– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Eitem 4 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2023-24 gerbron y Senedd heddiw. Fe fydd Aelodau o’r Senedd yn ymwybodol ei fod yn ofynnol i Gomisiwn y Senedd, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith.
Eleni, mae’r tîm ieithoedd swyddogol wedi cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg ar draws staff Comisiwn y Senedd. Mae canlyniadau’r arolwg eleni yn gadarnhaol ac yn arwydd fod y penderfyniad i gyflwyno system cwrteisi ieithyddol yn y bumed Senedd wedi creu sylfaen gadarn, ac, fel rwyf yn nodi yn fy rhagair i’r adroddiad, yn dangos y potensial sydd i’r sefydliad i barhau i anelu’n uwch eto at y dyfodol. Mae’r tîm hefyd wedi dechrau ar y gwaith o ddadansoddi canlyniadau’r arolwg, ar y cyd â chynlluniau iaith y gwasanaethau unigol. Bydd hyn yn caniatáu inni fonitro capasiti dwyieithog ar draws y sefydliad ac yn cynnig sicrwydd ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf.
Y llynedd, fe ymrwymiais i ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd i’w galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn trafodion. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi Aelodau, boed yn siaradwyr Cymraeg newydd neu yn siaradwyr Cymraeg rhugl, i fod yn hyderus i ddefnyddio eu sgiliau yn rheolaidd, a bod yr amodau a’r gefnogaeth mewn lle hefyd i’r staff sy’n eu cefnogi i baratoi ar gyfer busnes seneddol. Fodd bynnag, mae’r data yn yr adroddiad hwn yn dangos patrwm tebyg i’r llynedd o ran cyfraniadau Cymraeg ac o ran ei defnydd yn ysgrifenedig yn ein gweinyddiaeth seneddol. Fy mlaenoriaeth felly yw rhoi camau mewn lle i geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf gan esgor, gobeithio, ar ragor o ddefnydd o’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn, ac wrth gyflwyno busnes.
Rwyf yn falch o adrodd i’r Senedd ein bod wedi dechrau mynd i’r afael o ddifrif â hyn yn barod, a hoffwn ddiolch i aelodau fforwm y cadeiryddion am y gefnogaeth a gafwyd i gamau cychwynnol mewn cyfarfod ddydd Llun. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn trafod papur gyda’m cyd Gomisiynwyr ar hyn a materion eraill yn ymwneud â’r Gymraeg gyda golwg ar ein gwaith yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor wrth edrych tua’r seithfed Senedd.
Mae diwygio seneddol yn cynnig cyfle cyffrous i ni edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni ers pasio’r Ddeddf ieithoedd swyddogol, ac i edrych tua’r dyfodol gan ein herio ein hunain i holi beth mwy sydd angen ei gyflawni a beth yw’n huchelgais yn ystod y bennod nesaf. Bydd yn gyfle i sicrhau bod ein ffyrdd o weithio, ein hethos a’n fframwaith cyfreithiol yn gwarantu bod defnydd a statws y Gymraeg fel iaith gyfartal yn ganolog ac yn flaenllaw yng ngwaith y Senedd, a’n bod yn atebol i holl ddinasyddion Cymru am y rhan rydyn ni’n ei chwarae yn yr ymdrech genedlaethol drawsbleidiol i gynllunio dyfodol i’r iaith.
Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw Aelodau at ambell i lwyddiant hefyd sy’n brawf pellach o’n hethos a’n diwylliant fel sefydliad cynhwysol. Mae’r adroddiad yn cynnwys ambell i sylw gan unigolion sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth dysgu Cymraeg sydd ar gael i Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn. Ar y pwynt yma, efallai y dylwn i ddatgan buddiant gan fod fy mrawd, Adrian, yn un o'r tîm o diwtoriaid.
Mae’n bleser clywed am y ffordd mae’r gwersi wedi dod â phobl at ei gilydd ac wedi creu ymdeimlad o berthyn a ninnau yn dal i geisio deall ein ffyrdd newydd o weithio, sydd yn aml yn cynnwys mwy o weithio o bell. Mae clywed sgyrsiau yn Gymraeg yn rhan annatod o’r diwrnod gwaith, gyda’r sawl sy’n derbyn gwersi yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau ac i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Diolch yn fawr, felly, i holl staff y Comisiwn am eu hymdrechion a’u hymroddiad.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, Aelodau’r Senedd, am eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i ymgysylltu â ni i drafod ac i wella. Byddwn yn parhau i wrando ar eich barn a’ch sylwadau er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf posib ac yn chwilio am ffyrdd o wella'n barhaus. Edrychaf ymlaen nawr at y cwestiynau a fydd gennych chi. Diolch yn fawr.
