2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
1. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i annog pobl ifanc i ddysgu chwarae offerynnau cerddorol? OQ61431
Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc, rhwng tair ac 16 oed, i elwa ar gyfleoedd i chwarae offeryn cerddorol, gan gynnwys drwy raglenni ysgolion fel Profiadau Cyntaf a Llwybrau Cerddoriaeth.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, ac rwy'n croesawu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'r rhaglen ysgolion yn fawr, ond fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwyf wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i achub adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan arweiniad Rhianon Passmore ac eraill ar draws y Siambr, ac mae disgwyl i goleg brenhinol Cymru wneud cyhoeddiad ar y canlyniad ddydd Gwener nesaf, 19 Gorffennaf. A hoffwn ailadrodd, mae mwy na 400 o blant yn mynychu'r conservatoire iau. Dyma'r unig wasanaeth o'i fath yng Nghymru, sy'n darparu addysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae dros 50 y cant o'r plant yn derbyn bwrsariaethau oherwydd incwm y teulu. Ac wrth gwrs, mae'r plant hyn yn dod o bob cefndir ac yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru mewn cerddorfeydd a theatrau ar draws y byd. Pe bai'r adran iau yn cau, Cymru fyddai'r unig wlad yn y DU heb conservatoire iau pwrpasol, sy'n golygu y byddai ein pobl ifanc dan anfantais sylweddol. Ac yn amlwg, mae i'r conservatoire ei le fel y datblygiad o'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â phennaeth y coleg, ac fe wnaethom ei drafod mewn cwestiynau busnes ddoe, ond tybed a allai ddweud wrthym beth oedd canlyniad y cyfarfod hwnnw.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Julie. Gwn y bydd y cynigion i gau'r adran iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi peri pryder i bawb dan sylw. Mae'n bwysig cofio bod y coleg yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am ei faterion academaidd ei hun. Maent wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd ym myd cerddoriaeth i bobl ifanc ac i greu llwybrau i hyfforddiant proffesiynol a byddant yn parhau i ddarparu gwaith prosiect mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyfres o weithdai trochi ar benwythnosau mewn cerddoriaeth, cyfnodau preswyl y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol a chyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu.
Yn wir, cyfarfûm â phennaeth y coleg ddydd Llun. Cefais sgwrs ddefnyddiol gyda hi. Cefais fy sicrhau o'i hymrwymiad hi a'i thîm i wasanaethau cerddoriaeth ieuenctid, ac er bod y pwysau ariannol y mae'r coleg yn eu hwynebu, fel llawer o brifysgolion yng Nghymru ac ar draws y DU, yn un o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â'r cynigion presennol, mae yna ymrwymiad gwirioneddol hefyd i sicrhau bod gweithgarwch ieuenctid yn gynhwysol ac yn genedlaethol ei gyrhaeddiad a'i fod wedi ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Ac er bod y ddarpariaeth bresennol yn hynod werthfawr i'r rhai sy'n elwa ohoni, mae'r mwyafrif helaeth—bron 80 y cant—yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau yn ne-ddwyrain Cymru. Er enghraifft, nid oes unrhyw fyfyrwyr o ogledd Cymru a Cheredigion. Ac o ran y bwrsariaethau, mae'r ffigurau a gefais yn dangos bod 24 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth ifanc yn derbyn bwrsariaeth. Fel y mae'r Aelod wedi nodi, mae'r broses yn parhau, ac mae disgwyl i'r coleg wneud cyhoeddiad ar 19 Gorffennaf.
Un o'r pethau sy'n drawiadol yn eich ymateb i gwestiwn Julie Morgan yw'r ffaith bod 80 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth sy'n defnyddio'r coleg cerdd a drama yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, felly pan fyddwch chi'n cyfarfod â'r coleg, a ydych chi'n pwysleisio pwysigrwydd darparu cyfleoedd addysg cerddoriaeth i bob darpar ddisgybl ledled Cymru? Ni waeth lle maent yn byw, dylai pawb gael mynediad cyfartal at addysg cerddoriaeth os ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y maes astudio hwnnw. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r sector cerddoriaeth er mwyn darparu cyfleoedd cyfartal i bobl ledled Cymru, ni waeth lle maent yn byw?
