus. Nid wyf yn bwriadu cyhoeddi unrhyw wybodaeth bellach. Fel yr eglurais ar fwy nag un achlysur, mae angen meddwl am fuddiannau pobl eraill. Ni fyddaf yn cyhoeddi'r wybodaeth oni bai bod pob person sy'n gysylltiedig â'r mater yn fodlon i hynny ddigwydd. Nid wyf yn credu ei fod yn ychwanegu at y dewis a wnaed, nac at effaith y dewis a wnaed yn wir, a'r ffaith bod yn rhaid i Aelodau yn y Llywodraeth allu ymddiried yn ei gilydd er mwyn i fusnes y Llywodraeth barhau mewn ffordd y byddai unrhyw un ohonom yn ei disgwyl gan y Llywodraeth hon, neu unrhyw lywodraeth arall.
Roedd y rhan fwyaf ohonom yma ddoe pan wnaeth yr Aelod dros Delyn ei datganiad personol, ac ar draws y meinciau yn y Senedd hon mae arnom ddyletswydd i'n gilydd i ofalu am ein gilydd, ac roeddem i gyd yn deall pa mor anodd fyddai hi wedi bod i Hannah siarad ddoe. Siaradodd yn ddewr, ac rwy'n credu bod arnom ddyletswydd iddi i fynd ar drywydd hyn heddiw. Ysgrifennais at y Prif Weinidog ddoe yn gofyn iddo gyhoeddi'r dystiolaeth, ac mae gennym gyfle nawr, drwy'r cwestiwn hwn, i fynd ar drywydd pethau ymhellach.
Mae un peth yn dal i beri pryder i mi. Y prynhawn yma, mae'r Prif Weinidog wedi egluro un rhan o'r broses sy'n ymwneud yn benodol â sut y caiff Gweinidog ei ddiswyddo, ac rydym yn gwybod pam fod y Prif Weinidog wedi mynd drwy'r broses honno. Mae arnaf ofn nad wyf yn argyhoeddedig o hyd ynglŷn â sut y daeth y Prif Weinidog i'r casgliad fod y dystiolaeth a oedd ganddo yn ei feddiant yn ddigon cryf i gyfiawnhau diswyddo Gweinidog. Ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylai Prif Weinidog allu gwneud y penderfyniadau mewn perthynas â phenodi a diswyddo Gweinidogion, a bod ymddiriedaeth yn ganolog i'r penderfyniadau hynny.
Ond rydym yn gwybod na chafodd unrhyw ymchwiliad i ddatgeliad answyddogol ei gomisiynu neu ei gyflawni oherwydd fe ysgrifennodd cyfarwyddwr moeseg Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ddweud hynny. Felly beth oedd natur yr ymchwiliad i'r datgeliad? A oedd yn ymchwiliad i ddatgeliad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog ei hun i bob pwrpas gyda thîm agos, neu a oedd hon yn broses arall o dan god y gweinidogion neu weithdrefnau llywodraethol eraill y gallai'r Prif Weinidog ymhelaethu arnynt heddiw, gobeithio?
Fodd bynnag, yn y bôn, mae gennym ddwy fersiwn sylfaenol wahanol o'r un digwyddiad. Mae gennym y Prif Weinidog yn dweud bod y dystiolaeth yn glir yn ei feddwl ef, ac mae gennym Aelod yn ei gwneud yn glir iawn ei bod yn gwadu hynny. Nid wyf mewn sefyllfa i allu dewis ochr, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn rhoi'r holl dystiolaeth honno yn y parth cyhoeddus er mwyn caniatáu i'r cyhoedd yng Nghymru ddod i'w casgliad eu hunain.
Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno—? Ac ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn y llythyr ddoe fod angen inni sicrhau bod y broses a ddilynwyd ganddo, a ddarparodd y dystiolaeth honno iddo a beth yw'r dystiolaeth honno, yn cael ei chyhoeddi'n llawn. A yw'n dal i gytuno bod methu gweithredu gyda thryloywder llwyr ar hyn yn parhau i danseilio ffydd yn ei arweinyddiaeth?
Rwy'n credu bod mwy nag un peth yma, ac rwy'n credu bod y ffordd y daeth yr Aelod i ben yn adleisio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau hefyd. Rwyf wedi bod yn glir ac yn onest drwy gydol y broses. Rwyf wedi bod yn glir ac rwyf wedi ailadrodd yn y datganiad heddiw, pan ddeuthum i gasgliad, fod rhaid imi wneud penderfyniad. A dim ond fi, fel Prif Weinidog, oedd yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw ynghylch gweithrediad y Llywodraeth a'r ymddiriedaeth sy'n angenrheidiol rhwng Gweinidogion. Rwyf wedi nodi'n glir yn y datganiad heddiw fod y broses ar gyfer gwneud hynny yn un syml mewn gwirionedd. Mae'r ffaith bod yr Aelod yn chwilio am gymhlethdod yn gwrth-ddweud natur ffeithiol, syml y sefyllfa rydym ynddi.
Ar ôl nodi'r natur syml honno, mae gennych ddewis anochel i'w wneud. Dyna'r dewis rwyf wedi'i wneud, ac mae o ddifrif yn rhoi'r Llywodraeth a buddiannau'r wlad o flaen fy muddiannau personol fy hun. Byddai wedi bod yn llawer haws pe bawn i wedi gofyn i bobl eraill fwrw yn eu blaenau ac ymddwyn fel pe na bai unrhyw her er ei bod yn amlwg fod her yno. Nid wyf yn credu y byddwn wedi bod yn gwneud fy swydd pe na bawn wedi mynd i'r afael â'r mater a oedd yn bryder real iawn ymhlith Gweinidogion a thu hwnt. Dyna'r ffordd y dewisais ymddwyn, a dyna'r gonestrwydd rwyf wedi'i ddangos ym mhob swydd a wneuthum erioed ac y byddaf yn parhau i'w gwneud.