A allaf i ddiolch i’r Aelod am gynnig y ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau mae wedi’u gwneud? Dim ond cwpwl o bwyntiau sydd gen i i'w gwneud. Fe wnaf i ddechrau drwy ddweud ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, a hefyd pa mor bwysig yw hi bod y Senedd yn rhoi enghraifft i bobl ar draws Cymru o ran beth rydych chi’n gallu ei wneud yn y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg bob dydd. O ran y lefelau Cymraeg, y peth mwyaf i fi, dwi’n credu, oedd yr hyder. Rwy'n gwybod y geiriau, ond does gen i ddim yr hyder wastad i'w dweud nhw. Dwi’n credu bod y Dirprwy Lywydd yn yr un sefyllfa â fi, efallai, o ran safon yr iaith. Y peth mwyaf y gallaf i ddweud o’r tair blynedd dwi wedi bod yma yw dwi wedi datblygu’r hyder i ddefnyddio mwy a mwy, ac mae’r Senedd, dwi’n credu, yn gyfrifol am hynny, felly dwi’n ddiolchgar iawn i’r staff a phawb arall sydd yn gyfrifol am wneud hynny.
Gan ddarllen yr adroddiad, roedd cwpwl o bwyntiau rôn i'n moyn pigo lan arnynt. Dwi’n croesawu’r ffaith ein bod ni wedi gweld, o ran y survey rydych chi wedi’i gynnig, y nifer o bobl o lefelau 1 i 3 sydd yn gallu siarad Cymraeg yn mynd lan. Mae hwnna'n rhywbeth i'w groesawu. Rŷch chi'n dweud yn eich adroddiad hefyd—a dim ond yr adroddiad Saesneg sydd gen i i fy mlaen i, felly mae hwnna'n damaid bach o eironi, ond mae eich adroddiad yn dweud:
'Mae hyn yn arwydd fod y penderfyniad i gyflwyno Cwrteisi Ieithyddol yn y Senedd ddiwethaf wedi creu gwaelodlin cadarn i adeiladu arno'
Felly, a allaf ofyn beth yn union ydych chi'n mynd i'w wneud nesaf? Dŷch chi wedi cael y courtesy level, dŷch chi wedi cael y sgiliau dechreuol, ond beth yw'r cam nesaf, a sut ŷch chi'n mynd i adeiladu ar hynny?
Beth dŷch chi wedi gweld hefyd yw tamaid bach o sefyllfa statig o ran lefelau 4 a 5 o ran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Felly, rwy'n credu efallai fod mwy i'w wneud yn fanna. Felly, beth ydych chi'n gweld yw'r sialens yna yn y dyfodol, fel ein bod yn gallu cael y rhifau hynny lan hefyd?
Rŷch chi wedi sôn hefyd am y Senedd nesaf. Dŷn ni'n gwybod y bydd mwy o Aelodau yn y Senedd—byddwn ni lan i 96—ac mae hwnna'n meddwl y bydd rhaid inni wneud pethau'n hollol wahanol y tro nesaf. Mae cwpwl o bwyntiau fan hyn: mae hyn yn mynd i roi pwysau, dwi'n credu, ar ein staff ni, os bydd mwy o bobl yn moyn defnyddio'r Gymraeg yma. Felly, mae'n mynd i roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau sydd ar gael, ac mae hwnna'n bwysig iawn. Felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar hynny? A beth y mae'n rhaid i'r Senedd ei wneud yn y dyfodol fel eu bod nhw'n gallu cope with it—fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y gwasanaeth dal yna, fel yr un rŷn ni wedi'i ddefnyddio hyd yn hyn?
Hefyd, roeddwn i'n moyn dweud, pan ŷch chi jest yn dod i'r Senedd, pan ŷch chi wedi cael eich ethol am y tro cyntaf, mae'n damaid bach o whirlwind—mae lot yn digwydd ar yr un pryd. Mae'n rhaid ichi setio lan eich IT, sortio mas staff a swyddi a phopeth arall, felly sut ydyn ni'n sicrhau bod Aelodau newydd sy'n dod yma yn gwybod beth sydd ar gael—y gwersi sydd ar gael a sut maen nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg—a'u bod nhw ddim yn gallu colli hynny mewn rhyw welcome pack a bod pobl ond yn eu darganfod blwyddyn neu ddwy flynedd i mewn i'w tymor nhw?
Y peth olaf rwyf yn moyn ei ddweud yw hyn: roedd yna lein fach neis yn eich foreword—cwestiwn da—ac roeddwn i am ei rhoi yn ôl i chi. Rŷch chi'n dweud:
'rwyf am i ni herio’n gilydd a holi: beth mwy sydd angen ei wneud i sicrhau y gellir ymwneud yn llwyr ac yn ddi-rwystr â busnes a gwaith y Senedd yn Gymraeg, fel y gellir ei wneud yn Saesneg ar hyn o bryd? Sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol gydradd â’r Saesneg yn ein trafodion ac yng ngweinyddiaeth y Senedd? Ac yn bwysicach oll, sut ydym ni’n atebol i’r bobl ydym ni’n eu gwasanaethu—sef dinasyddion Cymru—am ein perfformiad ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol, drawsbleidiol, i gynllunio dyfodol i’r Gymraeg?'
Felly, fe wnaf i droi hwnna nôl atoch chi: fel y Comisiynydd sydd yn gyfrifol am yr ieithoedd, beth yw eich asesiad chi o'r ateb i'r cwestiwn hwnnw dŷch chi wedi ei roi yn eich adroddiad chi? Diolch.
Dim ond newydd ddechrau yn y rôl yma oeddech chi flwyddyn yn ôl pan oeddem ni'n eich holi chi. Ac yn amlwg, mi oedd yna drafodaeth adeg hynny o ran siomedigaeth—efallai rhai o'r rhwystrau dŷn ni yn eu hwynebu o weld defnydd o'r Gymraeg.
Mae yna bethau mawr i'w dathlu yn fan hyn a dwi'n meddwl bod rhaid inni nodi hynny, ac mae'n dda clywed Tom yn cydnabod hynny. A dwi hefyd yn gwybod, o fod mewn pwyllgorau lle yn aml efallai mai fi ydy'r person mwyaf hyderus o ran y Gymraeg a dwi eisiau defnyddio fy Nghymraeg, mae wedi bod yn wych gweld Aelodau eraill, megis—. Dwi'n falch bod Hefin David yma yn defnyddio'r Gymraeg yn amlwg pan fo'n gallu, ond hefyd yn gefnogol o ran hynny. Ond mae o'n aml yn digwydd lle efallai mai dim ond un siaradwr Cymraeg hyderus sydd yna mewn pwyllgor ac mae hynny'n cael effaith wedyn o ran sut fath o iaith y mae'r pwyllgor yn ei ddefnyddio. Felly, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n sôn ynglŷn â fforwm y Cadeiryddion.
Un o'r pethau sydd yn fy mhryderu i'n aml ydy sut ydyn ni'n cefnogi'r staff sydd yn ein cefnogi ni o fewn y Comisiwn i deimlo'r hyder i ddrafftio adroddiadau yn y Gymraeg? A sut wedyn dŷn ni'n defnyddio'r dechnoleg i alluogi wedyn fod Aelodau eraill yn gallu deall yr adroddiad hwnnw? Mae yna wastad y syniad yn parhau fod rhaid i bopeth fod yn y Saesneg i ddechrau, ac wedyn, pan fo'n dod i adroddiad terfynol, mi fydd yna fersiwn Cymraeg. Wel, mae'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n ymbweru'r rheini sydd eisiau gweithio yn y Gymraeg i allu drafftio yn y Gymraeg. A dŷn ni'n lwcus eithriadol rŵan, a dwi ddim yn sôn am Google Translate—mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol i ymbweru staff hefyd i deimlo eu bod nhw’n gallu drafftio yn Gymraeg. Felly, dyna un o’r elfennau y byddwn i’n hoffi, os oes gennych chi, eglurder arno fo.
