Cymorth Iechyd Meddwl mewn Ysgolion

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 3:15, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Yn fy natganiad llafar i'r Senedd ar 14 Mai, dywedais mai iechyd meddwl da fydd y llwyfan y bydd ein system addysg yn cael ei hadeiladu arno. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â'n canllawiau statudol ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, yn cefnogi'r uchelgais hwn.