– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Eitem 3 yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a hwnnw gan Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn. Fel un o drigolion Dyffryn Tywi, mae'n bosibl y dylwn i fod yn datgan diddordeb wrth i fi ganmol harddwch digymar yr ardal, o gopa’r Garn Goch i'r cestyll godidog, Parc Dinefwr a'r gerddi botaneg. Ond heddiw, fy mhleser i yw dathlu un o atyniadau eraill yr ardal, sef Gerddi Aberglasne ger Llangathen, dafliad carreg, fel mae'n digwydd, o lle dwi'n byw, wrth i’r safle ddathlu 25 mlynedd ers i’r gerddi gael eu hadfer a’u hagor i’r cyhoedd.
Mae hen hanes yn perthyn i’r ystad ryfeddol hon, gan iddi ddyddio nôl i’r canol oesoedd. Mae cyfeiriad ati yng nghywydd Lewys Glyn Cothi ar droad yr unfed ganrif ar bymtheg, lle mae e'n sôn am ei 'naw o arddau yn wyrddion’. Dros y canrifoedd, mae’r gerddi a’r plasty wedi bod yn gartref i sawl cymeriad lliwgar, o foneddigion i feirdd, artistiaid, yfwyr o fri a llwyrymwrthodwyr, a hyd yn oed ambell i ysbryd, os yw storïau lleol i'w credu. Er bod yr ystad wedi pylu i ebargofiant yn yr ugeinfed ganrif, trawsffurfiwyd ffawd y gerddi a’r ystad ddiwedd y 1990au yn y ganrif ddiwethaf, gan ddechrau ar y gwaith adfer, a oedd yn cael ei olrhain gan y BBC ar y rhaglen A Garden Lost in Time.
Bellach, mae’r plasty, y gerddi gogoneddus a'r ardd gloestr Elisabethaidd digymar yn un o brif atyniadau Sir Gâr. Felly, llongyfarchiadau gwresog i’r ardd, y staff a’r gwirfoddolwyr wrth gyrraedd y garreg filltir nodedig hon, a phob llwyddiant i'r ardd gyda’r dathliadau ac i'r dyfodol.