Un o’r pethau a fyddai’n fuddiol, dwi’n credu, ydy deall beth ydy’r rhwystrau presennol y mae Aelodau yn eu teimlo, ac roeddwn i’n mynd i ofyn a oeddech chi wedi ystyried gwneud arolwg o’r Aelodau etholedig i ddeall eu defnydd nhw o’r iaith. Yn sicr, ar ôl gweld adroddiad y llynedd, dwi wedi trio fy ngorau glas i drio cyflwyno popeth yn fy enw i yn Gymraeg—ddim bob tro, weithiau mae yna rywbeth brys angen mynd i mewn, ac, yn amlwg, mae yna aelodau o staff yn rhoi pethau mewn ar ein rhan ni weithiau. Ond, yn sicr, dŷn ni fel grŵp hefyd—. Mae’r mwyafrif helaeth o’n cynigion ni a’n gwelliannau yn trio mynd mewn yn Gymraeg, ac mae hynna’n deillio o’r ffaith bod yr adroddiad hwn wedi dangos yn glir y llynedd pa mor ddiffygiol oedd rhai o’n prosesau ni, ac, efallai, ein bod ni bach yn ddiog, a’n bod ni angen y gic yna weithiau i atgoffa’n hunain i gyflwyno.
Dwi’n meddwl bod yna her hefyd—mae yna nifer o sefydliadau yn aml yn cysylltu gyda ni fel Aelodau’r Senedd yn gofyn inni gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar amryw o bynciau. Mi fyddwn i’n dweud bod yna her iddyn nhw hefyd i ddarparu'r cwestiynau hynny yn ddwyieithog, a bod o ddim dim ond fyny i ni, ac os ydyn nhw'n ymgysylltu efo’r Senedd, rhaid iddyn nhw ystyried hefyd fod yna ddwy iaith swyddogol, a bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio.
Felly, fel dwi’n sôn, mae yna bethau calonogol fan hyn, ond dwi’n meddwl, o ran trafodion y pwyllgorau, trafodion y Cyfarfod Llawn a’r pethau efo’r Swyddfa Gyflwyno, yn amlwg fedrwn ni ddim gorfodi neb i gyflwyno yn Gymraeg, ond efallai ei fod o ddim yn ddrwg o beth deall yn iawn pam fod y rhwystrau hynny.
Roeddwn i’n sôn yn gynharach o ran pwyllgorau—a dwi wedi siarad efo nifer o Aelodau ynglŷn â hyn—ac mae hi’n anodd os taw chi ydy’r unig berson sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar adegau, ac mae yna rôl bwysig gan y Cadeiryddion, dwi’n credu, o ran atgoffa, pan fo tystion yn dod i mewn, fod croeso iddyn nhw ateb yn Gymraeg. Efallai ei fod o’n un o’r pethau yna, ei fod o’n dda bod gennym ni’r adroddiad blynyddol yma i roi’r hwb yna i ni i gyd fod yn clywed hyn. Ond, yn amlwg, dydy pawb ddim yn y Siambr heddiw. Felly, os gallech chi ganolbwyntio, efallai, ar sut ydyn ni’n cael y neges i bob aelod o staff, pob Aelod etholedig, a chael eu mewnbwn nhw, fel ein bod ni’n cael Senedd lle mae’r ddwy iaith yn gydradd. Dŷn ni’n trio’n gorau, ond dwi’n credu bod yna fwy o bethau y gallem ni fod yn eu gwneud, ac mae’r datrysiadau o fewn y ffordd dŷn ni’n gweithio rŵan, yn sicr.
Dwi’n falch o allu siarad, neu i geisio siarad, ar yr eitem hon heddiw. Hoffwn i ddweud diolch wrth fy nhiwtor Cymraeg, Jordan. Mae Jordan yn diwtor ardderchog a brwdfrydig, ac mae e wedi fy helpu i lawer efo fy Nghymraeg. Fel arfer, dwi’n cael gwersi Cymraeg yn y Senedd ar-lein bob dydd Gwener. Yr haf diwethaf trefnodd Jordan wersi ychwanegol i fi, a mis diwethaf, fe wnes i fy arholiad Cymraeg cyntaf. Yr haf hwn, mae gen i lyfr gwaith arbennig.
Dwi’n dysgu Cymraeg achos hoffwn i siarad mwy o Gymraeg yn y Siambr ac yn y gymuned hefyd. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn y Fflint, dysgais i Gymraeg, ond ni wnes i erioed sefyll arholiad. Dechreuais i ddysgu Cymraeg eto pan oeddwn i’n byw yn Llundain. Mae teulu fy nhad yn dod o ardal Ffynnongroyw sydd yn fy etholaeth i rŵan. Roedd fy nhaid yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ond roedd fy nain yn dod o Lerpwl. Yn anffodus, doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a dyw fy nhad erioed wedi dysgu Cymraeg. Felly, tasai fy nhad wedi bod yn siaradwr Cymraeg, ni fyddai e wedi cwrdd â fy mam yn Ysgol Ramadeg Treffynnon. [Chwerthin.]
