Diswyddiadau Athrawon

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr

4. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith y nifer uchel o athrawon a ddiswyddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar addysg mewn ysgolion? OQ61424

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 2:58, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am gyflogi athrawon; ni all Gweinidogion Cymru ymyrryd. Er bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gyfrifol am staffio ysgolion, rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa ledled Cymru ac yn gweithio gydag ysgolion i leihau'r effaith ar ddysgwyr.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 2:59, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hwnnw'n ymateb go siomedig. Byddai pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno bod athrawon yn rhan hanfodol o gymdeithas, yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol a fydd yn gyfrifol am ddyfodol ein gwlad. Y llynedd, roedd nifer frawychus o uchel o athrawon yng Nghymru yn wynebu colli eu swyddi, ac ysgolion Cymru a gafodd y canlyniadau PISA gwaethaf yn y DU. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n rhoi llawer o bwys ar y canlyniadau PISA hynny, ond maent yn hanfodol bwysig ac yn dangos ein bod ni ar ei hôl hi yn y DU.

O rywfaint o'r data a ryddhawyd yn fy rhanbarth i yn Ne Ddwyrain Cymru, cafodd o leiaf 46 aelod o staff eu diswyddo y llynedd oherwydd bod penaethiaid yn cael trafferth gyda biliau cynyddol neu gyllidebau a dorrwyd. Ac arweiniodd hyn, wrth gwrs, at ddosbarthiadau mwy o faint, torri cynnig y cwricwlwm ar gyfer arholiadau, a chyfuno grwpiau blwyddyn, yn ogystal â'r effaith ar ddysgwyr ADY wrth gwrs. Yn aml, pan fo cyllidebau'n dynn, er eu bod yn amhrisiadwy a heb fod yn cael tâl digonol, cynorthwywyr addysgu yw'r cyntaf i fynd. Yn y cyfamser, mae argyfwng recriwtio parhaus mewn rhai meysydd pwnc. A all Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau'r Siambr ei bod yn ystyried y mater a bod ganddi gynllun ar waith, ochr yn ochr â'r ALlau, i gynnal cynorthwywyr addysgu mewn dosbarthiadau, ac i sicrhau bod digon o arian yng nghyllidebau ysgolion ar gyfer mwy o athrawon, nid llai?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 3:00, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn atodol, Laura Anne. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae cyflogi staff ysgolion yn fater i awdurdodau lleol. Rhaid i gyrff sy'n cyflogi sicrhau bod staff digonol, addas yn cael eu cyflogi i weithio yn yr ysgol i ddarparu addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd ac anghenion y disgyblion. Rydym newydd gael y ffigurau ar gyfer faint o arian y mae llywodraeth leol wedi ei fuddsoddi mewn ysgolion eleni, ac mae hynny'n galonogol iawn mewn gwirionedd, gan ei fod yn dangos cynnydd o 7 y cant, sy'n fy nghalonogi'n fawr, o ystyried y pwysau ariannol sydd ar bawb ohonom.

Rwy'n rhyfeddu braidd at y diffyg hunanymwybyddiaeth wrth ymosod arnom ynghylch y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector pan oedd ein cyllideb, pan ddechreuodd y cylch cyllidebol, yn werth £1.3 biliwn yn llai oherwydd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Mae ein cyllideb bresennol yn werth £700 miliwn yn llai oherwydd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Er gwaethaf hynny, fe wnaethom y penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a llywodraeth leol i ariannu ein hysgolion. Gan fod gennym Lywodraeth Lafur newydd yn San Steffan bellach sy'n gweld gwerth ein gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol ein plant—nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos oherwydd yr hyn a etifeddwyd yn sgil 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd—rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau gweld buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym ymrwymiad maniffesto ar lefel Plaid Lafur y DU ac yma yng Nghymru i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein hathrawon.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:02, 10 Gorffennaf 2024

Does yna ddim amheuaeth bod y sefyllfa efo niferoedd athrawon yn argyfyngus, ac yn arbennig, felly, efo athrawon cyfrwng Cymraeg, sydd hyd yn oed yn waeth. Mae'r ffaith bod Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu peidio â pharhau â'r cwrs hyfforddi athrawon am wneud pethau'n waeth fyth, yn enwedig i ysgolion cyfrwng Cymraeg ardal Dwyfor Meirionnydd, fel dwi'n ei chynrychioli, er enghraifft, sy'n ddibynnol ar Brifysgol Aberystwyth i ddarparu'r athrawon hynny ar gyfer ein hysgolion ni. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael â Phrifysgol Aberystwyth ynghylch hynny, a beth ydych chi am ei wneud er mwyn sicrhau bod nifer yn fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg am ddod drwy'r system?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 3:03, 10 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mabon. Fe fyddwch yn ymwybodol fod penderfyniad Prifysgol Aberystwyth i dynnu'n ôl o addysg gychwynnol i athrawon wedi deillio o'r broses annibynnol a wneir ar ein rhan gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Nid yw hynny'n rhywbeth a wnawn ni yn y Llywodraeth, a phenderfynodd Prifysgol Aberystwyth beidio ag apelio yn erbyn hynny. Roedd ein hymdrechion yn canolbwyntio felly ar geisio cefnogi'r bobl a gofrestrwyd i wneud eu hyfforddiant addysg gychwynnol i athrawon yn Aberystwyth—o'r hyn a gofiaf, roedd tua 21 o bobl—i wneud yn siŵr fod ganddynt ddarpariaeth amgen.

Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r angen i gael cyflenwad da iawn o athrawon cyfrwng Cymraeg. Nid ar gyfer ysgolion Cymraeg yn unig y mae hynny—yn fy etholaeth i, rwy'n gweld ysgolion yn ei chael hi'n anodd, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael hynny. Dyna pam mae gennym ein cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a bydd y rhai newydd yn dod i law imi gael golwg arnynt y mis hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, yn cyflwyno Bil addysg Gymraeg yn fuan iawn, a fydd yn gosod dyletswyddau statudol ynghylch cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd hynny'n galw am newid sylweddol yn ein hymagwedd tuag at y gweithlu cyfrwng Cymraeg.