Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Diolch, Llywydd. Pleser i mi yw gwneud y cynnig Cyfnod 4 ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Yn ystod oes y Senedd hon, rŷn ni wedi cyflwyno deddfwriaeth radical ac arloesol. Mae'r Bil yma yn un o'r rhai mwyaf radical, am ei fod yn mynd at wraidd ein democratiaeth, ein system etholiadol. Mae'n cyflwyno nid yn unig system reoli newydd ar gyfer etholiadau Cymru, ond hefyd system i gofrestru etholwyr yn awtomatig. Trwy wneud y gofrestr etholiadol yn ddigidol, mae'n agor y drws i gyfle technolegol i wneud ein system etholiadol yn fwy hygyrch nag erioed yn ein hanes ni.