So, dwi’n hapus i fod yn dysgu Cymraeg, a dwi’n ceisio defnyddio ychydig o Gymraeg pan allaf i. Dwi’n cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cynllun ieithoedd swyddogol yn cefnogi hyn. Diolch.
Diolch yn fawr, a dwi, dwi'n siŵr ar ran pawb sydd yma yn y Siambr, yn llongyfarch Hannah ar y ffordd mae hi wedi meistroli’r Gymraeg, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Felly, llongyfarchiadau mawr.
Hoffwn i longyfarch y Comisiynydd am roi ffocws a phwyslais clir ar y Gymraeg, a hynny ar ddechrau’r adroddiad. Ond mae gen i bryderon am sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i defnyddio yn y sefydliad yma. Mae’r adroddiad yn sôn am achosion lle na fuodd modd i unigolion ddefnyddio eu dewis iaith, lle na anfonwyd gohebiaeth yn ddwyieithog. Dwi’n meddwl mai sôn am y Gymraeg mae’r adroddiad yn hynny o beth, ac nid am yr iaith Saesneg. Ond 'dewis iaith' ydy’r term sy’n cael ei ddefnyddio, ac mae hynny’n wahanol i bob sefydliad cymharol a chyrff democrataidd eraill yng Nghymru. Mae’r Senedd yma yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo dewis iaith, yn hytrach na hyrwyddo’r Gymraeg. Ond mae pob dim dŷn ni’n gwybod am gynllunio ieithyddol yng Nghymru ac, yn wir, bolisi iaith cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio hyrwyddo’r Gymraeg.
Yn anffodus, mae’r fframwaith presennol, sydd yn arwain at hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na’r Gymraeg, yn tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn gwneud, a dweud y gwir. Felly, buaswn i’n licio cael eich ymateb chi i hynny. Ydy hi’n bryd inni feddwl am newid hyn, a bod y Senedd yn ymuno yn yr un fframwaith polisi a chyfreithiol â phob corff cyhoeddus arall? Mae hynny er mwyn gweld y Gymraeg yn tyfu yn y sefydliad yma. Achos dŷn ni wedi gweld gostyngiad. Mae Heledd Fychan wedi sôn am ostyngiad yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg—mae wedi syrthio o 4 y cant i 3 y cant, ac yna i 1 y cant eleni. Mae cwestiynau llafar ac amserol yn dangos yr un un patrwm, a dirywiad pellach yn nefnydd y Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn.
Jest rhai pwyntiau penodol yn codi o’r adroddiad: byddem ni’n cwestiynu a ydy’r ffigur o 34 dogfen a baratowyd yn fewnol gan bwyllgorau yn uniaith Saesneg yn gywir. Byddwn i’n meddwl ei fod llawer iawn mwy, oherwydd mae adroddiadau drafft pwyllgorau, sydd yn niferus, yn dal i gael eu cyflwyno yn uniaith Saesneg fel arfer ac wedyn yn cael eu cyfieithu ar y cam olaf, sef jest cyn eu cyhoeddi nhw.
O ran y comisiynydd safonau, medraf ddweud o brofiad fy mod i ac aelodau staff y gwn i amdanyn nhw wedi gorfod ymwneud â’r comisiynydd ar lafar yn yr iaith Saesneg. O dan y fframwaith cyfreithiol presennol, dwi ddim yn credu bod hawl defnyddio’r Gymraeg. Mae angen edrych ar gapasiti swyddfa'r comisiynydd safonau, felly—eu capasiti nhw i weithio yn Gymraeg heb angen dibynnu ar gyfieithydd, ac a oes angen ychwanegu at y capasiti yna. Mae trafod materion sensitif cymaint yn fwy effeithiol o wneud hynny yn eich mamiaith yn uniongyrchol efo aelod staff, yn hytrach na drwy gyfieithydd.
