5. Cyfnod 4 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 4:30, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau a gyflwynwyd. Gan gyfeirio at sylwadau Jane Dodds yn olaf oll, mae iechyd ein democratiaeth, rwy'n credu, yn fater mor bwysig. O ran y pwyntiau a godwyd gennych rydym i gyd yn ymwybodol ohonynt ac wedi cael sylwadau arnynt. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i'n sefydlogrwydd, ond hefyd i'n rhyddid sylfaenol. Wrth gwrs, mae'r gallu i wneud y newidiadau hyn heddiw—a'r rhain yn newidiadau radical iawn—yn dod o Ddeddf Cymru 2017. Roedd yn un o'r prif rannau pam roeddwn i mor gefnogol i'r Ddeddf honno, oherwydd os nad oes gennych reolaeth dros eich system etholiadol, rydych chi'n cael eich dadrymuso i bob pwrpas, ac mae ein gallu ni heddiw i wneud newid radical yn etholiadol ac i foderneiddio ein system yn bwysig iawn.

Os caf gyfeirio at sylwadau Peter Fox, rwy'n siomedig iawn nad yw'r wrthblaid Geidwadol yn cefnogi'r Bil hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud reit ar y dechrau roeddwn bob amser yn meddwl na fyddech chi fel grŵp, oherwydd mae'r Blaid Geidwadol wedi cefnogi pob math o ddulliau o atal pleidleiswyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mor siomedig eich bod mewn gwirionedd yn gwrthwynebu cyflwyno cofrestru awtomatig a'r posibilrwydd y bydd 400,000 o etholwyr eraill o Gymru ar y gofrestr etholiadol. Rydw i mor siomedig oherwydd rwy'n amau mai dyna'r prif reswm pam eich bod chi mewn gwirionedd yn gwrthwynebu'r Bil hwn—oherwydd ei fod yn agor democratiaeth mewn ffordd a fyddai'n llawer mwy cynhwysol yn fy marn i ac yn cynnwys llawer mwy o bobl. Rwy'n credu eich bod wedi cael trafferth dod o hyd i resymau dros wrthwynebu'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ailystyried, ond rwy'n amau y bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Adam, o ran y pwynt a godoch chi, rwyf yn cymryd sylw manwl o'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ar amrywiaeth. Mae amrywiaeth a chynwysoldeb yn rhan bwysig iawn o'r Bil penodol hwn. Mewn gwirionedd, mae'r Bil hwn yn mynd â ni ymhellach yn y meysydd penodol hynny rwy'n credu nac mewn unrhyw ddeddfwriaeth flaenorol arall. Mae'r materion sy'n ymwneud â digideiddio'r gofrestr etholiadol yn agor y drws i newid radical, dramatig iawn a sylfaenol iawn. Rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth hon yn gam arwyddocaol iawn ymlaen.

Diolch am y gefnogaeth. Rwy'n annog pob Aelod nawr i gefnogi Cyfnod 4 fel y gall y ddeddfwriaeth radical hon—sy'n torri tir newydd ar gyfer y DU—fynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol. Diolch.