Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn gweithredu mewn 75 o wledydd gyda bron i 50,000 o ysgolion yn cymryd rhan, sy'n golygu mai hon yw'r rhaglen addysg amgylcheddol fwyaf yn y byd. Yng Nghymru, mae tua 90 y cant o ysgolion wedi ymgysylltu â'r rhaglen Eco-Sgolion gyda 60 y cant o ysgolion wedi cyflawni achrediad baner werdd. Yn ystod y ddegfed flwyddyn ar hugain o'n cyfranogiad, mae gan Gymru un o'r cyfraddau cyfranogi uchaf yn y byd.