Yn olaf, mae angen hefyd edrych ar y fewnrwyd. Dwi’n gwybod bod yna broblem efo’r cyfeiriadur staff ac Aelodau o ran ansawdd a chywirdeb y wybodaeth. Buaswn i’n hoffi i’r Comisiwn sicrhau bod y wybodaeth am sgiliau iaith Aelodau a’u staff yn gywir ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Fel un bachan o Rydaman i fachan arall, byddwn i’n dweud, Tom, fod dy Gymraeg di’n grêt. Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i mi ddweud wrth fy hunan wrth edrych yn y drych. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n adeiladau a magu hyder ymhlith ein gilydd, a hefyd yn holl amrywiaeth ieithyddol Cymru. Mae yna wahanol dafodieithoedd, gwahanol ffyrdd o siarad Cymraeg, ac mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael eu hadlewyrchu yma. Mae hynny’n rhan bwysig o’r neges.
Dwi’n meddwl, o ran y pwyntiau roeddet ti’n gwneud ynglŷn ag anwytho, dylai fod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r profiad anwytho, felly fe wnawn ni edrych ar hynny wrth inni baratoi at ddiwygio’r Senedd. O ran sgiliau iaith, un o’r pethau dwi’n credu y byddwn ni’n awyddus i edrych arno fe yw cymryd y math o ddynesiad, y math o beth rŷn ni wedi gwneud nawr gyda staff y Comisiwn, ac edrych ar gasglu'r data yna, gyda chytundeb pawb, wrth gwrs, gydag Aelodau a staff Aelodau, fel ein bod ni'n gallu cael darlun cyfan wedyn ar draws yr holl Senedd. Felly, mae hwnna'n un ffordd i ni adeiladu ar y profiad da dŷn ni wedi ei gael o ran cwrteisi sylfaenol ac yn y blaen, drwy ymestyn hynny, a'r arolwg sgiliau a'r gwaith hwnnw, ar draws yr holl staff seneddol, fel petai, ac Aelodau.
Ac wedyn, o ran adeiladu ar y profiad, wel, bron â bod, Tom, roeddet ti wedi ateb dy gwestiwn dy hunan. Dŷn ni wedi gosod y seiliau, ond beth ŷn ni nawr yn edrych ar gynyddu ar bob lefel a sut dŷn ni yn gallu creu peuoedd, er enghraifft, lle mae yna fwy a mwy o gyfathrebu mewnol a gweinyddu a gweithio o fewn y Gymraeg? Achos mae hwnna'n un ffordd arbennig o ymarferol i helpu pobl i wella eu sgiliau ieithyddol hyd yn oed yn fwy fyth. Llongyfarchiadau i Hannah, yn sicr, ar y llwyddiant gyda'r arholiad. Ac mae'n ffantastig i weld mwy a mwy o Aelodau yn defnyddio'r Gymraeg yn y gwahanol fforymau sydd gyda ni.
Ie, byddwn ni yn edrych yn benodol, fel dywedais i—. Mae yna glwstwr, amrediad nawr, o syniadau gyda ni ar gyfer sut i wella a chynyddu'r lefel o ddefnydd mewn pwyllgorau. Mi fyddwn ni yn treialu'r rheini ac yn gweld y cynnydd dros gyfnod o chwe mis. Dwi yn credu—. Mi wnaf ysgrifennu at yr Aelodau gwahanol, yn arbennig Siân. Rwy'n credu roeddech chi wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol; fydd dim o'r atebion gyda fi nawr. Ond jest cwpwl o bethau dwi am eu dweud yn fwy cyffredinol. Dwi yn credu, fel Senedd, nawr yw'r amser inni edrych ar y fframwaith yn gyffredinol. Mae'r pwynt roedd Siân yn ei wneud—dŷn ni yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, yn hytrach na hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, does dim problem gyda ni yn y Senedd ynglŷn â'r Saesneg. Hynny yw, mae gyda ni diwtoriaid Cymraeg, felly, mewn ffordd, onid hyrwyddo dŷn ni yn ei wneud yn barod? Ond dyw'r fframwaith cyfreithiol sydd gyda ni ddim yn mynd â ni ar hyd y llwybr yna. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar hwnna.
Ac mae'n rhaid i ni edrych ar rannau o fywyd seneddol sydd tu fas, hyd yn oed, i'n fframwaith ni ar hyn o bryd, hynny yw, o ran y comisiynydd safonau, y bwrdd taliadau, yr is-ddeddfwriaeth sydd yn dod yn Saesneg yn unig, fel sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad. Felly, mae'n rhaid inni edrych, rwy'n credu, ar fframwaith sydd yn gwbl gwmpasol, fel bod pob agwedd o waith seneddol yn trin y Gymraeg yn gyfartal ac yn creu'r cyfleon i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda ni. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.