Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 9 Gorffennaf 2024.
Byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi'r Bil pwysig yma oherwydd y cynnydd y mae'n cynrychioli o ran diwygio democrataidd yng Nghymru, a phrif ganolbwynt, wrth gwrs, y Bil, o ran cofrestru awtomatig, fel oedd y Cwnsler Cyffredinol yn sôn, fydd yn sicrhau bod ein democratiaeth ni yn gallu cynrychioli barn ein dinasyddion yn fwy effeithiol. Rŷn ni hefyd yn croesawu rhai agweddau eraill ar y Bil yr oedd y Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio atyn nhw, sef ymgais i sicrhau gwell amrywiaeth o fewn ein strwythurau democrataidd ni, ar lefel Senedd Cymru ac ar lefel llywodraeth leol, a hynny unwaith eto er mwyn sicrhau bod ein democratiaeth ni yn gallu adlewyrchu'r gymdeithas yn gyfan oll, felly, a hefyd creu a theilwra cynlluniau unigol i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth o ran rhai adrannau pwysig o'r gymdeithas. Felly, rŷn ni'n croesawu'r elfennau positif hynny.
Rŷn ni yn siomedig, fel y crybwyllwyd gan Peter Fox, fod yna rai gwelliannau ddim wedi cael eu derbyn gan y Llywodraeth, er enghraifft, y gwelliannau oedd yn ymwneud â hygyrchedd—gallu pobl ddall, er enghraifft, i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mewn ffordd gydradd. Hefyd, rŷn ni yn siomedig iawn o hyd â gwrthodiad y Llywodraeth o ran gosod y system etholiadol ar sail ieithyddol gydradd, a gosod y system etholiadol o dan safonau'r Gymraeg, a dŷn ni dal yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn newid ei barn ynglŷn â hynny.
Roedd nifer o bethau eraill oedd wedi cael eu hawgrymu yn ystod y broses o drafod, er enghraifft, ymgais i ddefnyddio'r gallu sydd gennym ni i reoleiddio effaith negyddol posibl deallusrwydd artiffisial, fideos ffug, deepfake, ac yn y blaen. Mae Lee Waters wedi cynnig rhai sylwadau ynglŷn â hyn ar sail y seminar roedd e'n rhan ohono fe yn Singapôr yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn bwnc y gallwn ni ddychwelyd ato fe maes o law, ac os nad os yna weithredu ar lefel y Deyrnas Gyfunol, fe ddylem ni yn sicr ddefnyddio'r pŵer sydd gyda ni i reoleiddio ein democratiaeth ni ein hunain yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'r gwelliannau mi oedd y Llywodraeth wedi'u derbyn. Byddwn i wedi hoffi gweld mwy o ymgysylltu a mwy o barodrwydd i gydweithio, i adlewyrchu'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn y lle yma. Mi fyddwn ni yn cefnogi y Cyfnod 4, ond heb fod yna rai o'r gwrthbleidiau yn cefnogi'r Llywodraeth ar y pwynt yma, mi fyddai'r Bil yma yn cael ei golli. Felly, mae'n rhaid, dwi'n credu, gwella y ffyrdd rŷn ni'n cydweithio'n drawsbleidiol ar draws y Senedd, i adlewyrchu rhifyddeg ein democratiaeth ni, a bod yna ddim monopoli gan unrhyw blaid, gan gynnwys y blaid lywodraethol, ar wirionedd neu syniadau da.
Mi ddylwn i gyfeirio, fel oedd y Cwnsler Cyffredinol a Peter Fox wedi cyfeirio, at un o bynciau trafod mawr y Bil yma, sef y cwestiwn yma o ddichell, sydd yn bwnc hanfodol o bwysig ar gyfer nid yn unig ein democratiaeth ni yng Nghymru, ond ar draws y byd ar hyn o bryd. Dŷn ni'n edrych ymlaen nawr i gydweithio ar y sail drawsbleidiol honno wrth inni gymryd y syniad yma a'i roi ar waith yng nghyfrwng y Bil oedd wedi cael ei grybwyll yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn gynharach heddiw.
Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â diffyg ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth ni, oherwydd dŷn ni'n wynebu her a chreisis mewn democratiaeth. Fe welon ni y canran isel oedd wedi cymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru—dim ond 56 y cant—felly mae yna heriau gyda ni o ran cryfhau ein democratiaeth ni. Buaswn i'n dweud mai dim ond drwy ysbryd trawsbleidiol, cydweithredol, pawb yn cynnig syniadau, pawb yn ceisio gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd y nod mae'n siŵr ein bod ni i gyd yn ei rannu, sef cael y ddemocratiaeth fwyaf hyfyw posibl y gallwn ni ei chael yng Nghymru—. Yn yr ysbryd hwnnw, byddwn ni'n cefnogi'r Bil yng Nghyfnod 4. Rŷn ni'n croesawu'r cynnydd mae e'n ei gynrychioli, ond yn edrych ymlaen at gario ymlaen i'r bennod nesaf yn y Bil arall wnes i ei grybwyll gynnau.