Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Diolch yn fawr, a dwi, dwi'n siŵr ar ran pawb sydd yma yn y Siambr, yn llongyfarch Hannah ar y ffordd mae hi wedi meistroli’r Gymraeg, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Felly, llongyfarchiadau mawr.
Hoffwn i longyfarch y Comisiynydd am roi ffocws a phwyslais clir ar y Gymraeg, a hynny ar ddechrau’r adroddiad. Ond mae gen i bryderon am sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i defnyddio yn y sefydliad yma. Mae’r adroddiad yn sôn am achosion lle na fuodd modd i unigolion ddefnyddio eu dewis iaith, lle na anfonwyd gohebiaeth yn ddwyieithog. Dwi’n meddwl mai sôn am y Gymraeg mae’r adroddiad yn hynny o beth, ac nid am yr iaith Saesneg. Ond 'dewis iaith' ydy’r term sy’n cael ei ddefnyddio, ac mae hynny’n wahanol i bob sefydliad cymharol a chyrff democrataidd eraill yng Nghymru. Mae’r Senedd yma yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo dewis iaith, yn hytrach na hyrwyddo’r Gymraeg. Ond mae pob dim dŷn ni’n gwybod am gynllunio ieithyddol yng Nghymru ac, yn wir, bolisi iaith cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio hyrwyddo’r Gymraeg.
Yn anffodus, mae’r fframwaith presennol, sydd yn arwain at hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na’r Gymraeg, yn tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn gwneud, a dweud y gwir. Felly, buaswn i’n licio cael eich ymateb chi i hynny. Ydy hi’n bryd inni feddwl am newid hyn, a bod y Senedd yn ymuno yn yr un fframwaith polisi a chyfreithiol â phob corff cyhoeddus arall? Mae hynny er mwyn gweld y Gymraeg yn tyfu yn y sefydliad yma. Achos dŷn ni wedi gweld gostyngiad. Mae Heledd Fychan wedi sôn am ostyngiad yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg—mae wedi syrthio o 4 y cant i 3 y cant, ac yna i 1 y cant eleni. Mae cwestiynau llafar ac amserol yn dangos yr un un patrwm, a dirywiad pellach yn nefnydd y Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn.
Jest rhai pwyntiau penodol yn codi o’r adroddiad: byddem ni’n cwestiynu a ydy’r ffigur o 34 dogfen a baratowyd yn fewnol gan bwyllgorau yn uniaith Saesneg yn gywir. Byddwn i’n meddwl ei fod llawer iawn mwy, oherwydd mae adroddiadau drafft pwyllgorau, sydd yn niferus, yn dal i gael eu cyflwyno yn uniaith Saesneg fel arfer ac wedyn yn cael eu cyfieithu ar y cam olaf, sef jest cyn eu cyhoeddi nhw.
O ran y comisiynydd safonau, medraf ddweud o brofiad fy mod i ac aelodau staff y gwn i amdanyn nhw wedi gorfod ymwneud â’r comisiynydd ar lafar yn yr iaith Saesneg. O dan y fframwaith cyfreithiol presennol, dwi ddim yn credu bod hawl defnyddio’r Gymraeg. Mae angen edrych ar gapasiti swyddfa'r comisiynydd safonau, felly—eu capasiti nhw i weithio yn Gymraeg heb angen dibynnu ar gyfieithydd, ac a oes angen ychwanegu at y capasiti yna. Mae trafod materion sensitif cymaint yn fwy effeithiol o wneud hynny yn eich mamiaith yn uniongyrchol efo aelod staff, yn hytrach na drwy gyfieithydd.
Yn olaf, mae angen hefyd edrych ar y fewnrwyd. Dwi’n gwybod bod yna broblem efo’r cyfeiriadur staff ac Aelodau o ran ansawdd a chywirdeb y wybodaeth. Buaswn i’n hoffi i’r Comisiwn sicrhau bod y wybodaeth am sgiliau iaith Aelodau a’u staff yn gywir ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Diolch yn fawr.