Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Dim ond newydd ddechrau yn y rôl yma oeddech chi flwyddyn yn ôl pan oeddem ni'n eich holi chi. Ac yn amlwg, mi oedd yna drafodaeth adeg hynny o ran siomedigaeth—efallai rhai o'r rhwystrau dŷn ni yn eu hwynebu o weld defnydd o'r Gymraeg.
Mae yna bethau mawr i'w dathlu yn fan hyn a dwi'n meddwl bod rhaid inni nodi hynny, ac mae'n dda clywed Tom yn cydnabod hynny. A dwi hefyd yn gwybod, o fod mewn pwyllgorau lle yn aml efallai mai fi ydy'r person mwyaf hyderus o ran y Gymraeg a dwi eisiau defnyddio fy Nghymraeg, mae wedi bod yn wych gweld Aelodau eraill, megis—. Dwi'n falch bod Hefin David yma yn defnyddio'r Gymraeg yn amlwg pan fo'n gallu, ond hefyd yn gefnogol o ran hynny. Ond mae o'n aml yn digwydd lle efallai mai dim ond un siaradwr Cymraeg hyderus sydd yna mewn pwyllgor ac mae hynny'n cael effaith wedyn o ran sut fath o iaith y mae'r pwyllgor yn ei ddefnyddio. Felly, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n sôn ynglŷn â fforwm y Cadeiryddion.
Un o'r pethau sydd yn fy mhryderu i'n aml ydy sut ydyn ni'n cefnogi'r staff sydd yn ein cefnogi ni o fewn y Comisiwn i deimlo'r hyder i ddrafftio adroddiadau yn y Gymraeg? A sut wedyn dŷn ni'n defnyddio'r dechnoleg i alluogi wedyn fod Aelodau eraill yn gallu deall yr adroddiad hwnnw? Mae yna wastad y syniad yn parhau fod rhaid i bopeth fod yn y Saesneg i ddechrau, ac wedyn, pan fo'n dod i adroddiad terfynol, mi fydd yna fersiwn Cymraeg. Wel, mae'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n ymbweru'r rheini sydd eisiau gweithio yn y Gymraeg i allu drafftio yn y Gymraeg. A dŷn ni'n lwcus eithriadol rŵan, a dwi ddim yn sôn am Google Translate—mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol i ymbweru staff hefyd i deimlo eu bod nhw’n gallu drafftio yn Gymraeg. Felly, dyna un o’r elfennau y byddwn i’n hoffi, os oes gennych chi, eglurder arno fo.
Un o’r pethau a fyddai’n fuddiol, dwi’n credu, ydy deall beth ydy’r rhwystrau presennol y mae Aelodau yn eu teimlo, ac roeddwn i’n mynd i ofyn a oeddech chi wedi ystyried gwneud arolwg o’r Aelodau etholedig i ddeall eu defnydd nhw o’r iaith. Yn sicr, ar ôl gweld adroddiad y llynedd, dwi wedi trio fy ngorau glas i drio cyflwyno popeth yn fy enw i yn Gymraeg—ddim bob tro, weithiau mae yna rywbeth brys angen mynd i mewn, ac, yn amlwg, mae yna aelodau o staff yn rhoi pethau mewn ar ein rhan ni weithiau. Ond, yn sicr, dŷn ni fel grŵp hefyd—. Mae’r mwyafrif helaeth o’n cynigion ni a’n gwelliannau yn trio mynd mewn yn Gymraeg, ac mae hynna’n deillio o’r ffaith bod yr adroddiad hwn wedi dangos yn glir y llynedd pa mor ddiffygiol oedd rhai o’n prosesau ni, ac, efallai, ein bod ni bach yn ddiog, a’n bod ni angen y gic yna weithiau i atgoffa’n hunain i gyflwyno.
Dwi’n meddwl bod yna her hefyd—mae yna nifer o sefydliadau yn aml yn cysylltu gyda ni fel Aelodau’r Senedd yn gofyn inni gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar amryw o bynciau. Mi fyddwn i’n dweud bod yna her iddyn nhw hefyd i ddarparu'r cwestiynau hynny yn ddwyieithog, a bod o ddim dim ond fyny i ni, ac os ydyn nhw'n ymgysylltu efo’r Senedd, rhaid iddyn nhw ystyried hefyd fod yna ddwy iaith swyddogol, a bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio.
Felly, fel dwi’n sôn, mae yna bethau calonogol fan hyn, ond dwi’n meddwl, o ran trafodion y pwyllgorau, trafodion y Cyfarfod Llawn a’r pethau efo’r Swyddfa Gyflwyno, yn amlwg fedrwn ni ddim gorfodi neb i gyflwyno yn Gymraeg, ond efallai ei fod o ddim yn ddrwg o beth deall yn iawn pam fod y rhwystrau hynny.
Roeddwn i’n sôn yn gynharach o ran pwyllgorau—a dwi wedi siarad efo nifer o Aelodau ynglŷn â hyn—ac mae hi’n anodd os taw chi ydy’r unig berson sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar adegau, ac mae yna rôl bwysig gan y Cadeiryddion, dwi’n credu, o ran atgoffa, pan fo tystion yn dod i mewn, fod croeso iddyn nhw ateb yn Gymraeg. Efallai ei fod o’n un o’r pethau yna, ei fod o’n dda bod gennym ni’r adroddiad blynyddol yma i roi’r hwb yna i ni i gyd fod yn clywed hyn. Ond, yn amlwg, dydy pawb ddim yn y Siambr heddiw. Felly, os gallech chi ganolbwyntio, efallai, ar sut ydyn ni’n cael y neges i bob aelod o staff, pob Aelod etholedig, a chael eu mewnbwn nhw, fel ein bod ni’n cael Senedd lle mae’r ddwy iaith yn gydradd. Dŷn ni’n trio’n gorau, ond dwi’n credu bod yna fwy o bethau y gallem ni fod yn eu gwneud, ac mae’r datrysiadau o fewn y ffordd dŷn ni’n gweithio rŵan, yn sicr.