4. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:43, 10 Gorffennaf 2024

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Fel un bachan o Rydaman i fachan arall, byddwn i’n dweud, Tom, fod dy Gymraeg di’n grêt. Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i mi ddweud wrth fy hunan wrth edrych yn y drych. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n adeiladau a magu hyder ymhlith ein gilydd, a hefyd yn holl amrywiaeth ieithyddol Cymru. Mae yna wahanol dafodieithoedd, gwahanol ffyrdd o siarad Cymraeg, ac mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael eu hadlewyrchu yma. Mae hynny’n rhan bwysig o’r neges.

Dwi’n meddwl, o ran y pwyntiau roeddet ti’n gwneud ynglŷn ag anwytho, dylai fod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r profiad anwytho, felly fe wnawn ni edrych ar hynny wrth inni baratoi at ddiwygio’r Senedd. O ran sgiliau iaith, un o’r pethau dwi’n credu y byddwn ni’n awyddus i edrych arno fe yw cymryd y math o ddynesiad, y math o beth rŷn ni wedi gwneud nawr gyda staff y Comisiwn, ac edrych ar gasglu'r data yna, gyda chytundeb pawb, wrth gwrs, gydag Aelodau a staff Aelodau, fel ein bod ni'n gallu cael darlun cyfan wedyn ar draws yr holl Senedd. Felly, mae hwnna'n un ffordd i ni adeiladu ar y profiad da dŷn ni wedi ei gael o ran cwrteisi sylfaenol ac yn y blaen, drwy ymestyn hynny, a'r arolwg sgiliau a'r gwaith hwnnw, ar draws yr holl staff seneddol, fel petai, ac Aelodau.

Ac wedyn, o ran adeiladu ar y profiad, wel, bron â bod, Tom, roeddet ti wedi ateb dy gwestiwn dy hunan. Dŷn ni wedi gosod y seiliau, ond beth ŷn ni nawr yn edrych ar gynyddu ar bob lefel a sut dŷn ni yn gallu creu peuoedd, er enghraifft, lle mae yna fwy a mwy o gyfathrebu mewnol a gweinyddu a gweithio o fewn y Gymraeg? Achos mae hwnna'n un ffordd arbennig o ymarferol i helpu pobl i wella eu sgiliau ieithyddol hyd yn oed yn fwy fyth. Llongyfarchiadau i Hannah, yn sicr, ar y llwyddiant gyda'r arholiad. Ac mae'n ffantastig i weld mwy a mwy o Aelodau yn defnyddio'r Gymraeg yn y gwahanol fforymau sydd gyda ni.

Ie, byddwn ni yn edrych yn benodol, fel dywedais i—. Mae yna glwstwr, amrediad nawr, o syniadau gyda ni ar gyfer sut i wella a chynyddu'r lefel o ddefnydd mewn pwyllgorau. Mi fyddwn ni yn treialu'r rheini ac yn gweld y cynnydd dros gyfnod o chwe mis. Dwi yn credu—. Mi wnaf ysgrifennu at yr Aelodau gwahanol, yn arbennig Siân. Rwy'n credu roeddech chi wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol; fydd dim o'r atebion gyda fi nawr. Ond jest cwpwl o bethau dwi am eu dweud yn fwy cyffredinol. Dwi yn credu, fel Senedd, nawr yw'r amser inni edrych ar y fframwaith yn gyffredinol. Mae'r pwynt roedd Siân yn ei wneud—dŷn ni yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, yn hytrach na hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, does dim problem gyda ni yn y Senedd ynglŷn â'r Saesneg. Hynny yw, mae gyda ni diwtoriaid Cymraeg, felly, mewn ffordd, onid hyrwyddo dŷn ni yn ei wneud yn barod? Ond dyw'r fframwaith cyfreithiol sydd gyda ni ddim yn mynd â ni ar hyd y llwybr yna. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar hwnna.

Ac mae'n rhaid i ni edrych ar rannau o fywyd seneddol sydd tu fas, hyd yn oed, i'n fframwaith ni ar hyn o bryd, hynny yw, o ran y comisiynydd safonau, y bwrdd taliadau, yr is-ddeddfwriaeth sydd yn dod yn Saesneg yn unig, fel sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad. Felly, mae'n rhaid inni edrych, rwy'n credu, ar fframwaith sydd yn gwbl gwmpasol, fel bod pob agwedd o waith seneddol yn trin y Gymraeg yn gyfartal ac yn creu'r cyfleon i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda ni. Diolch yn fawr.