Diolch yn fawr, Gareth, ac yn wir, roedd hwnnw'n un o'r materion a drafodais gyda'r pennaeth. Os ydym yn sôn am ysgol gerddoriaeth genedlaethol, mae angen iddo fod yn wasanaeth cenedlaethol, ac mae'r coleg yn ymwybodol iawn o hynny, ac er eu bod yn mynd drwy'r broses hon ar hyn o bryd, maent yn ystyried sut y gallant sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnig i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.
Ni fyddwn eisiau i chi feddwl, oherwydd yr hyn a ddywedais am ffocws y coleg brenhinol yn y de-ddwyrain, nad ydym yn cynnig cyfleoedd cerddoriaeth ledled Cymru gyfan. Mae ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn darparu ystod o raglenni ar gyfer ysgolion ledled Cymru, sy'n cynnwys Profiadau Cyntaf mewn ysgolion cynradd, Llwybrau Cerddoriaeth mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â hyfforddiant cerddorol a cherddoriaeth fyw yn ehangach, ac mae'r cynlluniau hyn hefyd yn cael eu cefnogi gan blatfform cerddoriaeth digidol Charanga Cymru, sydd, hyd yma, wedi cael ei ddefnyddio gan dros 1,000 o ysgolion yng Nghymru, a hyd yma rydym wedi buddsoddi dros £13 miliwn yn y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Gallais ymuno â nhw mewn dathliad yn ddiweddar, ac mae'n wirioneddol wych, ond rydych chi'n gwneud pwynt pwysig y dylai cerddoriaeth fod ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Hoffwn dalu teyrnged i Julie Morgan hefyd am ei gwaith a'i chefnogaeth i fywyd diwylliannol Cymru.
Felly, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig cydnabod arwyddocâd arloesol y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol cyntaf, ac yn arbennig, roeddwn eisiau talu teyrnged i Mari Pritchard am ei harweinyddiaeth arloesol. Ac rydych chi wedi sôn am rai o'r rhaglenni Cymru gyfan sy'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus iawn.
Mae fy nghwestiwn heddiw yn amlwg yn ymwneud â'r pyramid dilyniant pwysig iawn sy'n ganolog i'r cynllun cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth, a'r angen i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gael rhaglen ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, ac mae llawer o'r rheini'n dod o etholaethau'r Cymoedd. Mae'n bwysig nodi, felly, nad yw'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn darparu ar gyfer y garfan honno, ac ni fwriadwyd iddo wneud hynny erioed, ac mae hefyd yn amlwg fod Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd hefyd yn lleoliad i rai o'n disgyblion o ogledd Cymru, ac mae'n bwysig fod y coleg yn cyflwyno rhaglenni mewn hybiau fel y gall ei wneud.
Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i'r lle hwn fod y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol yn dal i fod yn hyfyw mewn perthynas ag ysgol iau ar ddyddiau Sadwrn, a bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau adferiad adran iau briodol a model ariannu newydd yn y dyfodol sy'n addas ar gyfer conservatoire, fel sydd gennym ar draws y Deyrnas Unedig, i ariannu'r adran iau? Ac a wnaiff hi fynd ati ar frys i asesu sut mae hyn wedi digwydd a phwysleisio'r angen am adran iau ddwyieithog i'r conservatoire yng Nghymru?
Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i geisio unioni'r sefyllfa hon i'r disgyblion gofidus, o ran eu cynnydd cerddorol a'r bwlch sydd ganddynt nawr a'u materion diogelu, ac i'r tiwtoriaid sydd bellach yn edrych y tu hwnt i Gymru—gwlad y gân—am gyflogaeth ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac yn amlwg rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad cryf yn y maes hwn ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi cyn diwedd y tymor i drafod hyn. Fel y dywedais wrth Julie Morgan, mae yna broses ar y gweill a bydd y coleg brenhinol yn gwneud cyhoeddiad yn seiliedig ar ei ymgynghoriadau. Rwyf wedi cael sicrwydd eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd parhaus i blant a phobl ifanc. Nid yw'r ffigurau a welais yn awgrymu bod cymaint â hynny o blant a phobl ifanc o'r Cymoedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Fel y dywedais, mae 80 y cant yn dod o Gaerdydd ac ardal y de-ddwyrain. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo i geisio sicrhau bod cynnig cynhwysol ar gyfer Cymru gyfan.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynnig cynhwysol, ond mae 50 y cant o'r disgyblion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn derbyn bwrsariaethau oherwydd eu hamgylchiadau incwm. Felly, efallai fod Caerdydd yn ymddangos fel dinas gyfoethog—nid yw hynny'n wir. Mae yna ardaloedd enfawr o amddifadedd ac mae'r bobl ifanc hyn yn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Ac mae ychydig yn anodd gweld sut y byddai plentyn tair oed yn gallu teithio o sir Benfro neu ogledd Cymru er mwyn cymryd rhan yn y conservatoire iau, ac rwy'n credu bod angen gwneud llawer iawn o ailfeddwl ar y mater.
