4. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:23, 10 Gorffennaf 2024

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2023-24 gerbron y Senedd heddiw. Fe fydd Aelodau o’r Senedd yn ymwybodol ei fod yn ofynnol i Gomisiwn y Senedd, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith.

Eleni, mae’r tîm ieithoedd swyddogol wedi cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg ar draws staff Comisiwn y Senedd. Mae canlyniadau’r arolwg eleni yn gadarnhaol ac yn arwydd fod y penderfyniad i gyflwyno system cwrteisi ieithyddol yn y bumed Senedd wedi creu sylfaen gadarn, ac, fel rwyf yn nodi yn fy rhagair i’r adroddiad, yn dangos y potensial sydd i’r sefydliad i barhau i anelu’n uwch eto at y dyfodol. Mae’r tîm hefyd wedi dechrau ar y gwaith o ddadansoddi canlyniadau’r arolwg, ar y cyd â chynlluniau iaith y gwasanaethau unigol. Bydd hyn yn caniatáu inni fonitro capasiti dwyieithog ar draws y sefydliad ac yn cynnig sicrwydd ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf.

Y llynedd, fe ymrwymiais i ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd i’w galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn trafodion. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi Aelodau, boed yn siaradwyr Cymraeg newydd neu yn siaradwyr Cymraeg rhugl, i fod yn hyderus i ddefnyddio eu sgiliau yn rheolaidd, a bod yr amodau a’r gefnogaeth mewn lle hefyd i’r staff sy’n eu cefnogi i baratoi ar gyfer busnes seneddol. Fodd bynnag, mae’r data yn yr adroddiad hwn yn dangos patrwm tebyg i’r llynedd o ran cyfraniadau Cymraeg ac o ran ei defnydd yn ysgrifenedig yn ein gweinyddiaeth seneddol. Fy mlaenoriaeth felly yw rhoi camau mewn lle i geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf gan esgor, gobeithio, ar ragor o ddefnydd o’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn, ac wrth gyflwyno busnes.

Rwyf yn falch o adrodd i’r Senedd ein bod wedi dechrau mynd i’r afael o ddifrif â hyn yn barod, a hoffwn ddiolch i aelodau fforwm y cadeiryddion am y gefnogaeth a gafwyd i gamau cychwynnol mewn cyfarfod ddydd Llun. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn trafod papur gyda’m cyd Gomisiynwyr ar hyn a materion eraill yn ymwneud â’r Gymraeg gyda golwg ar ein gwaith yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor wrth edrych tua’r seithfed Senedd.

Mae diwygio seneddol yn cynnig cyfle cyffrous i ni edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni ers pasio’r Ddeddf ieithoedd swyddogol, ac i edrych tua’r dyfodol gan ein herio ein hunain i holi beth mwy sydd angen ei gyflawni a beth yw’n huchelgais yn ystod y bennod nesaf. Bydd yn gyfle i sicrhau bod ein ffyrdd o weithio, ein hethos a’n fframwaith cyfreithiol yn gwarantu bod defnydd a statws y Gymraeg fel iaith gyfartal yn ganolog ac yn flaenllaw yng ngwaith y Senedd, a’n bod yn atebol i holl ddinasyddion Cymru am y rhan rydyn ni’n ei chwarae yn yr ymdrech genedlaethol drawsbleidiol i gynllunio dyfodol i’r iaith.

Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw Aelodau at ambell i lwyddiant hefyd sy’n brawf pellach o’n hethos a’n diwylliant fel sefydliad cynhwysol. Mae’r adroddiad yn cynnwys ambell i sylw gan unigolion sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth dysgu Cymraeg sydd ar gael i Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn. Ar y pwynt yma, efallai y dylwn i ddatgan buddiant gan fod fy mrawd, Adrian, yn un o'r tîm o diwtoriaid.

Mae’n bleser clywed am y ffordd mae’r gwersi wedi dod â phobl at ei gilydd ac wedi creu ymdeimlad o berthyn a ninnau yn dal i geisio deall ein ffyrdd newydd o weithio, sydd yn aml yn cynnwys mwy o weithio o bell. Mae clywed sgyrsiau yn Gymraeg yn rhan annatod o’r diwrnod gwaith, gyda’r sawl sy’n derbyn gwersi yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau ac i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Diolch yn fawr, felly, i holl staff y Comisiwn am eu hymdrechion a’u hymroddiad.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, Aelodau’r Senedd, am eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i ymgysylltu â ni i drafod ac i wella. Byddwn yn parhau i wrando ar eich barn a’ch sylwadau er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf posib ac yn chwilio am ffyrdd o wella'n barhaus. Edrychaf ymlaen nawr at y cwestiynau a fydd gennych chi. Diolch yn fawr.