Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Diolch yn fawr, Hefin. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr anawsterau y mae'r unigolyn ifanc y gwnaethoch gyfeirio atynt yn eu cael. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod iechyd meddwl yn brif flaenoriaeth i mi ac i'r Llywodraeth. Dyna pam, er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol, ein bod wedi parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rydym yn buddsoddi tua £13 miliwn i'r perwyl hwnnw eleni. Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar a minnau yn parhau i wthio cynnydd ar hynny.
Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir ein bod wedi dweud mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio dirwyon. Mae'n llawer pwysicach gweithio gyda theuluoedd, a dylai hysbysiadau cosb benodedig fod yn rhan olaf o becyn ehangach o strategaethau ymyrraeth a chymorth i wella presenoldeb, a dylai hynny gynnwys cymorth gydag iechyd meddwl a llesiant yn unol â'r fframwaith statudol a roddwyd ar waith gennym, sy'n ategu ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Mae angen i blant weld yr ysgol fel lle diogel a chroesawgar.
Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda mynd i'r ysgol oherwydd yr hyn a elwir gennym yn osgoi ysgol am resymau emosiynol, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar hynny yn gofyn i ysgolion sicrhau eu bod wedi cwblhau'r asesiadau a mabwysiadu ymateb graddedig i osgoi ysgol am resymau emosiynol sy'n cynnwys diagnosis cynnar, dull ysgol gyfan, cyfathrebu â theuluoedd, ac adeiladu ar berthnasoedd cryf mewn ysgolion.