Ac rwy'n siomedig iawn o glywed bod y pennaeth wedi gwrthod cyfarfod â Jim Walker, a sefydlodd y gwasanaeth hwn yn ôl yng nghanol y 1990au, ac nid yw'n ymddangos ei fod yn ystyried y cynigion sy'n dod gan y staff i leihau hyd y conservatoire, a fyddai'n arbed 20 y cant neu fwy ar unwaith, yn dibynnu ar faint y byddant yn cyfyngu ar y gwasanaeth. Oherwydd byddai ei ddileu'n gyfan gwbl yn golygu na fydd yn bodoli mwyach, ond pe gallem leihau'r gwasanaeth i'w wneud yn gynaliadwy yn y tymor byr tra bod cyllid yn brin, byddai'n rhoi cyfle inni ddod o hyd i ffynonellau cyllid amgen i alluogi'r holl bobl ifanc ddifreintiedig hyn—50 y cant ohonynt ar incwm isel—i ddod yn gerddorion proffesiynol yn y dyfodol, os mai dyna fyddent yn dewis ei wneud. Ond os ydym yn ei ddileu, nid fydd conservatoire i bobl ifanc yn y wlad hon, ac mae dweud yn syml, 'Wel, am nad yw'n bodoli yng ngogledd Cymru, mae angen inni dorri ei goesau i ffwrdd', yn—. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, nad yw yn y Siambr mwyach, neu'n wir Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, i ddod o hyd i ateb cyn tynnu'r plwg ar y gwaith gwych sydd wedi bod yn digwydd ers bron i 20 mlynedd.
Diolch, Jenny, ac fel y dywedais wrth Julie Morgan, mae'r ffigurau a gefais yn dangos bod 24 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth ifanc yn derbyn bwrsariaeth ffioedd. Ac nid oes unrhyw gwestiwn o fod heb unrhyw ddarpariaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae'n fater o—. Mae pob prifysgol yn profi anawsterau ariannol, mae llawer ohonynt yn edrych ar eu modelau gweithredu. Ond fel y dywedais wrth Julie, nid ymarfer ariannol yn unig yw hwn; mae'n ymwneud hefyd ag edrych ar gynwysoldeb a sut y darperir y gwasanaethau ledled Cymru a sut maent mor gynhwysol â phosibl.
Mae proses statudol yn parhau, ac ni allaf wneud sylw ar yr hyn y mae'r coleg brenhinol—pa gyfarfodydd y mae'r coleg brenhinol—wedi derbyn neu heb ei dderbyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo i ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 19 Gorffennaf ar ôl iddynt adolygu'r holl sylwadau a ddaeth i law, a bydd cyhoeddiad pellach wedyn.
Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â'i chyfeiriad at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, fod angen inni ystyried y pwysau ariannol enfawr sydd arnom fel Llywodraeth. Aethom i mewn i'r rownd gyllidebol hon gyda diffyg o £1.3 biliwn. Mae goblygiadau wedi bod i hynny. Roedd hynny allan o'n rheolaeth ni, ac yn deillio o ddiffyg buddsoddiad San Steffan. Mae'r gyllideb yng Nghymru ar gyfer addysg yn dal i fod £700 miliwn yn llai nag y byddem yn disgwyl iddi fod. Felly, mae'n rhaid cydnabod y problemau ariannol anodd iawn sy'n ein hwynebu ar draws y Llywodraeth.