2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion? OQ61430
Yn fy natganiad llafar i'r Senedd ar 14 Mai, dywedais mai iechyd meddwl da fydd y llwyfan y bydd ein system addysg yn cael ei hadeiladu arno. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â'n canllawiau statudol ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, yn cefnogi'r uchelgais hwn.
Paratowyd y cwestiwn hwn i mi gan unigolyn ifanc yng Nghaerffili sy'n mynychu'r ysgol ac sydd yn y chweched dosbarth. Disgrifiodd sut mae aelod o'i theulu wedi cael trafferth addasu i'r ysgol uwchradd oherwydd gorbryder cymdeithasol, ac o ganlyniad, dechreuodd wrthod mynd i'r ysgol yn rheolaidd, a wnaeth i'w phresenoldeb ostwng o dan 50 y cant. Mae'r rhiant wedi cyfarfod a gweithio gyda'r ysgol a'r awdurdod lleol yn rheolaidd i roi cynnig ar ddulliau gwahanol i annog ei phlentyn i fynd i'r ysgol. Weithiau, mae hyn wedi helpu yn y tymor byr, ond yn gyffredinol, nid yw wedi gwneud hynny. Mae'r rhiant wedi cael eu bygwth ag erlyniad gan yr ysgol, er iddynt wneud popeth yn eu gallu i geisio gwella'r sefyllfa. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu felly fod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ganiatáu i ysgolion ddarparu mwy o gymorth i blant a theuluoedd sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a phresenoldeb, yn enwedig cyn cyrraedd y pwynt lle caiff dirwyon eu rhoi a rhieni'n wynebu'r risg o erlyniad?
Diolch yn fawr, Hefin. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr anawsterau y mae'r unigolyn ifanc y gwnaethoch gyfeirio atynt yn eu cael. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod iechyd meddwl yn brif flaenoriaeth i mi ac i'r Llywodraeth. Dyna pam, er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol, ein bod wedi parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rydym yn buddsoddi tua £13 miliwn i'r perwyl hwnnw eleni. Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar a minnau yn parhau i wthio cynnydd ar hynny.
Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir ein bod wedi dweud mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio dirwyon. Mae'n llawer pwysicach gweithio gyda theuluoedd, a dylai hysbysiadau cosb benodedig fod yn rhan olaf o becyn ehangach o strategaethau ymyrraeth a chymorth i wella presenoldeb, a dylai hynny gynnwys cymorth gydag iechyd meddwl a llesiant yn unol â'r fframwaith statudol a roddwyd ar waith gennym, sy'n ategu ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Mae angen i blant weld yr ysgol fel lle diogel a chroesawgar.
Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda mynd i'r ysgol oherwydd yr hyn a elwir gennym yn osgoi ysgol am resymau emosiynol, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar hynny yn gofyn i ysgolion sicrhau eu bod wedi cwblhau'r asesiadau a mabwysiadu ymateb graddedig i osgoi ysgol am resymau emosiynol sy'n cynnwys diagnosis cynnar, dull ysgol gyfan, cyfathrebu â theuluoedd, ac adeiladu ar berthnasoedd cryf mewn ysgolion.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Joyce Watson.