1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Senedd Cymru am ar 10 Gorffennaf 2024.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau o ran tai? OQ61423
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu mwy o gartrefi i ddiwallu anghenion pobl ledled Cymru. Rydym wedi dyrannu £1.4 biliwn ar gyfer tai cymdeithasol, ac yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Senedd hon, rydym wedi llwyddo i ddarparu 5,775 o gartrefi tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi i’w gosod ar rent yn y sector tai cymdeithasol.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2021, cyhoeddodd Plaid Lafur Cymru eu targed o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i’w gosod ar rent erbyn 2026, fel rydych chi newydd amlinellu, ond yn ôl yr amcanestyniadau presennol, ymddengys eich bod yn mynd i fethu’r targed hwn. Fel y dywedwyd, mae gennym argyfwng tai. Mae prinder enbyd o dai fforddiadwy yng Nghymru, ac yn sicr, nid oes cymaint o dai â'r nifer a addawyd gan y Llywodraeth hon. Y blaendal cyfartalog oedd £50,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf y llynedd, sy'n gynnydd o 67 y cant o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Nid yw’n syndod fod canran y prynwyr tro cyntaf wedi gostwng 21 y cant o gymharu â 2022, ac mewn ardaloedd gwledig, mae fforddiadwyedd yn waeth, gyda swyddog yng Nghyngor Sir Fynwy yn dweud bod prisiau tai yn yr ardal hon 10 gwaith yn fwy na’r incwm blynyddol cyfartalog. O’r ffigurau a welais ac rydych chi newydd gyfeirio atynt, ymddengys y bydd llai na hanner y tai rydych chi'n eu hadeiladu yn fforddiadwy. Ysgrifennydd y Cabinet, beth rydych chi a’ch Llywodraeth yn ei wneud i unioni’r sefyllfa gyda'r gyllideb sydd gennych, a chyda dyraniadau cyllidebol yn y dyfodol, ac i adeiladu’r tai y mae eu hangen mor daer ar bobl, yn enwedig tai fforddiadwy?
Rydym wedi bod yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn y grant tai cymdeithasol i gyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon, ac wrth gwrs, nid ydych chi byth yn adeiladu nifer penodol o gartrefi ym mhob blwyddyn; rydych chi bob amser yn cynyddu'r rhaglen dros gyfnod o amser. Ond byddwn yn dweud bod ein cyflawniad yma yng Nghymru gymaint yn well na dros y ffin. Yn Lloegr, yn 2022-23, dim ond 15 y cant o’r tai fforddiadwy a ddarparwyd a oedd yn dai rhent cymdeithasol. Yma yng Nghymru, tai rhent cymdeithasol oedd 82 y cant o’r holl dai fforddiadwy a ddarparwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn yr un flwyddyn.
Felly, fel Llywodraeth, rydym yn llwyr gydnabod y gall tai fforddiadwy o ansawdd da gael effaith gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl, addysg, a dyna pam nad ydym erioed wedi cefnu ar ein cefnogaeth i'r tai mwyaf fforddiadwy, sef tai rhent cymdeithasol, ac mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr, lle mae’r ddarpariaeth o gartrefi rhent cymdeithasol wedi gostwng 76 y cant ers 2010.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn adeiladwr tai, ond gall weithredu fel galluogwr, a byddai adeiladu tai cyngor ar yr un raddfa â’r 1950au a’r 1960au yn lleihau nifer y bobl sydd angen tai yn sylweddol. A wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i ehangu nifer y prosiectau tai cydweithredol? Oherwydd gŵyr pob un ohonom fod honno'n ffurf gyffredin ar ddarparu tai o Efrog Newydd i Sgandinafia, a’r rhan fwyaf o leoedd rhyngddynt. Fel y dywedaf yn aml, roedd John Lennon yn byw mewn darpariaeth dai cydweithredol. Pa gymorth pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i dyfu'r gyfran o ddarpariaeth dai Cymru sy'n dai cydweithredol?
Mae gennym ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol, ac rydym wedi cynyddu ein cyllid drwy Cwmpas i £180,000 dros y tair blynedd rhwng 2022-23 a 2024-25. Mae Cwmpas yn gweithio gyda grwpiau ledled Cymru sy’n ceisio darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys mentrau cydweithredol a grwpiau cymunedol llwyddiannus a newydd yn Abertawe, Caerdydd, Gwynedd a sir Benfro, ac rydym yn parhau i gefnogi grwpiau cydweithredol a grwpiau a arweinir gan y gymuned sy’n dymuno datblygu cartrefi newydd i gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, lle maent yn partneru gyda landlord cymdeithasol cofrestredig. Ar hyn o bryd, mae pedwar grŵp yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, ac wrth gwrs, gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad at y rhaglen grant cartrefi gwag hefyd.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi cryfhau ein cyllid cyfalaf drwy weithio gyda Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr yn Abertawe i dreialu’r gronfa datblygu tir ac adeiladau sy’n cael ei defnyddio ar gyfer mentrau cydweithredol hefyd. Felly, mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr wedi derbyn bron i £900,000 i ddatblygu 14 o dai fforddiadwy di-garbon, ac mae grwpiau eraill bellach yn awyddus i weithio gyda Cwmpas hefyd. Felly, wrth i’r cynlluniau penodol hyn ddod yn fwy gweladwy ac wrth i’r wybodaeth gynyddu a chael ei rhannu’n ehangach, credaf y byddwn yn gweld awydd cynyddol am y cynlluniau hyn. Dros flynyddoedd blaenorol, rwy'n credu bod hynny wedi bod yn rhan o’r her—ni chafwyd awydd o’r gwaelod i fyny am y cynlluniau hyn—ond wrth i ni eu gweld yn dechrau ac yn llwyddo, byddwn yn sicr yn gweld hynny’n tyfu yn fy marn i.