2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
6. Sut y gellir defnyddio’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif yn y modd mwyaf effeithiol yng nghanol dinasoedd? OQ61419
Mae ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cyd-fynd yn llawn â'r datganiad sefyllfa ar ganol trefi ac egwyddorion 'canol trefi yn gyntaf' wrth ystyried ysgolion a cholegau newydd. Mae'r lleoliad a'r cysylltiadau â chanol trefi a dinasoedd yn cael eu hystyried yn allweddol i wella mynediad a chefnogi mwy o ymwelwyr.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Ysgol Gynradd Albany yn ysgol gymunedol bwysig iawn yng nghanol fy etholaeth, gydag arweinwyr ragorol, tîm staff ymroddedig a chorff llywodraethu nad yw wedi gadael i gyflwr ffisegol yr adeilad amharu ar ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Ond mae'r ysgol Fictoraidd hon yn achosi llawer iawn o her i'r awdurdod lleol, sy'n ei chael hi'n anodd trwsio'r to a gwneud yr atgyweiriadau hanfodol eraill. Bu'n rhaid i'r disgyblion ddioddef tair blynedd o sgaffaldiau yn eu hiard chwarae, sydd eisoes yn fach ac yn cynnwys y nesaf peth i ddim man gwyrdd. Mae miliynau eisoes wedi'u gwario ar yr adeilad hwn ac nid yw'n addas i'r diben o hyd.
Sut y gellir cymhwyso rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ysgolion canol dinas fel ysgol Albany, sy'n parhau i wasanaethu cymuned lle mae poblogaeth sylweddol o bobl ifanc, ond lle nad oes tir dros ben i adeiladu arno, oni bai ein bod yn eu symud i barc ac yna'n eu symud yn ôl i mewn wedyn? Beth fyddai eich cynigion ar gyfer ysgolion fel hon, na all fod wedi eu cyfyngu i'r rhan hon o Gaerdydd yn unig?
Diolch, Jenny, ac mae'n wych clywed am y gwaith cadarnhaol a ddisgrifiwyd gennych yn ysgol Albany. Mae'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ac mae'n ymwneud â mwy na darparu ysgolion a adeiledir o'r newydd, ac rydym wedi cyflawni prosiectau adnewyddu mawr i wella cyfleusterau presennol, yn enwedig lle mae cyfle cyfyngedig i ailadeiladu. Mae'r rhaglen yn cyd-fynd yn llawn â'n polisi ysgolion bro i sicrhau bod y prosiectau'n cael eu cyflawni mewn cydweithrediad â theuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf sy'n bosibl o'n buddsoddiad.
Fodd bynnag, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw datblygu eu blaenoriaethau buddsoddi wrth gwrs gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau. Cefnogir y rhaglen hefyd gan amrywiaeth o grantiau cyfalaf atodol i'w buddsoddi yn ein hysgolion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhaglen, a dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi dyrannu £60 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o ddarparu ysgolion bro, a dyrannwyd £5.4 miliwn o'r cyllid hwn i Gyngor Caerdydd. Fe wnaethom ddyrannu £108 miliwn i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar draws yr ystad ysgolion, a dyrannwyd £11.8 miliwn o hynny i Gyngor Caerdydd. Ond yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddatblygu eu blaenoriaethau buddsoddi gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau.