Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 10 Gorffennaf 2024.
Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau a hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch o'r galon i'r holl staff, athrawon, disgyblion a sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cynrychioli ymrwymiad Cymru i adael ein planed mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Roeddwn yn ddigon ffodus yn ddiweddar i brofi hyn yn uniongyrchol gan y bobl ifanc o rai o ysgolion cynradd Canolbarth a Gorllewin Cymru yr oedd Eluned Morgan wedi eu gwahodd i mewn ar gyfer ei digwyddiad Her Hinsawdd Cymru Earthshot. Cefais fy synnu gan ba mor angerddol oedd y plant. Fel oedolion, rwy'n credu y gallwn i gyd ddysgu llawer ganddynt o ran eu brwdfrydedd dros fynd i'r afael â'r agenda amgylcheddol hon. Diolch yn fawr iawn am y sylwadau cadarnhaol hynny am y rhaglen Eco-Sgolion.