I ddechrau, rwy'n fodlon i fy enw gael ei ddangos.
A wnaeth Andrew Davies egluro pam ei fod wedi diswyddo Nick Ramsay fel Cadeirydd pwyllgor, pan oedd ar drên ar y ffordd yn ôl o Ewrop? A wnaeth Leanne Wood egluro pam y diswyddodd Dafydd Elis-Thomas fel Cadeirydd pwyllgor? A wnaeth Mark Drakeford egluro i mi pam y rhoddodd gadeiryddiaeth y pwyllgor a gadeiriais yn y Senedd ddiwethaf i Blaid Cymru? Mae dau Weinidog cyfredol wedi cael eu diswyddo gan gyn-arweinwyr yn y gorffennol—mae un yn nodio'u pen.
Sut y gall y Prif Weinidog fod yn sicr na wnaed unrhyw olygu lluniau neu olygu fideo ar yr hyn a welodd?
Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau hynny ar gyfer pobl eraill, ac i fod yn deg, mae Mike Hedges eisoes wedi nodi—. Siaradais â Mike ar y diwrnod pan welwyd y ffotograff, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bosibl y gellid ei adnabod, ac nid oeddwn eisiau iddo weld hynny heb gael gwybod, a dyna pam y siaradais ag ef, oherwydd roeddwn i'n meddwl mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Materion ar gyfer pobl eraill yw'r cwestiynau eraill am y ffordd y mae pobl eraill wedi dewis gwneud newidiadau i'w tîm.
Fodd bynnag, mae arnaf ofn, gyda'r llun, nad wyf yn credu bod yr awgrym fod y llun wedi cael ei olygu yn esboniad credadwy. Nid dyna'r casgliad y deuthum iddo. Roedd yn sgwrs a ddigwyddodd go iawn, ac mae hynny wedi cael ei gadarnhau, oherwydd mae mwy nag un gyfres o luniau'n bodoli. Ac rwyf wedi nodi hynny yn y datganiad—mae'r gallu i groeswirio yn cadarnhau pa ffôn y tynnwyd y llun oddi arno. Mae mor syml â hynny.
Rwy'n ofni ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa hynod anodd lle mae gennym ddau gyfrif sy'n gwrthdaro o'r hyn a ddigwyddodd, sy'n ymddangos yn amhosibl i'w cysoni, ac ni allwn ei adael heb ei ddatrys. Nid yw'n deg o ran yr unigolion dan sylw, ond mae hefyd yn niweidio enw da'r Llywodraeth a'r sefydliad hwn. O ran cyfeiriad y Prif Weinidog at y darn o ffotograff a ddisgrifiodd—a dywedodd fod fersiwn wedi'i olygu wedi'i chyhoeddi—nid oes unrhyw beth yn y ddelwedd wedi'i golygu a fyddai'n arwain unrhyw un i ddod i'r casgliad a wnaeth ef, sef mai Hannah Blythyn a'i datgelodd, a dyna pam fod angen tryloywder arnom, i ddeall y sail dros y penderfyniad. Ni allwch wneud hynny o'r llun a olygwyd, felly mae angen inni ddeall beth a arweiniodd y Prif Weinidog i ddod i'r casgliad y mae Hannah Blythyn yn ei herio.
A gaf i ddweud hyn? Pan fyddwn mewn sefyllfa fel hon, lle mae gennym ddau gyfrif sy'n gwrthdaro, nid yw'n iawn fod un o awduron y cyfrifon hynny yn farnwr yn ei lys ei hun. Yr hyn a wnawn mewn amgylchiadau o'r fath yw cael proses annibynnol, cymrodeddwr annibynnol. Dyma'n union y mae'r weinyddiaeth Lafur yn San Steffan yn addo ei wneud: cryfhau proses y cynghorydd annibynnol yng nghod y gweinidogion er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle ceir gwrthdaro buddiannau wrth geisio dod o hyd i'r gwirionedd. Felly, a gaf i awgrymu wrth y Prif Weinidog, gan fabwysiadu'r egwyddor y bydd Llafur yn ei sefydlu yn San Steffan, gadewch inni gael adroddiad annibynnol fel y gallwn ddod o hyd i'r gwirionedd mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn?
Rwy'n credu bod tri phwynt byr i'w gwneud, mae'n debyg. Yn gyntaf, pan wneir cwynion o dan god y gweinidogion, nid yw'r Prif Weinidog yn gofyn am gyngor bob amser; mae rhai ohonynt yn ddigon syml i fynd i'r afael â nhw. Fel arfer nid ydynt yn arwain at gyhoeddi adroddiadau. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog, pwy bynnag ydyw, wneud penderfyniad. O ran y mater hwn, nid oes gwrthdaro buddiannau; mae yna gyfrifoldeb syml i wneud penderfyniad. Hoffwn atgoffa'r Aelod unwaith eto o'r hyn a ddywedais yn y datganiad: ar ôl croeswirio'r ffotograff gyda'r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg na allai ond bod yn ffotograff o ffôn un Aelod yn unig.
Diolch i’r Prif Weinidog. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac yn cael ei ofyn gan Luke Fletcher.