4. Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024

– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 9 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:08, 9 Gorffennaf 2024

Yr eitem nesaf fydd eitem 4, y Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 yw’r eitem yma, ac felly, yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i gyflwyno’r cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8632 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 4:09, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Os yw'r Senedd yn eu cymeradwyo heddiw, rwy'n disgwyl iddynt ddod i rym ddydd Gwener. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi codi pwynt craffu technegol ac rydym wedi ymateb. Mae'r camgymeriad bach iawn a nodwyd yn yr offeryn statudol drafft bellach wedi'i gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Bydd y rheoliadau yn gwneud newidiadau i reolau ad-daliadau cyfraddau preswyl uwch ac eithriadau treth trafodiadau tir. Mae ad-daliadau rhannol treth trafodiadau tir ar gael i'r rhai sydd wedi talu'r cyfraddau preswyl uwch wrth brynu cartref newydd cyn gwerthu eu cartref presennol. Mae eithriadau cyfraddau preswyl uwch treth trafodiadau tir ar gael i'r rhai sy'n gwerthu eu hen gartref cyn prynu un newydd ond sy'n berchen ar fuddiant mewn annedd arall ar yr adeg y maent yn prynu'r cartref newydd. Mae'r ad-daliad a'r cyfnodau eithrio ar gael am dair blynedd o adeg trafodiad perthnasol ac maent yn fuddiol i brynwyr tai sy'n pontio rhwng cartrefi.

Mae tystiolaeth yn dangos, er bod tair blynedd fel arfer yn ddigon hir i gefnogi prynwyr tai, gall fod yn rhy fyr mewn rhai amgylchiadau gwirioneddol eithriadol. Felly, rydym yn cynnig ymestyn yr ad-daliad a'r cyfnodau eithrio heb gyfyngiad ar gyfer trafodiadau eiddo sy'n cael eu gohirio gan ddiffygion diogelwch tân heb eu datrys a chyfyngiadau brys. O ran diffygion diogelwch tân heb eu datrys, bydd y rheolau newydd yn caniatáu hawliadau ad-daliad yn y dyfodol mewn perthynas â thrafodiadau sy'n digwydd ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym, ond hefyd mewn perthynas â hawliadau pryd y mae'r cyfnod o dair blynedd eisoes wedi dod i ben, ar yr amod y byddent wedi bod yn gymwys fel arall o fewn y cyfnod tair blynedd gwreiddiol. O ran cyfyngiadau brys, bydd y rheolau newydd yn ymestyn y cyfnod o dair blynedd ar gyfer ad-daliadau ac eithriadau sy'n ymwneud â thrafodiadau perthnasol lle bydd cyfyngiadau brys o'r fath yn digwydd yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi dangos rhywfaint o gefnogaeth i'r cynigion, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:11, 9 Gorffennaf 2024

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Trafododd y pwyllgor y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf, ac mae ein hadroddiad, sy'n cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, ar gael ar agenda heddiw. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd ei amlinellu, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a byddant yn ymestyn y cyfnodau tair blynedd sy'n berthnasol i amnewid eithriad prif breswylfa rhag cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet felly'n arfer pŵer Harri'r VIII sydd ar gael i Weinidogion Cymru.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dim ond un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau. Dim ond ymateb gan y Llywodraeth i'r pwynt adrodd technegol y gwnaethom ofyn amdano, a byddaf yn crynhoi hyn yn fyr fel a ganlyn. Mae paragraff 35 o Atodlen 5 i'r Ddeddf treth trafodiadau tir yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phan fo gan brynwr fuddiant mawr mewn annedd y tu allan i Gymru. Nid oedd y pwyllgor yn glir pam fod y rheoliadau'n ychwanegu cyfeiriadau penodol at is-baragraff (4) paragraff 35. Gellir dod o hyd i'r manylion penodol yn ein hadroddiad. Gofynnom i'r Llywodraeth egluro'r dull a gymerwyd o ymdrin â'r cyfeiriadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt yr ydym wedi'i godi, ac yn mynd i ddiwygio'r rheoliadau cyn eu gwneud fel bod y cyfeiriadau y nodwyd gennym fel rhai anghywir yn cael eu dileu.

A gaf i ddweud, ar nodyn personol, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y newidiadau sy'n cael eu gwneud? Rwy'n credu y byddant o fudd i nifer o bobl, felly diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:12, 9 Gorffennaf 2024

Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr, ac felly ydy Ysgrifennydd y Cabinet eisiau ymateb? Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 4:13, 9 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Dim ond i ddweud diolch yn fawr iawn i Mike Hedges, yn enwedig am y sylwadau terfynol yna a wnaed o safbwynt mwy personol, ond hefyd iddo ef a'i bwyllgor am y gwaith y maent wedi'i wneud, yn enwedig wrth nodi'r camgymeriad drafftio bach hwnnw. Fel y dywedais i, rydym bellach wedi dileu'r cyfeiriadau y cyfeiriodd Mike Hedges atynt, ac mae swyddogion wedi ateb adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac mae testun yr offeryn statudol wedi'i gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Ac yna dim ond cytuno eto gyda Mike Hedges fod y rheoliadau hyn yn bwysig iawn i bobl sy'n cael eu hunain mewn rhai amgylchiadau anodd ond eithriadol iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.